Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ysgolion Tregatwg

Ymgynghoriad ar y cynnig i ymestyn ystod oedran Ysgol Gynradd Tregatwg trwy uno ysgolion Cynradd a Meithrin Tregatwg.

 

Mae'r Cyngor yn cynnig uno ysgolion Meithrin a Chynradd Tregatwg o 01 Medi 2016 ymlaen a chreu un ysgol gynradd 3 i 11 oed ar safleoedd presennol Ysgol Feithrin Tregatwg ac Ysgol Gynradd Tregatwg. Trwy uno'r ddwy ysgol fe fydd Ysgol Meithrin Tregatwg yn cau a gaiff ysgol gynradd cyfnod sengl newydd eu sefydlu ar draws y ddau safle cyfagos, o dan un pennaeth ac un corff llywodraethu. 

 

Mae'r Cyngor yn ystyried ei fod yn ddymunol i gynnwys dosbarth meithrin fel rhan o ysgol gynradd. Mae gan 14 o'r 15 ysgol gynradd yn Y Barri dosbarth miethrin yn rhan o'r ysgol. Byddai uno'r ddwy ysgol yn sicrhau eu fod yn unol â gweddill yr ysgolion cynradd yn y Barri. Bydd y plant sy'n mynychu'r dosbarth meithrin yn dod yn rhan o deulu'r ysgol gyfan o'u diwrnod cyntaf yn yr ysgol. Mae llawer o deuluoedd wedyn yn dewis gwneud cais i'r ysgol ar gyfer mynediad i mewn i'r dosbarthiadau derbyn. 

 

Byddai'r cynnig yn gweld y ddau safle yn rhedeg fel un ysgol gynradd cyfnod sengl, sy'n darparu ar gyfer disgyblion o'r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd hyd at un ar ddeg oed pan fyddant yn gadael i fynd i'r ysgol uwchradd. 

 

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a'r ddwy ysgol dan sylw ar gael yn y ddogfen ymgynghori.

 

Roedd yr ymgynghoriad yma wedi dod i ben ar 15 Chwefror. 

 

Sut alla i gael gwybod mwy?

Gallwch lawrlwytho copi o'r llythyr, yr Asesiad Effaith Cymunedol a'r ddogfen ymgynghori s'yn manylu ar y cynnig, ac anfon eich barn yn y ffyrdd canlynol:

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein.
  • Mynychu'r sesiwn galw i mewn i siarad â ni yn bersonol. Mae hon yn ffordd dda i allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gan lawer am y cynigion. Byddwn yn dal i ofyn i chi lenwi ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, fel y gallwn ni ond yn derbyn sylwadau ysgrifenedig
  • Llenwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad ac yn rhoi yn y blychau ymateb i'r ymgynghoriad a geir yn y derbynfeydd yr ysgolion yn y feithrinfa a chynradd
  • Gwblhau a dychwelyd y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i'r cyfeiriad a roddir ar waelod y ffurflen ar ddiwedd y ddogfen hon a'i dychwelyd at:

 

Rhadbost RTGU-JGBH-YYJZ

Ymgynghoriad

Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chorfforaethol 

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton

Y BARRI, CF63 4RU

 

Os oes gennych gwestiynau pellach cysylltwch â ni trwy ffon neu e-bost. 

 

Adroddiad yr Ymgynghoriad

Mae'r awdurdod yn ddiolchgar i bawb a rhoddodd yr amser i ystyried ein cynnig ac i'r sawl a roddodd eu barn inni. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 7 Mawrth 2016.


Mae'r Adroddiad yr Ymgynghoriad ar gael i'w lawrlwytho neu mae gopïau caled o'r adroddiad ar gael ar gais drwy naill ai gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu e-bostiwch eich cais i matthews@valeofglamorgan.gov.uk

 

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i gyfuno Ysgol Feithrin Tregatwg ac Ysgol Gynradd Tregatwg

Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i gyfuno Ysgol Feithrin Tregatwg ac Ysgol Gynradd Tregatwg. Bydd yr hysbysiad yn rhedeg o 11 Ebrill 2016 tan 9 Mai 2016.  

 

Mae’r hysbysiad statudol ar gael i’w lawrlwytho neu mae copi caled ar gael ar alw, naill ai drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu drwy e-bostio’ch cais at: MMatthews@valeofglamorgan.gov.uk 


Dylid anfon gwrthddadleuon at Jennifer Hill, Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, Cyngor Bro Morgannwg, Provincial House, Kendrick Road, Y Barri CF62 8BF neu drwy e-bost at JMJones@valeofglamorgan.gov.uk

 

Penderfyniad

Ar 6 Mehefin 2016, roedd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo'r cynnig i uno ysgolion Meithrin a Chynradd Tregatwg yn weithredol o 1 Medi 2016. Ystyriodd y Cabinet y cynnig yn ofalus, y gwrthwynebiadau statudol a gyflwynwyd, ac ymateb yr awdurdod lleol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013. 

 

Mae'r llythyr penderfyniad ac adroddiad ar y gwrthwynebiad ar gael i'w lawr lwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais drwy naill ai gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu drwy e-bostio eich cais i: mmatthews@valeofglamorgan.gov.uk