Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn ehangu gwasanaethau llyfrgelloedd ar-lein

Mae llyfrgelloedd Bro Morgannwg wedi ehangu’r gwasanaethau ar-lein sydd ar gael yn ystod argyfwng y Coronafeirws, yn dilyn buddsoddiad gwerth £100,000. Mae’r Cyngor yn cynnig llu o ddosbarthiadau digidol hefyd

 

  • Dydd Gwener, 01 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



Er bod yr adeiladau eu hunain yn parhau ar gau, mae technoleg fodern yn galluogi trigolion i gael mynediad at deitlau yn ogystal â chyfleusterau llyfrgell eraill.


Roedd tua 250 o gylchgronau poblogaidd eisoes ar gael i’w lawrlwytho, ac mae’r nifer hon wedi cynyddu ar ôl i deitlau Disney gael eu hychwanegu at adran e-gylchgronau Comig.


Mae Ancestry.com, gwasanaeth tanysgrifio a ddefnyddir i olrhain hanes teuluol, hefyd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim erbyn hyn. Golyga hyn y gall aelodau llyfrgell fewngofnodi a chynnal ymchwiliad yn eu cartref.


Mae dros 200 o ddefnyddwyr newydd wedi ymuno â llyfrgelloedd y Fro yn ystod y mis diwethaf wrth i bobl chwilio am ffyrdd o gadw’n brysur gartref.


Gall unrhyw un arall sy’n dymuno ymaelodi â’r gwasanaeth wneud hyn drwy fynd i www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/enjoying/Libraries/Join-Your-Local-Library.aspx, a gellir dod o hyd i’r newyddion llyfrgell diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol.


Gall pob aelod, hen a newydd, y llyfrgell lawrlwytho apiau digidol BorrowBox a ULibrary a benthyg amrywiaeth eang o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar am ddim

 

Gallant hefyd ymuno ag app RBDigital a lawrlwytho cylchgronau a chomics yn ddi-dâl.


Mae sesiynau odli ac arwyddo ac amser stori dwyieithog ar gael yn fyw ac ar alw drwy Facebook, tra bod cyfarfodydd grŵp darllen yn cael eu cynnal dros y llwyfannau WhatsApp a Zoom.


Mae grŵp Facebook newydd o'r enw  Vale Libraries Lockdown Lit Group yn cynnig cyfle i aelodau o'n grwpiau darllen ac unrhyw un arall fforwm drafod llyfrau.


Mae'r holl ddirwyon wedi'u hepgor ac mae'r benthyciad o'r holl lyfrau a DVDs wedi'i adnewyddu'n awtomatig. Ac mae Clwb Lego ar-lein wedi ei gychwyn, gyda phlant yn anfon lluniau o'u creadigaethau Lego, yn seiliedig ar thema wythnosol.


Yn y cyfamser, bu timau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Dysgu Cymraeg y Cyngor yn cynnig dosbarthiadau a chymorth digidol ar-lein. 


Mae cyfanswm o 32 o gyrsiau Cymraeg i oedolion wedi cael eu trosi o wersi dosbarth i’r fformat hwn, gan alluogi pobl i ddysgu o gartref.


Mae tiwtoriaid yn defnyddio’r platfform ar-lein Zoom i gyfathrebu â dysgwyr, sydd wedi cael eu gwahodd i ymuno â dosbarthiadau amgen os yw eu dosbarthiadau arferol yn anaddas oherwydd y cyfyngiadau symud.


Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dysgu Cymraeg, wrthi’n diweddaru eu hadnoddau ar eu gwefan yn ddyddiol er mwyn galluogi dysgwyr i barhau i ymarfer gartref, gyda chymorth tiwtoriaid y Cyngor.


Bydd grwpiau sgwrsio anffurfiol, cyrsiau darllen a chwrs blasu deg wythnos i deuluoedd i gyd yn dechrau yn y dyfodol agos.


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: “Mae’n bwysig i bobl aros dan do yn ystod argyfwng y coronafeirws er mwyn helpu i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau. Rwy’n deall y gall fod yn anodd iawn peidio â chymdeithasu â theulu a ffrindiau, felly mae ein tîm llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod gwahanol adnoddau ar gael ar-lein i gadw pobl yn brysur.


“Mae detholiad eang o e-Lyfrau ac e-Gylchgronau i ddewis ohonyn nhw yn ogystal â dosbarthiadau y gall trigolion fanteisio arnynt o gysur eu cartrefi.”