Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Secondary school pupils using a tablet deviceTrawsnewid Addysg Uwchradd yn y Barri

Sefdlu dwy ysgol gyfun rhyw cymysg newydd

 

Y Cefndir

Yn 2016 ymgynghorodd Cyngor Bro Morgannwg ar gynnig sefydlu dwy ysgol gyfun rhyw cymysg i ddisgyblion 11–18 oed yn y Barri. 

 

Ar 6 Mawrth 2017, penderfynodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg ar gynnig i drawsffurfio addysg uwchradd yn y Barri drwy gau Ysgolion Cyfun y Barri a Bryn Hafren cyfrwng Saesneg un rhyw presennol a sefydlu dwy ysgol gyfun newydd rhyw cymysg, 11 - 18, cyfrwng Saesneg ar safleoedd cyfredol Ysgol Gyfun y Barri ac Ysgol Gyfun Bryn Hafren o fis Medi 2018 ymlaen.

 

Newyddion Diweddaraf

I gadw’n gyfredol â’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, gweler ein tudalennau gwe pwrpasol Trawsnewid Addysg Uwchradd yn Y Barri.

 

Chwilio am ddalgylch

Rhowch eich cod post yn y blwch isod.

 

 

Gallwch chi hefyd lawrlwytho rhestr o gyfeiriadau sydd wedi eu lleoli o fewn dalgylchoedd arfaethedig yr ysgolion newydd. 

 

 

Gwybodaeth bellach 

Ceir yma wybodaeth fanylach am y cynnig a sut y gallai effeithio arnoch chi yn y ddogfen ymgynghori, y llythyr i’r rhanddalwyr a’r asesiad effaith cymunedol isod. 

 

  

Adroddiad yr Ymgynghoriad 

Mae’r awdurdod yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried ein cynnig a’r rhai hynny a roddodd wybod i ni am eu barn.  Ystyriwyd yr holl sylwadau gan Gabinet y Cyngor ar 12 Rhagfyr 2016.   

 

Mae Adroddiad yr Ymgynghoriad ar gael i’w lawrlwytho neu mae copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais trwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.


Adroddiad gweithdy ymgynghori ysgolion cynradd

 

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i sefydlu ysgolion uwchradd cymysgryw Cyfrwng Saesneg newydd yn y Barri

Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i sefydlu ysgolion uwchradd cymysgryw cyfrwng Saesneg newydd yn y Barri. Bydd yr hysbysiad yn rhedeg o 3 Ionawr 2017 tan 31 Ionawr 2017.

 

Penderfyniad

Mae’r hysbysiad statudol ar gael i’w lawrlwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais trwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, manylion isod.

Dylid anfon gwrthwynebiadau at Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Dros Dro, manylion isod.

 

Mae'r llythyr penderfyniad a’r adroddiad ar y gwrthwynebiad ar gael i'w lawrlwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, gweler manyloion cyswllt isod.

 

Cysylltu

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Tîm Trefnu Ysgolion.

 

 

Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU