Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Changing Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchCyfuno Ysgol Gynradd Y Bont Faen ac Ysgol Gyfun Y Bont FaenEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

21st Century Schools LogoEhangu Ysgol Y Deri


Ymgynghoriad ar y cynnig i drawsnewid addysg arbenigol (cam iii). 

 

Cyflwyniad i'r cynnig

Ar 9 Gorffennaf 2020, fe gymeradwyodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor strategaeth i drawsnewid addysg arbennig ym Mro Morgannwg i ateb y galw a ragwelir yn y dyfodol ac i ddiwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y ffordd orau bosibl. Roedd y strategaeth yn nodi tri maes allweddol:

  1. Sefydlu Canolfan Dysgu a Lles (CDaLl) newydd, a fydd yn disodli Y Daith, uned cyfeirio disgyblion (UCD) y Cyngor;
  2. Sefydlu canolfannau adnoddau arbenigol (CAA) mewn ysgolion prif ffrwd i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at addysg brif ffrwd; a hefyd
  3. Cynyddu capasiti Ysgol Y Deri (YYD), ysgol arbennig y Cyngor, i ateb y galw a ragwelir am addysg arbennig.

Ar 2 Tachwedd 2020, fe wnaeth Cabinet y Cyngor awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad rhwng dydd Gwener 6 Tachwedd 2020 a dydd Sul 20 Rhagfyr 2020 ar gynnig i ehangu Ysgol Y Deri (YYD) trwy;

  • Gynyddu capasiti YYD i wneud lle i 150 o ddisgyblion ychwanegol; a
  • Chodi adeilad ysgol newydd ar y safle a ffefrir yn Cosmeston, Penarth ar gyfer mis Medi 2023, a fyddai’n gweithredu fel safle ychwanegol dan reolaeth YYD.

Penderfyniad

 

Ar 26 Ebrill 2021, ystyriodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yr adroddiad gwrthwynebiadau a'r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd gymeradwyo'r cynnig. 

Bydd y cynnig yn golygu y bydd darpariaeth addysgol arbenigol yn Ysgol y Deri yn cael ei chynyddu i ddarparu ar gyfer 150 o ddisgyblion ychwanegol. Er mwyn darparu ar gyfer y capasiti cynyddol hwn, bydd adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar safle newydd, a fydd yn gweithredu o dan reolaeth Ysgol y Deri. 

 

Dogfennau Ymgynghori

 

Os oes dogfennau ymholiadau, cysylltwch ag aelod o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk.


Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw graddfa amser fwriadedig y datblygiad?

    Y bwriad yw y byddai’r cynnig hwn yn cael ei roi ar waith erbyn mis Medi 2023. Byddai gwaith i adeiladu’r ysgol newydd yn dechrau erbyn mis Ionawr 2022 ac yn cael ei gwblhau erbyn mis Awst 2023.

  • Sut fyddai goblygiadau posibl ar gyfer cludiant yn cael eu hystyried fel rhan o’r cynnig hwn?

    Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am y broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi a byddai asesiad trafnidiaeth llawn yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses ddylunio. Byddai unrhyw oblygiadau a gâi eu hadnabod yn cael eu hystyried yn nyluniad yr adeilad newydd. Byddai’r contractwr yn cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer yr adeilad newydd.

  • Pwy fyddai’n rheoli’r broses o adeiladu’r adeilad ysgol newydd?

    Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am reoli’r broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi gan ddefnyddio fframwaith SEWSCAP. Fframwaith adeiladu yw SEWSCAP a ddefnyddir gan 16 o awdurdodau lleol ac sy’n darparu Contractwyr sydd wedi cyn-gymhwyso ac sydd â phrofiad addas i gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac adeiladau cyhoeddus eraill, sy’n gysylltiedig â phrosiectau i godi adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau presennol y mae eu gwerth yn fwy nag £1.5 miliwn. Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch y cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol.

     

  • Sut fyddem ni’n cael ein cynnwys trwy gydol y broses ddylunio?

    Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk 


 

Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

Ysgol Y Deri - Outside Teaching Space
(Iard Ysgol Y Deri)

Ysgol Dewi Sant - Hall 3
(Ardal hyblyg “Calon yr Ysgol” yn Ysgol Dewi Sant)

Ysgol Y Deri - Reception
(Derbynfa ddiogel Ysgol Y Deri)
Oak Field - Outside
(Golwg o’r tu allan i Ysgol Oak Field)


Am ragor o wybodaeth am rai o Ysgolion yr 21ain Ganrif a adeiladwyd hyd yma ym Mro Morgannwg:

 

Manylion cyswllt