Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant 

Ymgynghoriad ar y cynnig i Greu Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant o fis Medi 2024. 

Sust Learning logo_colour

 

Cyflwyniad i’r cynnig

Ar 7 Mawrth, awdurdododd Cabinet y Cyngor y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad 10 Ebrill I 22 Mai  2024 ar y cynnig i  greu Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant erbyn Medi 2024.

 

Byddai'r cynnig yn creu darpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg arbenigol ar gyfer disgyblion 4-11 oed.  Diben y ganolfan arbenigol hon fyddai cefnogi dysgwyr unigol yn ogystal â chynyddu capasiti'r ysgol gartref i greu amgylchedd cwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael mynediad at addysg sy'n diwallu ei anghenion. 

 

Byddai’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn cynnig cyfnodau o ddarpariaeth integredig i ddisgyblion sydd â diagnosis o gyflwr ar y sbectrwm awtistig a'r rhai sy'n profi anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoleiddio sylweddol. Bydd hyn yn cynnwys disgyblion y mae eu lefel uchel o orbryder yn effeithio'n sylweddol ar eu gallu i gael mynediad at addysg prif ffrwd.

 

Nid oes angen cyllid cyfalaf i sicrhau bod y llety a nodwyd yn addas gan fod gwaith cyfalaf wedi'i gwblhau ar ôl nodi'r lle i'w ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth ADY fel rhan o Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Nid yw gweithredu'r cynnig yn gofyn am ddiwygiadau pellach i adeilad Ysgol Gwaun Y Nant.

 

Ymateb i’r ymgynghoriad

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 10 Ebrill I 22 Mai. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

Mae eich barn yn bwysig i ni, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i’r ymgynghoriad:

  • Llenwi’r ffurflen ymateb ar-lein
  • Cwblhau’r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori a'i hanfon at: 

Canolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg Ysgol Gwaun y Nant

Cyngor Bro Morgannwg

Y Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

 

Bydd yr holl ymatebion ysgrifenedig a roddir i ni erbyn 22 Mai 2024 yn cael eu hystyried gan y Cabinet cyn iddo benderfynu p’un a ddylid cyhoeddi hysbysiad statudol ai peidio.

 

Dogfennau Ymgynghori