Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ehangu Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn

Ymgynghoriad ar y cynnig i sefydlu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn a chynyddu ei chapasiti o 813 o leoedd i 1,050 o leoedd o fis Medi 2025 

Sust Learning logo_colour

 

Cyflwyniad i'r cynnig

 

Y cynnig yw sefydlu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn a chynyddu ei chapasiti o 813 o leoedd i 1,050 o leoedd. Bydd y cynnig hefyd yn cynnwys canolfan adnoddau arbenigol â 60 o leoedd. Cynigir y byddai Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn yn symud i'r adeilad newydd erbyn mis Medi 2025.

 

Er bod trosglwyddo'r ysgol i'r adeilad newydd wedi'i gynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, bydd yr ysgol newydd wedi'i lleoli ar safle presennol yr ysgol. Bydd adeilad newydd yr ysgol yng nghornel dde-orllewinol tir yr ysgol, gan alluogi'r ysgol bresennol i barhau’n weithredol yn ystod y gwaith adeiladu. Mae dyletswydd gan Gyngor Bro Morgannwg i sicrhau bod yr ysgol bresennol yn gallu gweithredu’n effeithiol yn ystod y cyfnod adeiladu ac mae ganddo brofiad o wneud hynny ar nifer o safleoedd eraill.

 

Bydd y datblygiad arfaethedig yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg dan y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

 

Mae'r corff llywodraethu ac Archesgobaeth Caerdydd yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn a'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod ymgyngoriadau'n ystyrlon, yn berthnasol ac yn briodol i'r cymunedau dan sylw. Mae dyletswydd gofal gennym i sicrhau bod cynigion yn glir, yn dryloyw ac yn adlewyrchu'r rhai yr effeithir arnynt. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a'r cymunedau ehangach rydym i gyd yn eu gwasanaethu y gellir gwireddu’r weledigaeth hon.

  

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd Corff Llywodraethol yn penderfynu sut i fwrw ymlaen.

  

Dogfen ymgynghori ynghylch ehangu Ysgol Gatholig Sant Richard Gwyn

 

Rhesymau dros y cynnig

  • Sant Richard Gwyn yw'r unig ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg nad yw wedi derbyn buddsoddiad eto fel rhan o'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

  • Mae'r ysgol wedi cael problem sylweddol gyda llifogydd ar y safle presennol oherwydd systemau draenio gwael. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i weithredu systemau draenio gwell er mwyn osgoi perygl llifogydd yn y dyfodol. Byddai adeilad newydd yr ysgol wedi'i leoli ar yr un safle gyda'r systemau draenio yn cael eu gwella cyn i'r gwaith adeiladu ddigwydd. 

  • Mae’r gwaith o ailddatblygu Sant Richard Gwyn, sy'n cynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol o 813 i 1,050, yn cynnig model mwy effeithlon a chynaliadwy nag adnewyddu adeilad presennol yr ysgol.

  • Mae'r cynnig hefyd yn mynd i'r afael â phroblemau gyda'r adeilad presennol, fel problemau gyda chyflwr, addasrwydd a llifogydd. Byddai'r disgyblion yn cael eu haddysgu mewn adeilad modern cynaliadwy o ansawdd uchel a fyddai'n gallu cefnogi’r gwaith o gyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys.

  • Bydd y cynnig yn sicrhau y bydd yr adeilad newydd yn bodloni safonau adeiladau modern i leihau costau ailadroddus a sicrhau bod yr adeilad yn garbon sero-net yn ei weithrediad. Bydd yr adeilad newydd hefyd yn bodloni safonau rhagoriaeth BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu).

 

Ymateb i'r ymgynghoriad

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o 5 Medi 2023 i 17 Hydref 2023.

 

Mae eich barn yn bwysig i ni, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i'r ymgynghoriad:

 

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori a'i hanfon i:

Ailddatblygu ac ehangu Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn

Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

 

Bydd yr holl ymatebion ysgrifenedig a roddir i ni erbyn 17 Hydref 2023 yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad statudol  neu beidio.

 

Adroddiad Ymgynghori

Ar 9 Tachwedd 2023, ystyriodd y Corff Llywodraethol yr adroddiad ymateb i'r ymgynghoriad a'r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd symud ymlaen i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.

 

Y cynnig yw sefydlu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn a chynyddu ei chapasiti o 813 o leoedd i 1,050 o leoedd ar y safle presennol. Bydd y cynnig hefyd yn cynnwys sylfaen adnoddau arbenigol 60 lle. Cynigir y byddai Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn yn symud i'r adeilad newydd erbyn Medi 2025.

 

Os hoffech chi gael copi caled o'r adroddiadau, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn: sustainablecommunitiesforlearning@valeofglamorgan.gov.uk

 

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i ehangu Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn

Mae’r Corff Llywodraethol wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i ehangu Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn.


Mae’r hysbysiad a’r llythyr statudol ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r hysbysiad ar gael ar gais trwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar y Manylion Cyswllt isod. 

 

Yn unol ag adran 49 ‘y Ddeddf’, o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn dan adran 48 'y Ddeddf', hynny yw erbyn Dydd Gwener 29 Rhagfyr 2023, gall unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion.

 

Mwy o wybodaeth

Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen ymgynghori, yr asesiad o'r effaith ar y gymuned a llythyr yn nodi manylion y cynnig.

 

Penderfyniad

Ar 18 Ionawr 2024, cymeradwyodd Corff Llywodraethu Sant Richard Gwyn y cynnig i sefydlu adeilad ysgol newydd.  O ganlyniad i'r adeilad newydd, byddai hyn yn cynyddu ei chapasiti o 813 i 1,050 o leoedd ac yn sefydlu canolfan adnoddau arbenigol gyda 60 o leoedd o fis Medi 2025.

 

Gellir gweld yr holl ddeunydd ymgynghori gan gynnwys Llythyr y Penderfyniad isod:Os hoffech gael copi caled o'r adroddiadau, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn: