Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas
Ymgynghoriad ynghylch y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas o 4-11 oed i 3-11 oed a sefydlu dosbarth meithrin sy’n cynnwys 48 o leoedd rhan-amser o fis Medi 2021 a chynyddu capasiti Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas o 126 o leoedd i 210 o leoedd o fis Medi 2021.
Cyflwyniad i'r cynnig
Mae’r cynnig yn un i newid ystod oedran disgyblion yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas o 4-11 oed i 3-11 oed i sefydlu dosbarth meithrin sy’n cynnwys 48 o leoedd rhan-amser o fis Medi 2021, ac ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas o 126 o leoedd i 210 o leoedd o fis Medi 2021.
Mae ysgol newydd â 210 o leoedd ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas wedi cael ei chynnwys fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor. Cynigir y byddai’r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle presennol, gyda’r holl staff a disgyblion yn trosglwyddo i’r adeilad newydd erbyn mis Medi 2021.
Rhesymau dros y cynnig
Mae angen ateb y galw yn y dyfodol o'r datblygiadau tai newydd yn y Fro, yn ogystal â gwella'r cyfleusterau addysgol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas.
-
Mae nifer o ddatblygiadau tai ar raddfa fawr wedi'u cynllunio ar gyfer ardal Bro Morgannwg sydd angen lleoedd ysgol ychwanegol. Mae cynyddu nifer y lleoedd ysgol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas o 126 i 210 yn cynnig model mwy effeithlon a chynaliadwy nag agor ysgol Eglwys yng Nghymru arall â 210 lle.
-
Mae’r ysgol wedi’i rhannu dros ddau safle gyda disgyblion y dosbarth derbyn yn gorfod cerdded i’r eglwys gerllaw yn dilyn gwasanaeth y bore. Nid oes palmant ar hyd y darn hwn o ffordd, sy’n gwneud y daith yn anniogel i ddisgyblion ifancMae'r ystafelloedd dosbarth yn anghyfartal o ran maint, sy'n ei gwneud hi'n anodd bodloni anghenion y cwricwlwm ar gyfer nider y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol ar hyn o bryd neu fodloni'r galw cynyddol o ddatblygiadau newydd.
-
Ni fyddai modd adnewyddu ardaloedd addysgu er mwyn bodloni safonau'r 21ain ganrif yn llawn.
-
Drwy osod adeilad newydd yn lle'r ysgol ar ei safle presennol, byddai disgyblion yn cael eu haddysgu mewn adeiladau modern o ansawdd uchel i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys.
-
Drwy gynnig lleoedd meithrin rhan amser yn yr ysgol, bydd yn bosibl datblygu parhad a dilyniant yn nysgu’r plant 3+ oed.
Dod o hyd i fwy
Bydd y cyfnod ymgynghori rhwng 18 Mawrth 2019 i 3 Mai 2019. Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori ynghyd, asesiad effaith cymunedol, â llythyr sy’n manylu ar y cynnig.
I gael rhagor o wybodaeth am gamau’r broses ymgynghori statudol, gweler ein canllawiau defnyddiol.
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad
Mae’r Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Nicholas yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried yr cynnig ac i’r rheiny a fynegodd eu barn i ni. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan corff llywodraethu 23 Mai 2019.
Mae’r adroddiad ar yr ymgynghoriad, llythyr a asesiad effaith cymunedol (diwygiedig) ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais drwy gysylltu â’r ysgol isod.
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas
Mae’r Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas wedi cytuno i gynyddu capasiti’r Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas ac ehangu ystod oedran yr ysgol o 4-11 oed i 3-11 oed.
Mae’r hysbysiad a’r llythyr statudol ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r hysbysiad ar gael ar gais trwy gysylltu â’r ysgol isod.
Yn unol ag adran 49 ‘y Ddeddf’, o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn dan adran 48 'y Ddeddf', hynny yw erbyn 24 Gorffennaf 2019, gall unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion.
Rwy’n ysgrifennu i hysbysu bod corff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas, ar 12 Awst, wedi cytuno i gyhoeddi’r adroddiad gwrthwynebiad ynghylch ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas o 126 o leoedd i 210 o leoedd a cynnig i newid ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed o fis Medi 2021. Yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, mae’r ddogfennaeth i gyd nawr wedi ei chyflwyno i’r Awdurdod Lleol ar gyfer penderfyniad terfynol.
Penderfyniad
Ar 23 Medi 2019, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg y cynnig i ymestyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas o 126 o leoedd i 210 o leoedd a cynnig i newid ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed o fis Medi 2021. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar yr addasiadau arfaethedig a reoleiddir i newid ystod oedran yr ysgol a chynyddu capasiti dan adran 2.3 y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Mae'r llythyr penderfyniad ac yr adroddiad gwrthwynebiad ar gael i'w lawrlwytho neu mae gopïau caled ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, gweler y manylion cyswllt isod.
Cwestiynau Cyffredin
-
Beth yw’r raddfa amser fwriadedig ar gyfer datblygu adeilad newydd yr ysgol?
Mae gwaith adeiladu’n debygol o ddechrau o fis Gorffennaf 2020. Y cynnig yw y byddai’r ysgol newydd yn agor erbyn mis Medi 2021.
-
Pwy fyddai’n rheoli’r broses o adeiladu adeilad newydd yr ysgol?
Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am reoli’r broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi gan ddefnyddio fframwaith SEWSCAP. Fframwaith adeiladu yw SEWSCAP a ddefnyddir gan 16 o awdurdodau lleol ac sy’n darparu Contractwyr sydd wedi cyngymhwyso ac sydd â phrofiad addas i gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac adeiladau cyhoeddus eraill, sy’n gysylltiedig â phrosiectau i godi adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau presennol y mae eu gwerth yn fwy nag £1.5 miliwn. Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch y cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol.
-
A fyddai adeiladu’r ysgol newydd yn tarfu ar staff, disgyblion a phreswylwyr lleol?
Cynigir y bydd adeilad newydd yr ysgol yn cael ei godi ar y safle presennol a fyddai’n golygu y terfir rywfaint ar staff, disgyblion a phreswylwyr lleol yn ystod y cam adeiladu. Byddai’r ysgol yn cydweithio’n agos â Thîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor i sicrhau y terfir gyn lleied â phosibl trwy gyfyngu ar amseroedd danfon deunyddiau a chydweithio â rheolwr y safle.
-
A fyddai trefniadau wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y broses o adeiladu’r ysgol newydd i sicrhau bod disgyblion yn gallu defnyddio mannau awyr agored?
Gan y byddai’r adeilad newydd arfaethedig yn cael ei godi ar y safle presennol, byddai’r ysgol yn colli mannau awyr agored yn ystod y cam adeiladu. Yn ystod yr amser hwn, byddai’r ysgol yn cydweithio’n agos â thîm Ysgolion yr 21ain Ganrif i sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at ddigon o fannau awyr agored ac nad yw’r cwricwlwm yn cael ei beryglu. Byddai’r ysgol yn cydweithio’n agos gyda’r tîm adeiladu i sicrhau bod disgyblion yn cael eu cynnwys trwy gydol y broses a bod y cwricwlwm yn cael ei wella trwy ymweliadau rheolaidd â’r safle.
-
Sut fyddwn ni’n cael ein cynnwys trwy gydol y broses ddylunio?
Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk
Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

(Ysgol Gynradd Oak Field, 2015)

(Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, 2014)

(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)

(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)
Dysgwch fwy am Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi’u adeiladu ym Mro Morgannwg hyd yn hyn a’n prosiectau sydd ar y gweill ar ein brif tudalen.
Manylion cyswllt
Ysgol:
Cyngor: