Cost of Living Support Icon

 

Oriel y Cyngor yn cynnal Arddangosfa Haf o Hwyl 

Bydd Oriel Gelf Ganolog Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal arddangosfa newydd sy'n cofnodi rhaglen gweithgareddau Haf o Hwyl.

 

  • Dydd Iau, 02 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg



Cynhaliwyd rhaglen gweithgareddau Haf o Hwyl drwy gydol gwyliau'r haf, gan ddarparu ystod o weithgareddau hamdden, chwarae, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc am ddim.

 

Cefnogwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o fenter i ailintegreiddio pobl ifanc mewn lleoliadau cymdeithasol a gweithgareddau. Drwy gydol mis Medi, bydd yr Oriel Gelf Ganolog yn arddangos gwaith a grëwyd fel rhan o'r gweithgareddau, yn ogystal â gwaith a gyflwynwyd yn annibynnol gan bobl ifanc ledled y Fro.

 

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys colur y llwyfan, llyfrau cyngherddau a chelf graffiti.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'r haf hwn wedi bod yn llawn gweithgareddau i bobl ifanc.  Mae wedi bod yn gyfle iddynt ymgysylltu a mwynhau wrth ddod i'r amlwg o gyfnod heriol iawn. 

 

"Roedd y rhaglen yn darparu pob math o gyfleoedd i bobl ifanc gysylltu â'i gilydd ac ymgolli mewn dysgu sgiliau newydd. 

 

"Rydym yn ffodus nawr o gael y profiad unigryw hwn wedi'i ddogfennu yn yr arddangosfa hon." 

Bydd arddangosfa Haf o Hwyl yn rhedeg o ddydd Sadwrn, 11 Medi tan ddydd Sadwrn, 02 Hydref. Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.30am tan 4.30pm.

 

I gael gwybodaeth am Oriel Gelf Ganolog, ewch i'r wefan: 

 

Oriel Gelf Ganolog