Cost of Living Support Icon

 

Pafiliwn Belle Vue i gael uwchraddiad sylweddol

Bydd Pafiliwn Belle Vue yn cael ei drawsnewid yn ofod cymunedol hynod fodern os caiff cynigion ar gyfer ailddatblygiad mawr eu cymeradwyo.

 

  • Dydd Gwener, 02 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Mae penderfyniad ar y cynlluniau ar gyfer yr adeilad, lle nad oes gwres a lle mae’r mynediad yn anhygyrch ar hyn o bryd, i gael eu penderfynu'n fuan.


Mae'r rhain wedi'u diwygio'n ddiweddar yn dilyn adborth gan y cyhoedd, gyda maint yr adeilad wedi'i leihau, sy'n golygu y bydd llai o gymryd tir gan fan agored yn y cefn.


Byddai tair coeden yn cael eu symud i wneud lle i’r datblygiad, er bod yn rhaid cwympo dwy beth bynnag gan fod eu gwreiddiau'n effeithio ar strwythur yr adeilad presennol. Bydd nifer o goed newydd yn cael eu plannu yn y parc i ddisodli'r rhai sydd angen eu clirio.

 

bellevue1

Os bydd y cynlluniau, a luniwyd ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys Cyfeillion Belle Vue, yn gweld golau gwyrdd, bydd pafiliwn newydd wedi'i gynllunio'n arbennig sy'n cynnwys llu o gyfleusterau modern yn cael ei chodi. 


Bydd yn cynnwys cegin, neuadd aml-ddefnydd, toiledau, mannau newid, potensial ar gyfer ciosg/caffi, man eistedd awyr agored a llawer mwy.  


Wedi'i adeiladu gyda hygyrchedd mewn golwg, bydd hefyd yn gartref i'r gofod Llefydd Newid cyntaf yng nghanol Penarth.  Mae honno'n doiled pwrpasol sy'n cynnwys amrywiaeth o offer i helpu defnyddwyr anabl.  


Mae'r prosiect yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau Adran 106 o ddatblygiadau cyfagos a grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. 


Fel rhan o'r cynigion, bydd y man chwarae hefyd yn cael ei uwchraddio i gynnwys cyfarpar sy'n addas ar gyfer plant ag ystod o alluoedd a gofynion hygyrchedd.  


Mae disgwyl i Bella'r Ddraig, sy’n gerflun poblogaidd, hefyd i gael ei adnewyddu cyn cael ei ddychwelyd i’w le priodol o fewn y parc.

 

bellevue2

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Yng ngoleuni y cyflwr dirywiol sydd ar yr adeilad, cynhaliwyd cyfres o ymgynghoriadau ers 2019 i ganfod cyfleoedd ar gyfer sicrhau dyfodol Pafiliwn Belle Vue ac i fesur barn trigolion a grwpiau defnyddwyr.


Mae'r ymgynghoriadau wedi dangos bod yr adeilad presennol yn gyfleuster a ddefnyddir yn helaeth iawn gan y preswylwyr sy’n byw gerllaw’r parc; disgyblion a rhieni yn Ysgol Gynradd Albert; cymuned ehangach Penarth; poblogaeth y ward; ac ymwelwyr â Phenarth.


"Datblygwyd cynigion i adlewyrchu anghenion y nifer o ddefnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr yr adeilad cymunedol yn y dyfodol.  Mae cynlluniau wedi'u cyflwyno i Adran Gynllunio'r Cyngor, sy'n golygu y bydd pobl yn cael cyfle i rannu eu barn fel rhan o'r broses gynllunio statudol. 


"Rwyf wrth fy modd gyda'r posibilrwydd o ailwampio Pafiliwn a man chwarae Belle Vue.   Credwn y gall yr adeilad hwn fod yn gaffaeliad gwirioneddol i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd."