Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Arolwg Addysg Gyfrwng Cymraeg

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio cael barn rhieni plant o dan ddwy flwydd oed am y galw am addysg gyfrwng Cymraeg a’r hyn a fyddai orau ganddynt ar gyfer yr ysgol yn y dyfodol. 

 

Bydd canlyniadau’r arolwg yn arwain galw yn y dyfodol ar gyfer lleoedd ysgol cyfrwng Saesneg a Chymraeg ym Mro Morgannwg er mwyn galluogi'r awdurdod i gynllunio'n effeithiol ac i ddarparu addysg sy'n cwrdd ag anghenion y plant ym Mro Morgannwg.

 

Bydd y Cyngor yn defnyddio canlyniadau’r arolwg i fesur galw yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod digon o ddarpariaeth yn y blynyddoedd i ddod. Caiff canlyniadau’r arolwg eu dadansoddi’n ddienw ac ni fyddant yn atal rhieni rhag newid eu dewisiadau o ran y sector cyfrwng Cymraeg neu Saesneg os dymunant. Bydd rhaid i rieni gofrestru gyda thîm derbyn i'r ysgol y cyngor ar ôl ail ben-blwydd y plentyn er mwyn derbyn pecyn ymgeisio ar gyfer addysg feithrin a chynradd.

 

Bydd yr arolwg yn cymryd ychydig o funudau'n unig. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 26 Chwefror 2017. Er mwyn sicrhau yr ystyrir barn pob rhiant wrth gynllunio ar gyfer dyfodol addysg, mae'n bwysig eich bod yn ymateb.

 

Sut y gallwch chi gymryd rhan yn yr arolwg?

Bydd y llythyrffurflen ymateb a ddosberthir i rieni plant o dan ddwy oed sy'n byw ym Mro Morgannwg yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cymryd rhan yr arolwg, yn ogystal ag amlen rhadbost. Neu gallwch chi ymateb i'r arolwg ar-lein

 

Sut gallaf i ddarganfod rhagor?

Os oes gennych ymholiad nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn ymdrin â hi yna gallwch anfon e-bost at mmatthews@valeofglamorgan.gov.uk neu ffonio Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727.