Cost of Living Support Icon

 

Adeiladu 31 eiddo arall yng Nghlos Holm View

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu 31 uned arall o dai cyngor ar ei ddatblygiad Clos Holm View yn dilyn buddsoddiad o £5 miliwn.

 

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Yn gynharach eleni, cwblhawyd prosiect i adeiladu 11 eiddo, gan gynnwys pump ar gyfer preswylwyr anabl, ar y safle yn Skomer Road yn y Barri.


Nawr mae cynlluniau ychwanegol i adeiladu wyth fflat un ystafell wely, 18 o dai dwy ystafell wely, tri thŷ tair ystafell wely a dau fyngalo tair ystafell wely wedi’u haddasu.


Dyma'r cynllun diweddaraf i fynd i'r afael ag angen sylweddol am dai cyngor yn y Fro, sydd â thua 6,000 o bobl ar y rhestr aros ar hyn o bryd.

 

holmview2

Mae'n dilyn cwblhau datblygiad tebyg yn Llys Llechwedd Jenner, tra bod eraill ar y gweill yn Hayes Road a Hayeswood Road yn y Barri ynghyd â fflatiau pobl hŷn ym Mhenarth.

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:  "Mae'r angen am dai cyngor yn cynyddu felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy gynnig eiddo o'r ansawdd orau.


"Mae hwn yn un o nifer o ddatblygiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd a dylai ddarparu lleoedd cyfforddus i deuluoedd, cyplau a phobl sengl fyw ynddynt. 


"Mae'r holl eiddo wedi'i adeiladu i'r fanyleb a'r safonau uchaf ac rydym yn gobeithio croesawu pobl iddynt yn fuan."