Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

 

Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2023/2024

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori ag ymgyngoreion penodol ar ei drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024 yn unol â gofynion Cod Derbyn i Ysgolion 2013. 

 

Dyma'r Ymgyngoreion:

  • Cyrff llywodraethu pob ysgol ym Mro Morgannwg
  • Awdurdodau Lleol Cyfagos
  • Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol
  • Fforwm Derbyniadau Bro Morgannwg

Mae'r trefniadau derbyn wedi'u diwygio i adlewyrchu'r newidiadau i'r gyfraith ar dderbyniadau o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, nad ydynt wedi’u hadlewyrchu ar hyn o bryd yn y Cod Derbyn i Ysgolion.  Ni chynigir unrhyw newidiadau eraill i'r trefniadau derbyn i ysgolion y cytunwyd arnynt y llynedd ar gyfer derbyniadau i ysgolion ym mlwyddyn academaidd 2022/2023.

 

Ymateb i’r ymgynghoriad

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 4 Ionawr 2022 a 11 Chwefror 2022. Mae llythyr yr ymgynghoriad a’r polisi derbyn i ysgolion ar gael i’w lawrlwytho.

 

 

Penderfyniadau

Penderfynodd Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar drefniadau derbyn y Cyngor ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ar 22 Mawrth 2022.  Daw’r trefniadau yn rhan o’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Mae'r polisi derbyn a'r llythyr ar gael i'w lawrlwytho neu mae copïau caled ar Gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau: