Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Trefniadau Derbyn I'r Ysgol 2022/23

Ymgynghoriad ar newid arfaethedig i drefniadau derbyn ysgolion ar gyfer ysgolion cymundeol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23

 

Mae Cyngor y Fro’n ymgynghori ar newid arfaethedig i drefniadau derbyn i ysgolion i ysgolion cymunedol ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022 o ran y newid dros dro a gynigir i ddalgylch Ysgol St Cyres am gyfnod o dair blynedd yn dechrau o 2022/23 a newid parhaol i ddalgylch Ysgol Dewi Sant. Nid oes newidiadau i’r polisi derbyn na’r meini prawf gordanysgrifio a ddefnyddir i gael mynediad i’r ysgolion.

 

Mae mwy o wybodaeth ar y cynnig i’w gael yn y dogfennau canlynol:

Ymateb i'r ymgynghoriad

Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer yn rhedeg o 14 Rhagfyr 2020 i 8 Chwefror 2021. Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol:

 

 

Penderfyniadau

Yn ystod y cyfnod ymgynghori codwyd pryderon gan ysgolion uwchradd yn y Barri. O ganlyniad, gwnaed gwrthgynigion gan y tair ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg i weithio gyda'r Cyngor i reoli'r galw yn ardal y Barri. O ganlyniad i hyn, canlyniad yr ymgynghoriad hwn oedd diwygiad arfaethedig i'r cynnig cychwynnol fel a ganlyn;

 

  • Terfynu'r cynnig i sefydlu dalgylch deuol ar gyfer Ysgol St Cyres i gynnwys dalgylch Ysgol Uwchradd Pencoedtre.
  • Cynnwys maen prawf ychwanegol ym meini prawf gordanysgrifio’r ysgol uwchradd sy'n blaenoriaethu disgyblion a oedd ar y gofrestr mewn ysgol fwydo flaenorol cyn i'r trefniant bwydo gael ei dynnu'n ôl am gyfnod o dair blynedd yn dechrau yn 2022/23
  • Bwrw ati gyda’r cynnig i newid dalgylch Ysgol Dewi Sant.

 

Ystyriodd y Cyngor yn ofalus yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ei gyfarfod Cabinet ar 22 Mawrth 2021 ynghyd â'r diwygiad i'r cynnig cychwynnol. Cymeradwyodd y Cabinet y gwelliannau fel y disgrifir uchod i derfynu’r cynnig i sefydlu dalgylch deuol ar gyfer Ysgol St Cyres, cynnwys maen prawf ychwanegol ym meini prawf gordanysgrifio’r ysgol uwchradd i adlewyrchu trefniadau ysgolion bwydo blaenorol a newid dalgylch Ysgol Dewi Sant. Daw’r trefniadau yn rhan o’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

 

Gellir lawrlwytho’r polisi derbyn a llythyr i ysgolion neu mae copi caled ohono ar gael ar gais drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau: