Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21 

Newid i meini prawf gordanysgrifio trefniadau derbyn i'r ysgol ar gyfer trosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd 

 

Mae Cyngor y Fro yn ymgynghori gyda rhieni ar newid arfaethedig i drefniadau derbyn i ysgolion uwchradd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/2021.

 

Mae’r Cyngor yn ystyried newid y trefniadau derbyn a’r meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion uwchradd er mwyn sicrhau y bydd y rhai sy’n byw yn nalgylch ysgol yn cael blaenoriaeth uchel o ran cael eu derbyn i ysgol pan fo mwy o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael. Bydd y newid arfaethedig yn blaenoriaethu’r rhai sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ac yn cael gwared ar yr ysgol gynradd fwydo fel maen prawf gordanysgrifio. Bydd hyn yn rhoi blaenoriaeth i ddisgyblion sy'n byw yn yr ardal i gael lle yn eu hysgol leol.

  

Rhesymau dros y cynnig

Mae’r trefniadau derbyn sydd ar waith ar hyn o bryd yn blaenoriaethu plant sy’n symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd sy’n mynychu ysgol fwydo ac yn byw yn nalgylch yr ysgol. Byddai’r newid yn atgyfnerthu’r sefyllfa i sicrhau y gall plant fynychu eu hysgol uwchradd leol, yn arbennig gan fod nifer o ddatblygiadau tai mawr yn arwain at gynnydd yn y galw am leoedd ysgol uwchradd mewn ardaloedd penodol.

 

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddarparu ysgolion lleol i blant lleol pan fo hynny’n bosibl. Mae Fforwm Derbyn y Cyngor wedi ystyried y cynnig hwn.

 

Ni fyddai’r trefniadau diwygiedig yn atal rhieni rhag ymgeisio am le mewn ysgol o'u dewis. Bydd yr un opsiynau ar gael, ond pan fo gormod o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael mewn ysgol, byddai byw mewn dalgylch ysgol yn flaenoriaeth uchel wrth ddyrannu lleoedd.

 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y cynnig trwy ddarllen y dogfennau canlynol:

 

 

 

Ymateb i'r ymgynghoriad

Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer yn rhedeg o 14 Ionawr 2019 i 22 Chwefror 2019. Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol:

 

  • Llenwch y ffurflen ymateb ar-lein
  • Llenwch y ffurflen ymateb ar yr ymgynghoriad, y gellir dod o hyd iddi ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori, a’i dychwelyd i’r cyfeiriad a roddir.
  • E-bostio’r ffurflen neu’ch sylwadau i Admissions@valeofglamorgan.gov.uk

 

Gweld eich dalgylch 

Gweler y ddolen isod a fydd yn eich galluogi i weld yr ysgol ddalgylch ar gyfer eich cyfeiriad chi 

 

Gweld eich dalgylch 

 

 

Penderfyniadau

Penderfynodd Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar drefniadau derbyn y Cyngor ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 ar 15 Ebrill 2019 gan gymeradwyo newidiadau i roi blaenoriaeth i’r rheiny sy’n byw yn nalgylch ysgol a chael gwared ar y system ysgol gynradd fwydo fel maen prawf gordanysgrifio.  Daw’r trefniadau yn rhan o’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.

 

Gellir lawrlwytho’r polisi derbyn i ysgolion neu mae copi caled ohono ar gael ar gais drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau: