Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022

Mae Cyngor y Fro yn ymgynghori ar gynnig i newid trefniadau derbyn i ysgolion cymunedol ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022 o ran newid i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd a diwygiad bychan i feini prawf gordanysgrifio ysgolion cynradd.

 

Bydd y newidiadau a gynigir yn sicrhau dosraniad mwy cytbwys o leoedd ysgol i ateb y galw yn y dyfodol gan ddisgyblion sydd angen lle ysgol o fewn dalgylchoedd diffiniedig. Bydd y diwygiad yn blaenoriaethu’r rhai sy’n byw agosaf at ysgol gynradd pan fo nifer y ceisiadau o’r tu fewn i ddalgylch yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael fydd yn cefnogi mynychu ysgol leol plentyn.

 

Mae mwy o wybodaeth ar y cynnig i'w gael yn y dogfennau canlynol:

 

  

Mapiau ardaloedd dalgylch ysgol uwchradd presennol ac arfaethedig:

 

 

 

Ymateb i'r ymgynghoriad

Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer yn rhedeg o 11 Rhagfyr 2019 i 3 Chwefror 2020. Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol:

 

 

Penderfyniadau

Penderfynodd Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar drefniadau derbyn y Cyngor ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 ar 23 Mawrth 2020 a chymeradwyodd newidiadau i gynnwys mân ddiwygiad i’r meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol i sicrhau bod y rheiny sy’n byw mewn dalgylch ysgol yn cael blaenoriaeth uwch ar gyfer eu derbyn i ysgol, a diwygiad i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd er mwyn alinio dalgylchoedd ysgolion uwchradd yn well â chapasiti’r ysgolion. Daw’r trefniadau yn rhan o’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

 

Gellir lawrlwytho’r polisi derbyn a llythyr i ysgolion neu mae copi caled ohono ar gael ar gais drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau: 

 

Y newidiadau a gytunwyd i ddalgylchoedd yr ysgolion uwchradd yw:

 

Ardal y Barri

Ysgol Uwchradd Pencoedtre

  • Trosglwyddo ardal Gwenfô i ddalgylch Ysgol Gyfun Sant Cyres.

Ysgol Uwchradd Whitmore

  • Diddymu statws dalgylch deuol y Rhws ac Ysgol Uwchradd Whitmore.
  • Trosglwyddo ardal y Rhws i Ysgol Gyfun y Bont-faen. 

Ardal y Bont-faen

Ysgol Gyfun y Bont-faen

  • Cynyddu poblogaeth y dalgylch trwy gynnwys ardaloedd yn y Rhws ynddo.

Ardal Llanilltud

Ysgol Llanilltud Fawr

  • Trosglwyddo ardal y Rhws i ddalgylch y Bont-faen.

Ardal Penarth

Ysgol Gyfun Sant Cyres

  • Cynyddu poblogaeth y dalgylch trwy gynnwys ardaloedd Gwenfô, Penarth a’r Sili i’r dalgylchoedd.