Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydledig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir

Ymgynghoriad i newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydledig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir o fis Medi 2024

Sust Learning logo_colour

 

 

Cyflwyniad i’r cynnig

Y cynnig a gyflwynwyd gan gorff llywodraethu Ysgol Stanwell yw newid categori'r ysgol o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024 ymlaen.

 

Mae'r cynnig hwn wedi dod i'r amlwg oherwydd heriau ariannol a sefydliadol diweddar y mae Ysgol Stanwell wedi'u hwynebu, ac mae'n darparu mecanwaith i gefnogi uchelgeisiau Stanwell sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae'r penderfyniad i newid o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol yn benderfyniad a wnaed gan gorff llywodraethu Ysgol Stanwell a byddai gyda chytundeb Cyngor Bro Morgannwg.

 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

Newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydedig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir 

 

Rhesymau dros y cynnig

  • Byddai'r newid i ysgol gymunedol a gynhelir yn gwella rheolaeth ariannol, yn sicrhau cydymffurfio ac yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor yn ogystal ag effeithio'n gadarnhaol ar reoli derbyniadau o fewn ei dalgylch presennol, yn ogystal â ledled Bro Morgannwg

  • Byddai'n caniatáu gwell mynediad at ffrydiau cyllid fel grantiau ysgolion bro a chyllid a106, er enghraifft, drwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf a Buddsoddi mewn Ysgolion y Cyngor

  • Byddai'r ysgol yn elwa ar weithio'n agosach gydag ysgolion uwchradd eraill drwy'r Awdurdod Lleol gan sicrhau bod yr holl gyfleoedd ar gael a'u trosoli’n briodol. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu ymhellach fanteision ac anfanteision newid statws

 

Ymateb i’r ymgynghoriad

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o 11 Medi 2023 hyd at 23 Hydref 2023.

 

Mae eich barn yn bwysig i ni, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i’r ymgynghoriad:

 

Newid statws Ysgol Stanwell

Ysgol Stanwell

Archer Road

Penarth

CF64 2XL

 

Bydd yr holl ymatebion wedi cyflwyno i ni erbyn 23 Hydref 2023 yn cael eu hystyried gan y corff llywodraethu cyn iddo benderfynu p’un a ddylid cyhoeddi hysbysiad statudol ai peidio.

 

 

Adroddiad Ymgynghori

Ar 23 Tachwedd 2023, ystyriodd y Corff Llywodraethol yr adroddiad ymateb i’r ymgynghoriad a’r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd symud ymlaen i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.

 

Y cynnig yw newid  Ysgol Stanwell o ysgol sefydledig i ysgol a gynhelir yn y gymuned o fis Medi 2024.

 

Os hoffech gael copi caled o'r adroddiadau, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn: sustainablecommunitiesforlearning@bromorgannwg.gov.uk

 

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i newid Ysgol Stanwell o fod yn Ysgol Sefydledig i Ysgol Gymunedol a Gynhelir o fis Medi 2024

Mae'r Corff Llywodraethol wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i newid categori Ysgol Stanwell.

 

Mae'r hysbysiad statudol a'r llythyr ar gael i'w lawrlwytho. Mae copïau caled o'r hysbysiad ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yn y manylion cyswllt isod.

 

Yn unol ag adran 48 o’r ‘Ddeddf’ caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynnig cyn diwedd 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cynigion, hynny yw erbyn dydd Mawrth 6 Chwefror 2024.

 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghoriasesiad o'r effaith ar y gymuned a'r llythyr yn nodi’r cynnig.

 

Gallwch ddod i sesiwn hefyd a thrafod hyn â ni wyneb yn wyneb:

 

Sesiwn

Dyddiad ac amser

Lleoliad

Sesiwn galw rhieni a'r gymuned

Dydd Mercher

27 Medi

15:00 – 18:00

Ysgol Stanwell,

Heol Archer, CF64 2XL

 

Sesiwn galw heibio gymunedol

Dydd Mercher   11 Hydref

15:30 – 17:30

Ysgol Stanwell,

Heol Archer, CF64 2XL

 

 

Mae hon yn ffordd dda o gael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gan lawer ohonoch am y cynigion. Byddwn yn gofyn o hyd eich bod yn llenwi ffurflen ymateb ar yr ymgynghoriad, oherwydd gallwn ond dderbyn safbwyntiau yn ysgrifenedig.

 

Penderfyniad

Ar 8 Chwefror 2024, cymeradwyodd Corff Llywodraethu Ysgol Stanwell y cynnig i newid categori'r ysgol o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024 ymlaen.

 

Gellir gweld holl ddeunyddiau’r ymgynghoriad isod: