Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Changing Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchCyfuno Ysgol Gynradd Y Bont Faen ac Ysgol Gyfun Y Bont FaenEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

21st Century Schools LogoCanolfan Dysgu a Lles a Canolfan Adnoddau Ysgol Gynradd Gladstone 

 

Ymgynghoriad ar y cynnig i drawsnewid addysg arbenigol (cam i). 

 

Cyflwyniad i'r cynnig

Ar 9 Gorffennaf 2020, fe gymeradwyodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor strategaeth i drawsnewid addysg arbennig ym Mro Morgannwg i ateb y galw a ragwelir yn y dyfodol ac i ddiwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y ffordd orau bosibl. Roedd y strategaeth yn nodi tri maes allweddol:

  1. Sefydlu Canolfan Dysgu a Lles (CDaLl) newydd, a fydd yn disodli Y Daith, uned cyfeirio disgyblion (UCD) y Cyngor;
  2. Sefydlu canolfannau adnoddau arbenigol (CAA) mewn ysgolion prif ffrwd i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at addysg brif ffrwd; a hefyd
  3. Cynyddu capasiti Ysgol Y Deri (YYD), ysgol arbennig y Cyngor, i ateb y galw a ragwelir am addysg arbennig.

Fe wnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad o ddydd Llun 7 Medi 2020 tan ddydd Sul 18 Hydref 2020 ar gynnig i;

  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol yn ysgol gynradd Gladstone fel lloeren i Ysgol Y Deri (YYD) o fis Medi 2021;
  • dirwyn Y Daith i ben a sefydlu Canolfan Dysgu a Lles (CDaLl) newydd dan reolaeth Ysgol Y Deri (YYD) o fis Medi 2021; a
  • chodi adeilad newydd ar gyfer disgyblion y Ganolfan Dysgu a Lles (CDaLl) ar safle Depo Court Road yn y Barri o fis Ionawr 2023. 

   

Penderfyniad

Ar 8 Chwefror 2021, ystyriodd Cabinet Cyngor yr adroddiad gwrthwynebiadau a'r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd gymeradwyo'r cynnig. 


Bydd y cynnig yn golygu dirwyn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) bresennol y Cyngor, Y Daith, i ben, a sefydlu Canolfan Dysgu a Lles newydd o dan reolaeth Ysgol Y Deri. Bydd hefyd yn sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) newydd yn ysgol gynradd Gladstone a fydd yn gweithredu fel lloeren o Ysgol Y Deri.

Mae'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Gladstone wedi cael ei threialu ers mis Medi 2019. Mae'r ganolfan yn defnyddio ardaloedd o fewn yr adeiladau ysgol presennol. Cynigir bod hyn yn cael ei sefydlu'n ffurfiol o fis Medi 2021, gan barhau i ddefnyddio'r cyfleusterau presennol yn Ysgol Gynradd Gladstone.

Bydd corff llywodraethu Ysgol y Deri yn gweithio ochr yn ochr â phwyllgor rheoli Y Daith i sefydlu cynllun pontio a fydd yn cynnwys datblygu'r strwythur staffio ar gyfer y Ganolfan Dysgu a Lles newydd cyn mis Medi 2021.

Yn ogystal, bydd adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar safle Depo Court Road yn y Barri ar gyfer mis Ionawr 2023.  Bydd disgyblion a staff y Ganolfan Dysgu a Lles arfaethedig yn gweithredu o adeiladau presennol Y Daith yn y Bont-faen ac ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia yn y cyfamser. 

 
Dogfennau Ymgynghori

 

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch ag aelod o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw graddfa amser fwriadedig y datblygiad?

    Y bwriad yw y byddai’r cynnig yn cael ei roi ar waith erbyn mis Medi 2021. Byddai gwaith i adeiladu’r ysgol newydd ar safle Depo Court Road yn y Barri’n dechrau erbyn mis Rhagfyr 2021 ac yn cael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2023.

  • Sut fyddai goblygiadau posibl ar gyfer cludiant yn cael eu hystyried fel rhan o’r cynnig hwn? 

    Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am y broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi a byddai asesiad trafnidiaeth llawn yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses ddylunio. Byddai unrhyw oblygiadau a gâi eu hadnabod yn cael eu hystyried yn nyluniad yr adeilad newydd. Byddai’r contractwr yn cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer yr adeilad newydd.

  • Pwy fyddai’n rheoli’r broses o adeiladu’r adeilad ysgol newydd? 

    TTîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am reoli’r broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi gan ddefnyddio fframwaith SEWSCAP. Fframwaith adeiladu yw SEWSCAP a ddefnyddir gan 16 o awdurdodau lleol ac sy’n darparu Contractwyr sydd wedi cyn-gymhwyso ac sydd â phrofiad addas i gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac adeiladau cyhoeddus eraill, sy’n gysylltiedig â phrosiectau i godi adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau presennol y mae eu gwerth yn fwy nag £1.5 miliwn. Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch y cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. 

     

  • Sut fyddem ni’n cael ein cynnwys trwy gydol y broses ddylunio? 

    Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk



 

Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

21stC Schools - Oakfield
(Ysgol Gynradd Oak Field, 2015)

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building Indoor
(Ysgol Bro Morgannwg, 2014)


21stC Schools - Dewi Sant (hall2)
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)


21stC Schools - Dewi Sant
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)

 

Am ragor o wybodaeth am rai o Ysgolion yr 21ain Ganrif a adeiladwyd hyd yma ym Mro Morgannwg:

 

Manylion cyswllt