Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Uno Ysgol Fabanod Gatholig St Helen ac Ysgol Iau Gatholig St Helen

Ymgynghoriad ar y cynnig i uno Ysgol Fabanod Gatholig St Helen ac Ysgol Iau Gatholig St Helen

 

Rhwng 25 Ionawr 2016 a 18 Mawrth 2016 cynhaliodd Archesgobaeth  Babyddol Caerdydd a'r Chyrff Llywodraethol Ysgolion Babanod ac Iau Gatholig St. Helen ymgynghoriad ar y cynnig i uno'r ysgolion.

 

Cyhoeddiad Hysbysiad Cyhoddus Statudol

 

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori cytunodd y Corff Llywodraethu i gyhoeddi adroddiad ymgynhori a hysbysiad statudol i uno'r ysgolion. Bydd yr hysbysiad cyhoeddus statudol yn rhedeg o 15 Medi tan 14 Hydref 2016.

 

Penderfyniad

Ar 12 Rhagfyr 2016, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg y cynnig i greu ysgol gynradd a meithrinfa newydd gyda 308 o leoedd trwy uno Ysgol Fabanod Gatholig St Helen ac Ysgol Iau Gatholig St Helen o 1 Mai 2017. Ystyriodd y Cabinet y cynnig, y gwrthwynebiadau statudol a gyflwynwyd ac ymateb yr esgobaeth a'r corff llywodraethu’n ofalus yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013.   

 

Mae’r llythyr penderfyniad a’r adroddiad penderfyniad ar gael i’w lawrlwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais trwy naill ai ffonio’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu e-bostio eich cais i: MMatthews@valeofglamorgan.gov.uk