Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd y cyhoedd i ddweud eu dweud ar gynnig addysg arbenigol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu cwestiynau a sylwadau ar y cynnig diweddar i drawsnewid addysg arbenigol yn y Fro.

 

  • Dydd Gwener, 11 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



Cymeradwywyd y strategaeth fis Gorffennaf diwethaf a'i nod yw bodloni anghenion dysgwyr mwyaf agored i niwed y sir yn well, yn ogystal ag ateb y galw a rhagwelir yn y dyfodol.

Mae’r strategaeth yn nodi tri tharged allweddol:

  • Sefydlu Canolfan Dysgu a Lles newydd, a fydd yn disodli Y Daith, uned cyfeirio disgyblion (UCD) cyfredol y Cyngor;
  • Sefydlu canolfannau adnoddau arbenigol (CAA) mewn ysgolion prif ffrwd i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael gafael ar addysg brif ffrwd;
  • Cynyddu capasiti’r ysgol arbennig, Ysgol y Deri (YYD) i ateb galw yn y dyfodol.

Bydd y strategaeth yn cael ei symud ymlaen trwy dri ymarfer ymgynghori ar wahân. Mae'r ymgynghoriad cyntaf yn canolbwyntio ar greu Canolfan Dysgu a Lles Newydd (CDALl) ac CAA yn Ysgol Gynradd Gladstone a fyddai'n rhan o Ysgol y Deri. Byddai'r ddarpariaeth newydd hon yn mabwysiadu dull gwybodus o drawma i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol cymhleth. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Llun, 07 Medi 2020 i ddydd Sul 18 Hydref 2020.

Byddai'r cynnig yn gweld buddsoddiad o £ 4.4m i adeiladu'r CDALl newydd ar safle Depo Court Road yn y Barri. Byddai holl staff a disgyblion y CDALl sydd newydd ei sefydlu yn trosglwyddo i'r adeilad newydd erbyn Ionawr 2023.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett:

“Mae'n wych gweld buddsoddiad pellach yn nyfodol addysg arbennig ym Mro Morgannwg. Mae gennym enw da am ddarparu adeiladau ysgol yr 21ain Ganrif sydd nid yn unig yn ar gyfer yr angen presennol ond hefyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Bydd y project yn helpu i symleiddio'r systemau presennol, yn ogystal â darparu cyfleusterau mwy modern i fodloni anghenion ein disgyblion yn well.

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i’r cyhoedd ddysgu i holi cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

Dweud eich dweud

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad naill ai trwy ein ffurflen ymateb ar-lein, neu drwy gwblhau’r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a’i dychwelyd i:

Rhadbost RTGU-JGBH-YYJZ
Ymgynghoriad y Ganolfan dros Ddysgu a Lles
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn
Y Barri, CF63 4RT

 

Ffurflen ymateb arlein

Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif: 

  • 01446 709828
  • 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk


Mae gennych tan Hydref 18 i ymateb i'r ymgynghoriad.