Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ehangu Ysgol Iolo Morganwg

YMGYNGHORIAD AR Y CYNNIG I GYNYDDU'R GALLU AR GYFER ADDYSG GYMRAEG TRWY EHANGU YSGOL IOLO MORGANWG O 210 LLE I 420 O LLE O FEDI 2025.

Sustainable Communities for Learning Logo

 

Cyflwyniad i'r cynnig

Y cynnig yw ehangu Ysgol Iolo Morganwg o 210 o leoedd i 420 o leoedd o fis Medi 2025. Yn ogystal mae'r cynnig hefyd yn cynnwys cynyddu'r ddarpariaeth feithrin i 96 o leoedd rhan amser a chanolfan trochi addysg oedolion a'r Gymraeg ar gyfer disgyblion oed ysgol gynradd o 7 oed ac uchod, yn ogystal â chynnig Rhaglenni Dysgu Oedolion a Chymunedol ar ôl oriau ysgol.

 

Byddai’r cynnig yn golygu codi adeilad ysgol gynradd newydd â 420 o leoedd ar dir Adran 106 o fewn datblygiad tai ‘Tir i’r gogledd a’r gorllewin o Darren Close’. Ar ôl cwblhau'r adeilad, byddai Ysgol Iolo Morganwg yn trosglwyddo i'r safle newydd. Byddai hyn yn darparu 210 o leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg ychwanegol a 30 o leoedd meithrin. Byddai hyn yn cefnogi twf mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, gan gefnogi CSGA y Cyngor a strategaeth ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru.

 

I gefnogi ehangu cyfrwng Cymraeg yn y Bont-faen ac ar draws y Fro, byddai cyfleuster ychwanegol yn cael ei sefydlu ar y safle i gefnogi addysg oedolion a throchi ar gyfer dysgwyr hwyr (disgyblion cynradd oed 7+ oed) i addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar ehangu Ysgol Iolo Morganwg. Er bod trosglwyddo'r ysgol i'r adeilad newydd wedi'i gynnwys fel rhan o'r ddogfen ymgynghori hon, nid yw hyn yn ddarostyngedig i'r broses statudol gan y byddai'r trosglwyddiad o fewn milltir.

 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu sut i symud ymlaen.

 

Dogfen ymgynghorol Ehangu Ysgol Iolo Morganwg

 

Rhesymau dros y cynnig

Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod ysgolion yn gwasanaethu eu cymunedau lleol ac yn adlewyrchu'r galw. Mae angen bodloni’r galw yn y dyfodol o’r datblygiadau tai newydd yn y Bont-faen, yn ogystal â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.

 

 

  • Byddai adeilad ysgol newydd â 420 o leoedd yn darparu ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn nifer y disgyblion o ddatblygiadau newydd cyfagos.

  • Byddai'r capasiti cynyddol hefyd yn darparu ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn nifer y rhieni sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg.

  • Mae Ysgol Iolo Morganwg yn cynnwys prif adeilad ysgol Fictoraidd, bloc bwyta a 3 uned storio a adeiladwyd rhwng 1900 – 1920. Gosodwyd tair uned dros dro rhwng 2002 – 2010. Mae'r ysgol ar safle llethrog iawn heb unrhyw ragolygon o gynyddu'r safle yn sylweddol. i gwrdd â safonau modern.

  • Dosbarthiadau o faint afreolaidd yn arwain at feintiau gwahanol ar draws grwpiau blwyddyn yn hytrach na dilyn maint dosbarth safonol.

  • Nid yw'n bosibl codi adeilad newydd yn ei le presennol yn lle'r ysgol oherwydd y gofod tu allan cyfyngedig.

Ymateb i'r ymgynghoriad

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o 27 Chwefror 2023 i 11 Ebrill 2023.

 

Mae eich barn yn bwysig i ni, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i’r ymgynghoriad:

 

 

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein yn

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori a'i hanfon at:

  • Ymgynghoriad Ehangu Ysgol Iolo Morganwg
    Cyngor Bro Morgannwg
    Swyddfeydd Dinesig
    Heol Holton
    Barri
    CF63 4RU

 Bydd yr holl ymatebion a roddir i ni yn ysgrifenedig erbyn 11 Ebrill 2023 yn cael eu hystyried gan y Cabinet cyn iddo benderfynu cyhoeddi hysbysiad statudol ai peidio.

 

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad

Ar 25 Mai 2023, ystyriodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yr adroddiad ar yr ymateb i’r ymgynghoriad a’r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd bwrw ymlaen i gyhoeddi statudol ar y cynnig.

 

Byddai'r cynnig yn arwain at adeilad ysgol gynradd newydd â 420 o leoedd ar dir Adran 106 o fewn datblygiad tai 'Tir i'r gogledd a'r gorllewin o Darren Close' o fis Medi 2025. Ar ôl cwblhau'r adeilad, byddai Ysgol Iolo Morgannwg yn trosglwyddo i'r safle newydd. Byddai hyn yn darparu 210 o leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg ychwanegol ynghyd â 30 o leoedd meithrin. Byddai hyn yn cefnogi twf mewn addysg gynradd Gymraeg, gan gefnogi strategaeth CSCA y cyngor a strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru.

 

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i ehangu Ysgol Iol Morganwg

Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i ehangu Ysgol Iolo Morganwg.


Mae’r hysbysiad a’r llythyr statudol ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r hysbysiad ar gael ar gais trwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar y Manylion Cyswllt isod. 

Yn unol ag adran 49 ‘y Ddeddf’, o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn dan adran 48 'y Ddeddf', hynny yw erbyn Dydd Llun 24 Gorffennaf 2023, gall unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion.

 

Penderfyniad

Ar 7 Medi 2023, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg y cynnig i ymestyn Ysgol Iolo Morganwg o 210 lle i 420 lle o fis Medi 2025. O ganlyniad, caiff adeilad newydd ei godi ar gyfer Ysgol Iolo Morganwg ar y Datblygiad Safle Fferm Darren ar gyfer 420 disgybl a bydd yr ysgol yn symud o 1 Medi 2025.

 

Gellir gweld yr holl ddeunydd ymgynghori gan gynnwys yr Llythyr Penderfynu isod:

 

Os hoffech gael copi caled o'r adroddiadau, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn: sustainablecommunitiesforlearning@bromorgannwg.gov.uk

  

Darganfod mwy

Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen ymgynghori, asesiad o'r effaith ar y gymuned, a llythyr yn manylu ar y cynnig.

 

Gallwch hefyd fynychu sesiwn galw heibio a siarad â ni yn bersonol:

 

Drop-in sessions
SesiwnDyddiad ac amserLleoliad

Sesiwn galw heibio cymunedol

28 Mawrth 2023, 2.30pm – 6pm

Ysgol Iolo Morganwg, Broadway, Y Bont-faen, CF71 7ER

Sesiwn galw heibio i Rieni a'r Gymuned

30 Mawrth 2023, 8.45am – 9.30am 3pm – 4pm

Ysgol Iolo Morganwg, Broadway, Y Bont-faen, CF71 7ER

 

Mae hon yn ffordd dda o allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynigion. Byddwn yn dal i ofyn i chi lenwi ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, gan mai dim ond barn ysgrifenedig y gallwn ei derbyn.

 

I ddysgu mwy am gamau’r broses ymgynghori statudol, darllenwch ein canllaw defnyddiol.

 

Manylion cyswllt

  • 01446 709828

  • sustainablecommunitiesforlearning@valeofglamorgan.gov.uk

Cwetiynau Cyffredin

 

  • Beth os na fydd y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn dod i'r amlwg?

    Mae'r Cyngor yn hyderus bod digon o dystiolaeth i awgrymu y bydd y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i dyfu, sy'n adlewyrchu strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd dull rhagweithiol o hyrwyddo addysg ddwyieithog a chreu darpariaeth ychwanegol i gefnogi rhieni a disgyblion sy’n penderfynu trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg trwy ganolfan drochi neu ddarpariaeth debyg fel yr amlinellir yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cynyddu ymhellach y nifer sy’n manteisio ar y ddarpariaeth. dros y tymor hir. Byddai unrhyw gapasiti dros ben interim o fewn ysgolion yn cael ei reoli fel y byddai gydag unrhyw ysgol arall neu ased y Cyngor.

  • Beth yw manteision addysg cyfrwng Cymraeg?

    Mae plant dwyieithog yn tueddu i gyflawni'n uwch o fewn y cwricwlwm a pherfformio'n well mewn arholiadau. Mae dysgu ail iaith yn ifanc yn helpu plant i ddatblygu clust ar gyfer ieithoedd ac yn rhoi dechrau da iddynt wrth ddysgu trydedd neu bedwaredd iaith wrth iddynt fynd yn hŷn. Yng Nghymru, mae siarad Cymraeg yn sgil yn y gweithle, yn enwedig o fewn y sectorau cyhoeddus a gwasanaethau, ac oherwydd newidiadau diweddar i’r gyfraith bydd angen gweithlu dwyieithog ar fwy a mwy o gyflogwyr. Mae dysgu trwy iaith arall yn helpu plant i ddatblygu mwy o sensitifrwydd i ddiwylliannau a chefndiroedd eraill. Mae siarad Cymraeg yn rhoi perthynas agosach i bobl â hanes, treftadaeth a thraddodiadau Cymru.

  • Pa gymorth sydd ar gael i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg?


    Nid yw mwyafrif helaeth y rhieni sy’n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg y Fro yn siarad Cymraeg eu hunain. Dyna pam mae ysgolion cyfrwng Cymraeg Bro Morgannwg bob amser yn cyfathrebu â rhieni yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ym mron pob achos bydd esboniad Saesneg yn cael ei roi i waith cartref disgyblion oed cynradd fel y gall pob rhiant helpu eu plant gyda'r gwaith. Mae yna hefyd nifer o gylchoedd chwarae cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg yn y Fro sy’n cael eu rhedeg gan y mudiad Mudiad Meithrin. Mae addysg Gymraeg i oedolion hefyd yn cael ei hyrwyddo ar draws Bro Morgannwg gydag ystod eang o gyrsiau ar gael o ddechreuwyr i hyfedredd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y llyfryn bod yn ddwyieithog

     

  • Beth yw amserlen arfaethedig y datblygiad?

    Bwriedir dechrau adeiladu ar safle’r ysgol newydd erbyn Gorffennaf 2024 a chael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025.

  • Pryd fyddai staff a disgyblion yn trosglwyddo i adeilad newydd yr ysgol?

    Y cynnig yw y byddai’r ysgol newydd yn agor erbyn mis Medi 2025.

  • A fydd pennaeth newydd?

    Byddai'r holl staff a gyflogir yn yr ysgol ar y dyddiad trosglwyddo yn trosglwyddo'n awtomatig i'r safle newydd heb unrhyw newid i'w telerau ac amodau cyflogaeth.