Cost of Living Support Icon

 

Gorfodi yn y Fro yn mynd i fyny gêr

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi prynu Car Camera Gorfodi Parcio Sifil i gynorthwyo swyddogion gorfodi i ddelio â pharcio problematig.

 

  • Dydd Gwener, 11 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



Bydd y car camera yn nodi troseddau parcio gan gynnwys cerbydau sydd wedi'u parcio ar barthau Cadwch yn Glir Ysgolion, Croesfannau Cerddwyr, Clirffyrdd, Clirffyrdd Safle Bws a safleoedd Tacsi.

 

Ar hyn o bryd, mae Swyddogion Gorfodi Parcio Sifil yn ei chael hi'n anodd gorfodi parcio priodol ger ysgolion ac mewn ardaloedd problematig eraill ar droed. 

 

O 14 Medi tan 5 Hydref 2020, bydd hysbysiadau rhybuddio yn cael eu cyflwyno i unrhyw berchnogion cerbydau a welir yn torri rheoliadau parcio. Bydd y cyfnod hwn yn caniatáu i swyddogion brofi'r car a llwybrau dynodedig ac ymdrin ag unrhyw broblemau cychwynnol.   Yn dilyn y cyfnod hwn, bydd hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu cyflwyno.

 

Mae'r Cyngor wedi defnyddio ymgyrch 'Parcio’n Daclus' yn y gorffennol i annog parcio diogel a chyfreithlon. Credir y bydd car camera yn arf arall i atal parcio a stopio peryglus.

 

Mae'r Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth wedi croesawu'r defnydd o'r cerbyd yn ogystal â swyddogion gorfodi ar batrôl, gan ddweud:

'Rydym yn derbyn adroddiadau rheolaidd am barcio peryglus, yn enwedig gan ysgolion a rhieni sy'n poeni am ddiogelwch eu plant. Gobeithio y bydd croeso mawr i batrolau ceir camera ychwanegol a mwy effeithiol yn yr ardaloedd hyn. 

 

'Mae mwyafrif trigolion y Fro yn ofalus ac yn ystyriol wrth barcio. Gobeithio y bydd car camera a hysbysiadau cosb benodedig yn atal y lleiafrif sy'n achosi problemau rhag troseddu dro ar ôl tro.’ 

 Camera Enforcement Vehicle