Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae’r Cyngor yn cynnig creu ysgol pob oedran newydd gyda 1,361 o leoedd drwy uno ysgol Gymraeg Nant Talwg ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Byddai hyn yn golygu cau Ysgol Gymraeg Nant Talwg ac ymestyn ystod oedran Ysgol Gyfun Bro Morgannwg i ddarparu ar gyfer plant o 2 – 19 oed o fis Medi 2015. Ar hyn o bryd mae’r ysgolion wedi’u ffedereiddio o dan un corff llywodraethol a Phennaeth.
Ysgogwyd y cynnig gan gais oddi wrth Gadeirydd Llywodraethwyr a Phennaeth Ysgol Gyfun Bro Morgannwg i’r ysgolion gael eu cyfuno yn dilyn penderfyniad y Corff Llywodraethol llawn ym mis Tachwedd 2013. Byddai pennaeth parhaol Ysgol Bro Morgannwg, sydd hefyd yn bennaeth yr ysgol wedi’i ffedereiddio, yn parhau’n bennaeth ar yr ysgol wedi’i chyfuno. Byddai’r cynnig yn darparu model mwy effeithiol a chynaliadwy o gyflenwi addysgol a pharhad arweinyddiaeth.
Bydd safleoedd presennol Ysgol Gymraeg Nant Talwg ac Ysgol Bro Morgannwg yn cael eu defnyddio ar gyfer yr ysgol wedi’i chyfuno a fydd yn gweithredu dros y ddau safle presennol. Byddai’r holl blant ar rôl y naill ysgol neu’r llall yn trosglwyddo i rôl yr ysgol pob oed ym mis Medi 2015.
Mae’r ymgynghoriad yn esbonio cynnig y Cyngor i greu ysgol pob oed newydd gyda 1,361 o leoedd drwy gyfuno Ysgol Gymraeg Nant Talwg ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 24 Medi 2014 i 12 Tachwedd 2014.
Gallwch lwytho i lawr gopi o’r llythyr a'r ddogfen ymgynghorol
sy’n esbonio'r cynnig a gallwch anfon eich barn atom yn y ffyrdd canlynol:
Cyfuno Ysgol Gymraeg Nant Talwg ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid
Cyngor Bro Morgannwg
RHADBOST RTGU-JGBH-YYJZ
Y Barri CF63 4RU