Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

st david's logoEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant

Ar y cynnig i ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant o 140 o leoedd i 210 o leoedd i ateb y galw yn y dyfodol am addysg yr Eglwys yng Nghymru.

 

Cyflwyniad i'r cynnig

Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant yn cynnig ehangu’r ysgol o 140 o leoedd i 210 o leoedd o fis Medi 2021.


Mae ysgol newydd â 210 o leoedd ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant wedi cael ei chynnwys fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor. Cynigir y byddai’r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle presennol, gyda’r holl staff a disgyblion yn trosglwyddo i’r adeilad newydd erbyn mis Medi 2021. 

 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd y corff llywodraethol yn penderfynu sut i fwrw ymlaen.
 

Rhesymau dros y cynnig

Mae angen ateb y galw yn y dyfodol o'r datblygiadau tai newydd yn y Fro, yn ogystal â gwella'r cyfleusterau addysgol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant. 

 

  • Mae nifer o ddatblygiadau tai ar raddfa fawr wedi'u cynllunio ar gyfer ardal Bro Morgannwg sydd angen lleoedd ysgol ychwanegol. Mae cynyddu nifer y lleoedd ysgol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant o 150 i 210 yn cynnig model mwy effeithlon a chynaliadwy nag agor ysgol Eglwys yng Nghymru arall â 210 lle.

  • Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn defnyddio llety dros dro i ddarparu digon o le ar gyfer nifer y disgyblion sydd ar y gofrestr. Mae'r adeiladau dros dro yn aneffeithlon, sy'n arwain at gostau cynnal uwch, ac mae'r cylchrediad rhwng yr estyniadau'n wael.

  • Mae'r ystafelloedd dosbarth yn anghyfartal o ran maint, sy'n ei gwneud hi'n anodd bodloni anghenion y cwricwlwm ar gyfer nider y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol ar hyn o bryd neu fodloni'r galw cynyddol o ddatblygiadau newydd.

  • Ni fyddai modd adnewyddu ardaloedd addysgu er mwyn bodloni safonau'r 21ain ganrif yn llawn. 

  • Drwy osod adeilad newydd yn lle'r ysgol ar ei safle presennol, byddai disgyblion yn cael eu haddysgu mewn adeiladau modern o ansawdd uchel i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys. 

 

Dod o hyd i fwy

Bydd y cyfnod ymgynghori rhwng 28 Ionawr 2019 a 15 Mawrth 2019. Gallwch lawrlwytho copi o’r  ddogfen Ymgynghori Ynghyd sy’n manylu ar y cynnig.


I gael rhagor o wybodaeth am gamau’r broses ymgynghori statudol, gweler ein 
Canllawiau Defnyddiol.

 

 

 

 

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad

Mae’r Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried ein cynnig ac i’r rheiny a fynegodd eu barn i ni. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan corff llywodraethu 21 Mawrth 2019. 

 

Mae’r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad a Llythyr ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais drwy gysylltu â’r ysgol isod.

 

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant

Mae’r Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant.

Mae’r Hysbysiad a’r Llythyr Statudol ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r hysbysiad ar gael ar gais trwy gysylltu â’r ysgol isod. 

Yn unol ag adran 49 ‘y Ddeddf’, o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn dan adran 48 'y Ddeddf', hynny yw erbyn 27 Mai 2019, gall unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion.   

Y corff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant wedi cwrdd ar 11 Mehefin 2019, ac wedi cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Gwrthwynebu ynghylch ymestyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru o fod yn un â 140 o leoedd i fod yn un â 210 o leoedd o fis Medi 2021. Yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, mae’r ddogfennaeth i gyd nawr wedi ei chyflwyno i’r Awdurdod Lleol ar gyfer penderfyniad terfynol.

 

Penderfyniad

Ar 15 Gorffennaf 2019, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg y cynnig i ymestyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant o 140 lle i 210 lle o fis Medi 2021. O ganlyniad, caiff adeilad newydd ei godi ar safle’r ysgol bresennol ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewis Sant gyda chapasiti am 210 o ddisgyblion.

 

Mae'r Llythyr Penderfyniad ac yr Adroddiad Gwrthwynebiad ar gael i'w lawrlwytho neu mae gopïau caled ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, gweler y manylion cyswllt isod.

 

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw’r raddfa amser fwriadedig ar gyfer datblygu adeilad newydd yr ysgol?  

    Er mwyn cyflawni’r graddfeydd amser uchod, mae gwaith adeiladu’n debygol o ddechrau o fis Gorffennaf 2020. Byddai contractwyr yn cael eu penodi cyn hyn i ddatblygu’r dyluniad a chynllunio. Byddai cais cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno ar gyfer yr adeilad newydd.

     

  • Sut fyddai goblygiadau posibl ar gyfer trafnidiaeth yn cael eu hystyried fel rhan o’r cynnig hwn? 

     

     

    Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am reoli’r broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi gan ddefnyddio fframwaith SEWSCAP. Fframwaith adeiladu yw SEWSCAP a ddefnyddir gan 16 o awdurdodau lleol ac sy’n darparu Contractwyr sydd wedi cyn-gymhwyso ac sydd â phrofiad addas i gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac adeiladau cyhoeddus eraill, sy’n gysylltiedig â phrosiectau i godi adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau presennol y mae eu gwerth yn fwy nag £1.5 miliwn. Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch y cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. 

  • A fyddai adeiladu’r ysgol newydd yn tarfu ar staff, disgyblion a phreswylwyr lleol?  

    Cynigir y bydd adeilad newydd yr ysgol yn cael ei godi ar y safle presennol a fyddai’n golygu y terfir rywfaint ar staff, disgyblion a phreswylwyr lleol yn ystod y cam adeiladu. Byddai’r ysgol yn cydweithio’n agos â Thîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor i sicrhau y terfir gyn lleied â phosibl trwy gyfyngu ar amseroedd danfon deunyddiau a chydweithio â rheolwr y safle. Mabwysiadwyd dull tebyg trwy gydol y broses o adeiladu datblygiad St David’s Meadow, sydd wedi’i leoli’n agos at yr ysgol, yn ddiweddar.  

  • A fyddai trefniadau wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y broses o adeiladu’r ysgol newydd i sicrhau bod disgyblion yn gallu defnyddio mannau awyr agored?  

    Gan y byddai’r adeilad newydd arfaethedig yn cael ei godi ar y safle presennol, byddai’r ysgol yn colli mannau awyr agored yn ystod y cam adeiladu. Yn ystod yr amser hwn, byddai’r ysgol yn cydweithio’n agos â thîm Ysgolion yr 21ain Ganrif i sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at ddigon o fannau awyr agored ac nad yw’r cwricwlwm yn cael ei beryglu. Ar hyn o bryd mae’r ysgol yn defnyddio’r cyfleusterau chwarae cymunedol cyfagos ar gyfer chwaraeon a byddai hynny’n parhau trwy gydol y cam adeiladu. Byddai’r ysgol yn cydweithio’n agos gyda’r tîm adeiladu i sicrhau bod disgyblion yn cael eu cynnwys trwy gydol y broses a bod y cwricwlwm yn cael ei wella trwy ymweliadau rheolaidd â’r safle.    

     

     

  • Sut fyddwn ni’n cael ein cynnwys trwy gydol y broses ddylunio? 

    Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk

     



 

Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

21stC Schools - Oakfield
(Ysgol Gynradd Oak Field, 2015)

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building Indoor
(Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, 2014)


21stC Schools - Dewi Sant (hall2)
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)


21stC Schools - Dewi Sant
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)

 

Manylion cyswllt


Ysgol:

 


Cyngor: