Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

21st Century Schools LogoDarpariaeth Feithrin ym Mhenarth 

Ymgynghoriad i'r cynigion i ad-drefnu darpariaeth feithrin ym Mhenarth o fis Medi 2022. 

 

Ar 13 Medi 2021, awdurdododd Cabinet y Cyngor Gyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad o 20 Medi 2021 hyd 5 Tachwedd 2021 ar ddau gynnig i  ad-drefnu darpariaeth feithrin ym Mhenarth o fis Medi 2022. 

 

Cynnig 1: 

Uno Ysgol Feithrin Bwthyn Bute ac Ysgol Gynradd Evenlode drwy:

  • Newid oedran isaf y disgyblion yn ysgol GynraddEvenlode o 4 i 3, i gynnwys 96 lle meithrin rhan-amser

  • Cynyddu gallu Ysgol GynraddEvenlode i ddarparu lle ar gyfer y 96 lle meithrin rhan-amser

  • Dod ag Ysgol Feithrin Bwthyn Bute i ben a throsglwyddo’r holl staff a disgyblion yn y cyfnod meithrin i fod dan lywodraeth Ysgol Gynradd Evenlode o fis Medi 2022.

 

Cynnig 2:

Uno Ysgol Feithrin Cogan ac Ysgol Gynradd Cogan drwy:

  • Newid oedran isaf y disgyblion yn ysgol GynraddCogan o 4 i 3, i gynnwys 96 lle meithrin rhan-amser

  • Cynyddu gallu Ysgol GynraddCogan i ddarparu lle ar gyfer y 96 lle meithrin rhan-amser

  • Dod ag Ysgol Feithrin Cogan i ben a throsglwyddo’r holl staff a disgyblion yn y cyfnod meithrin i fod dan lywodraeth Ysgol Cogan o fis Medi 2022.

 

Penderfyniad

Ar 11 Ebrill 2022, ystyriodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yr adroddiad gwrthwynebiadau a’r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynwyd cymeradwyo’r cynnig.

 

Bydd Cynnig 1 yn arwain at derfynu Meithrinfa Bwthyn Bute a bydd holl staff Meithrinfa Bwthyn Bute yn cael eu trosglwyddo o dan lywodraethu Ysgol Gynradd Evenlode. Bydd Cynnig 2 yn arwain at ddod â Meithrinfa Cogan i ben a bydd holl staff Meithrinfa Cogan yn cael eu trosglwyddo o dan lywodraethu Ysgol Gynradd Cogan. Byddai darpariaeth feithrin yn parhau i gael ei darparu o'r adeiladau meithrin presennol o dan y ddau gynnig. Bydd y cynigion yn cael eu rhoi ar waith ddydd Llun 5 Medi 2022.

 

Gellir gweld yr holl ddeunydd ymgynghori gan gynnwys yr Adroddiad Gwrthwynebiadau isod:

 

 

Dogfennau Ymgynghori

 

 

  

 

Os hoffech gopi caled o’r adroddiadau, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu yn: sustainablecommunitiesforlearning@valeofglamorgan.gov.uk.

 

 

 

Cwestiynau a ofynnir yn aml 

  • Pe caent eu gweithredu beth fyddai’r cynigion yn ei olygu?

    Byddai Ysgol Feithrin Bwthyn Bute ac Ysgol Feithrin Cogan yn dod i ben a byddai’r staff a’r disgyblion o’r cyfnodau meithrin yn trosglwyddo i fod dan lywodraeth Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Gynradd Cogan yn y drefn honno. Fodd bynnag, byddai’r ddarpariaeth feithrin yn dal i gael ei darparu yn yr adeiladau presennol gyda’r ddau gynnig.   

  • Beth yw’r amserlen a fwriedir ar gyfer gweithredu?

    Bwriedir i’r cynigion gael eu gweithredu erbyn mis Medi 2022. 

  • Sut byddai’r cynigion hyn yn effeithio ar drefniadau derbyn?

    Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgolion. Caiff y trefniadau derbyn i gyd o fewn Bro Morgannwg eu hadolygu’n flynyddol.


    Y capasiti ar gyfer cyfnod meithrin Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Gynradd Cogan fyddai 96 o leoedd rhan-amser. Ni fyddai’r cynigion hyn yn cael effaith ar y nifer derbyn ar gyfer cyfnod cynradd Ysgol Gynradd Evenlode nac Ysgol Gynradd Cogan.

    Ni fyddai gan y plant ar y gofrestr yn y cyfnod meithrin hawl awtomatig i barhau eu haddysg yn yr un ysgol wrth symud i fyny i ddosbarth derbyn. Byddai angen i’r rhieni wneud cais ar gyfer yr ysgol o’u dewis. Pan fyddai mwy o geisiadau nag oedd o leoedd ar gael yn y dosbarth derbyn, câi’r lleoedd eu dyrannu drwy ddefnyddio meini prawf gordanysgrifio’r Cyngor sy’n rhoi blaenoriaeth i’r rheiny sy’n byw yn y dalgylch.

     

  • Sut byddai’r cynigion hyn yn effeithio ar y cyrff llywodraethu presennol?

    Byddai staff Ysgol Feithrin Bwthyn Bute ac Ysgol Feithrin Cogan yn trosglwyddo i fod dan reolaeth cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Gynradd Cogan yn y drefn honno.

    Er y byddai cyrff llywodraethu Ysgol Feithrin Bwthyn Bute ac Ysgol Feithrin Cogan yn cael eu diddymu o fis Medi 2022, byddai’r Cyngor yn gweithio gyda chyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Gynradd Cogan i ganfod cyfleoedd i lywodraethwyr drosglwyddo er mwyn sicrhau parhad. 

    Byddai angen i gyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Gynradd Cogan newid eu cylch gorchwyl a’u strwythur i adlewyrchu cynnwys y cyfnod meithrin.

  • Oes angen i mi ymateb i’r ddau gynnig?
    Cewch ymateb i un cynnig neu i’r ddau drwy lenwi’r adrannau perthnasol o’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad (drwy’r ffurflen neu’r ddolen gyswllt isod). Nid oes angen i chi ymateb i’r ddau os nad oes arnoch eisiau. 

 

 

Manylion cyswllt