Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

TREFNIADAU DERBYN I’R YSGOL 2021/2022

 

Mae Cyngor y Fro yn ymgynghori ar gynnig i newid trefniadau derbyn i ysgolion cymunedol ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022 o ran newid i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd a diwygiad bychan i feini prawf gordanysgrifio ysgolion cynradd.

 

Bydd y newidiadau a gynigir yn sicrhau dosraniad mwy cytbwys o leoedd ysgol i ateb y galw yn y dyfodol gan ddisgyblion sydd angen lle ysgol o fewn dalgylchoedd diffiniedig. Bydd y diwygiad yn blaenoriaethu’r rhai sy’n byw agosaf at ysgol gynradd pan fo nifer y ceisiadau o’r tu fewn i ddalgylch yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael fydd yn cefnogi mynychu ysgol leol plentyn.

 

Dogfen ymgynghori/Ymgynghoreion Rhagnodedig

 

Polisi Derbyn i Ysgolion 2021/2022

 

Adolygiad o Ddalgylchoedd Ysgol

 

Mapiau ardaloedd dalgylch ysgol uwchradd presennol ac arfaethedig

 

Cyfnedol

Wedi'i ddiwygio

 

Ymateb i'r ymgynghoriad

Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer yn rhedeg o 11 Rhagfyr 2019 i 3 Chwefror 2020. Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol:

 

  • Llenwch y ffurflen ymateb ar-lein
  • Llenwi'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, sydd i'w gweld ar ddiwedd y llythyr i rieni/ymgyngoreion rhagnodedig, a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a nodir
  • E-bostio’r ffurflen neu’ch sylwadau i Admissions@valeofglamorgan.gov.uk