Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Ymunodd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Jayne Norman, â gweithwyr yr Heddlu, y gwasanaeth Ambiwlans a’r gwasanaeth Tân ac Achub i ddangos ei chefnogaeth i Ddiwrnod y Gwasanaethau Brys.

 

  • Dydd Iau, 09 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg



Siaradodd y Cynghorydd Norman â'r rhai a ddaeth i’r digwyddiad yng Ngorsaf y Gwasanaethau Brys yn Llanilltud Fawr, ei ward leol.


Yn y cyfamser, mewn digwyddiad arall, roedd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, a'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Rob Thomas, ymhlith y rhai a gyfarfu yn y Swyddfeydd Dinesig i anrhydeddu'r achlysur, lle'r oedd baner y Gwasanaethau Brys yn chwifio.


Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys, a elwir hefyd yn Ddiwrnod 999, yn dechrau am 9am ar nawfed diwrnod y nawfed mis bob blwyddyn, ac mae'n cael ei nodi ledled y DU gan y Frenhines, Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidogion Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.


Mae'n cynnig cyfle i gydnabod dynion a menywod arwrol y GIG a'r gwasanaethau brys.


Hyrwyddir defnyddio’r gwasanaethau hyn yn gyfrifol hefyd, ynghyd â chyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli yn y gwahanol feysydd, ac addysg am sgiliau achub bywyd sylfaenol. 

Dywedodd y Cyng. Norman: "Mae'r gwasanaethau brys yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu a gofalu am ein cymunedau. Ni fu hynny erioed yn fwy amlwg nag yn ystod y pandemig pan aeth aelodau o'r sefydliadau hyn y tu hwnt i’r disgwyl i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.


"Rwy'n gwybod fy mod yn siarad dros gymaint o bobl pan ddywedaf 'diolch' o’r galon am yr ymdrechion anhygoel hynny. 


"Fel Cyngor, rydym yn hynod ddiolchgar am ymrwymiad, proffesiynoldeb ac anhunanoldeb y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau brys ac rwy'n falch o allu mynegi'r gwerthfawrogiad hwnnw heddiw."