Lansio Siop Un Stop am gymorth tai yn swyddogol
Yn ddiweddar bu Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer Tai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenant, Margaret Wilkinson yn lansiad Siop Un Stop y Sir ar gyfer cymorth tai.
Mae'r siop, sydd wedi'i lleoli ar Heol Holltwn yn y Barri, yn cael ei rhedeg ar y cyd â Pobl, sefydliad dielw sy'n cefnogi cymunedau yng Nghymru.
Mae wedi bod yn gweithredu ers Mis Ebrill 2020, ond oherwydd y pandemig bu'n rhaid gohirio'r lansiad swyddogol.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu i'r gwasanaeth gynorthwyo dros 2,000 o bobl drwy gynnig cyngor a chymorth ar opsiynau tai.
Cafodd y Cynghorydd Wilkinson ac Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, daith o amgylch yr adeilad, sy'n cynnwys podiau cyfarfod, cyfleusterau TGCh, ystafell hyfforddi a staff Pobl wrth law i gynorthwyo gydag ymholiadau. with queries.
"Roedd yn wych ymweld â Siop Un Stop ar gyfer ei lansiad swyddogol," meddai'r Cynghorydd Wilkinson.
"Mae darparu llety addas i bobl o'r pwys mwyaf i'r Cyngor ac mae'r cyfleuster hwn yn helpu'n fawr iawn gyda'r nod hwnnw.
"Yn anffodus, ers y pandemig, mae niferoedd y bobl sydd angen cefnogaeth o'r math yma wedi cynyddu'n sylweddol felly dyw'r gwasanaeth hwn erioed wedi bod yn fwy gwerthfawr.
"Hoffwn ddiolch i Pobl am eu cymorth gyda'r fenter hon ac yn arbennig canmol staff Siop Un Stop am y gwaith anhygoel o werth chweil maen nhw'n ei wneud.
"Mae'r gwasanaeth hwn eisoes wedi helpu miloedd o bobl a bydd miloedd yn fwy yn y dyfodol."
Wedi'i ariannu gan Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru, mae'r Siop Un Stop yn gweithredu ar sail galw i mewn, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
Gall defnyddwyr gwasanaethau gael help i:
• Atal digartrefedd
• Rheoli cartref neu denantiaeth
• Delio ag argyfwng tai
• Cyllidebu
• Deall a gwneud ceisiadau budd-daliadau lles
• Deall gohebiaeth
• Dysgu am asiantaethau perthnasol eraill
O fis nesaf ymlaen, bydd oriau agor y Siop Un Stop yn cael eu hymestyn i dalu am 9am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Iau, 9am i 4pm ar ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn.
Pan fydd unigolyn angen cymorth mwy hirdymor, fe'u cyfeirir at Borth Cefnogi Pobl y Cyngor.
Meddai Lorraine Griffiths, Rheolwr Ardal Pobl, "Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd lansiad hirddisgwyliedig, ac roedd modd i ni arddangos gwaith anhygoel y staff. Hoffai Pobl ddiolch i'n staff a'r tîm Grant Cymorth Tai am eu cefnogaeth gyda'r prosiect sy'n sicrhau ein bod yn gallu cynorthwyo unrhyw un sydd angen ein gwasanaethau ar unwaith."