Canolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd Whitmore
Ymgynghoriad ar y cynnig i drawsnewid addysg arbenigol (cam ii).
Cyflwyniad i'r cynnig
Ar 9 Gorffennaf 2020, fe gymeradwyodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor strategaeth i drawsnewid addysg arbennig ym Mro Morgannwg i ateb y galw a ragwelir yn y dyfodol ac i ddiwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y ffordd orau bosibl. Roedd y strategaeth yn nodi tri maes allweddol:
- Sefydlu Canolfan Dysgu a Lles (CDaLl) newydd, a fydd yn disodli Y Daith, uned cyfeirio disgyblion (UCD) y Cyngor;
- Sefydlu canolfannau adnoddau arbenigol (CAA) mewn ysgolion prif ffrwd i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at addysg brif ffrwd; a hefyd
- Cynyddu capasiti Ysgol Y Deri (YYD), ysgol arbennig y Cyngor, i ateb y galw a ragwelir am addysg arbennig.
Fe wnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad o ddydd Llun 5 Hydref 2020 tan ddydd Gwener 20 Tachwedd 2020 ar gynnig i sefydlu canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Uwchradd Whitmore.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu sut i fwrw ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth am gamau’r broses ymgynghori statudol, gweler ein canllawiau defnyddiol.
Dod o hyd i fwy
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad
Mae’r awdurdod yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried ein cynnig ac i’r rheiny a fynegodd eu barn i ni. Mae’r adroddiad ymgynghori yn rhoi trosolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd ac yn amlinellu ymateb y Cyngor i unrhyw faterion a godwyd. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 21 Rhagfyr 2020.
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol
Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol.
Yn unol ag adran 49 o’r ‘Ddeddf’, gall unrhyw berson wrthwynebu’r cynnig cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hynny yw erbyn diwedd y 9 Chwefror 2021.
Dylid anfon gwrthwynebiadau at 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk neu:
Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau,
Cyngor Bro Morgannwg,
Swyddfeydd Dinesig,
Heol Holltwn,
Y Barri
CF63 4RU
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu’n ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â’i sylwadau ar y gwrthwynebiadau hynny, pan roddir gwybod i randdeiliaid am benderfyniad y cynnig.
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch ag aelod o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk.
Cwestiynau Cyffredin
-
Beth yw graddfa amser fwriadedig y datblygiad?
Mae’r adeilad ysgol newydd yn YUW i fod i gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2021.
-
Sut fyddai lle yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn cael ei ddyrannu i ddisgyblion?
Byddai’r Cyngor yn dyrannu disgyblion i’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar y cyd â thîm arwain YUW. Byddai hyn yn seiliedig ar asesiad o anghenion unigol y disgyblion.
-
Pwy fyddai’n rheoli ac yn cefnogi dysgwyr sy’n mynychu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol?
Byddai YUW yn cael cyllid ychwanegol ar gyfer y Ganolfan Adnoddau Arbenigol i sicrhau bod y cymorth priodol ar gael. Byddai’r ysgol yn penodi arweinydd i reoli’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol gyda staff ychwanegol yn cael eu penodi i gefnogi dysgwyr unigol. Diben y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yw rhoi cymorth i ddisgyblion i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at addysg brif ffrwd.
-
Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

(Ysgol Oak Field, 2015)

(Ysgol Bro Morgannwg, 2014)

(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)

(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)
Am ragor o wybodaeth am rai o Ysgolion yr 21ain Ganrif a adeiladwyd hyd yma ym Mro Morgannwg:
Manylion cyswllt