Cost of Living Support Icon

 

Arwyr Enfys Canolfan Ddydd Cyngor Bro Morgannwg yn ffurfio 'Tîm A Cyfnod Clo’ newydd

Unodd staff gwasanaethau dydd New Horizons a Rondel House yn ystod cyfnod clo Covid-19 i barhau i ddarparu cymorth i'w defnyddwyr.

 

  • Dydd Gwener, 20 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Ers cau gwasanaethau dydd dros dro ar 18 Mawrth, mae staff cymorth o'r ddau wasanaeth wedi llwyddo i gydgysylltu gwasanaeth ymatebol i ddefnyddwyr eu gwasanaeth.

 

Daeth y gweithwyr Linda Ruston, Faye Harding a Jules Hiles, ynghyd â nifer o staff cymorth eraill, at ei gilydd i drefnu ymweliadau cartref a lles ynghyd â chymorth gofalwyr a seibiant i'w defnyddwyr rheolaidd.Fel rhan o hyn, roedd y tîm wrth law i helpu gyda gofal personol, galwadau siopa, gorchwylion domestig hanfodol, atgyweiriadau, cymorth cwympo, ymweliadau â meddygon teulu, casglu a dosbarthu presgripsiynau, cysylltu wythnosol ar y ffôn, a gwasanaeth prydau cludfwyd poeth.

 

Sefydlodd staff y gwasanaeth dydd Ganolfan Gludiadau PPE hefyd, gan helpu i gadw staff a phreswylwyr yn ddiogel yn ystod yr haint.

 

Mae staff New Horizons a Rondel House ill dau yn darparu cymorth i rhai ag anabledd corfforol, eiddilwch a dementia. Mae oedolion yn mynychu'r gwasanaeth dydd i elwa ar gyswllt cymdeithasol ac ysgogiad a ddarperir drwy amrywiaeth o weithgareddau a rhaglenni ymarfer corff.