Cost of Living Support Icon

 

Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya newydd i dri phentref ym Mro Morgannwg

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya i dri phentref mewn ymdrech i wella diogelwch ac annog teithio llesol.

 

  • Dydd Gwener, 30 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Mae Saint-y-brid, Aberthin a Llanbedr-y-fro i gyd wedi gweld y terfyn isaf newydd yn cael ei gyflwyno yn dilyn cefnogaeth eang iddo o fewn y cymunedau lleol. 

 

Mae'r cynllun yn Saint-y-brid yn rhan o brosiect peilot gan Lywodraeth Cymru a gynlluniwyd i gasglu data ynghylch a ddylai 20mya fod y gosodiad cyflymder is diofyn newydd ledled y Wlad. 

 

Cynigiwyd Llanbedr-y-fro hefyd ar gyfer y prosiect hwnnw, ond ar ôl peidio â chael ei ddewis i gymryd rhan dewisodd y Cyngor weithredu parth 20mya ei hun. 

 

Ar ôl anawsterau wrth osod croesfan ffordd reoledig i gerddwyr yn Aberthin, ystyriwyd mai lleihau'r terfyn cyflymder fel hyn oedd y ffordd orau o reoli traffig yno. 

 

Mae dros £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ar gyfer cynllun Saint-y-brid. Mae'r gweithiau yn Aberthin a Llanbedr-y-fro’n cael ei ariannu o gyllideb Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth y Cyngor a chyfraniadau Adran 106. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n gwybod faint roedd y cymunedau lleol dan sylw am i'r parthau hyn gael eu gweithredu felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu eu darparu.


"Nid yn unig y bydd y cynlluniau'n gwneud pentrefi'n fwy diogel drwy arafu ceir, gobeithiwn y byddant hefyd yn annog teithio llesol drwy greu amgylchedd mwy deniadol ar gyfer cerdded a beicio." 

 

Dwedodd y Cynghorydd Stewart Edwards, Aelod Ward dros Saint-y-brid: "Gyda siopau, swyddfa bost a thafarn ar y brif ffordd, yn ogystal ag ysgol gynradd ac amwynderau eraill mewn mannau eraill yn y pentref, credwn fod 20mya yn derfyn cyflymder priodol ac yn un a ddylai wneud Saint-y-brid yn fwy diogel."


"Rwy'n falch fy mod wedi chwarae rhan yn y prosiect hwn, a gafodd gefnogaeth lawn Cyngor Cymuned Saint-y-brid, Ysgol Saint-y-brid, Grŵp Cadw Saint-y-brid yn Ddiogel, busnesau lleol a thrigolion. "Mae'r cynllun eisoes ar waith a hoffwn ddiolch i swyddogion y Cyngor am ei weithredu mor gyflym."


Dywedodd Cynghorydd y Fro Hunter Jarvie, sy'n cynrychioli ward y Bont-faen: "Mae lleihau terfynau cyflymder yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr oll.


"Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod cynlluniau 20mya yn helpu i annog teithio llesol drwy gynyddu cerdded a beicio, gweithgareddau a all gael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd unigolion a lleihau tagfeydd, allyriadau carbon a gwella'r amgylchedd lleol yn gyffredinol.


"Rwy'n falch iawn y bydd Aberthin yn un o ardaloedd y Fro sy’n treialu terfynau 20mya ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau."

Dywedodd y Cynghorydd Michael Morgan, cynghorydd Llanbedr-y-fro: "Rwy'n falch iawn y bydd y terfyn prawf 20mya yn cael ei gyflwyno drwy Lanbedr-y-fro. Mae ein Cyngor cymuned a'n hysgol wedi ymgyrchu dros hyn ers peth amser.


"Bydd y terfyn newydd yn helpu gyrwyr i fod yn fwy ymwybodol o'u hamgylchedd a gwneud bywyd yn fwy diogel i bawb – yn enwedig ein plant a'n trigolion hŷn.


"Rwy'n gobeithio y gellir cyflwyno ei derfynau yn y pen draw ym mhob un o Bentrefi'r Fro a'n hardaloedd preswyl."