Cost of Living Support Icon

 

Y Fro yn dathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 

Cynhaliodd tîm Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg ddiwrnod teuluol llawn hwyl am ddim ym Mharc Romilly i ddathlu popeth yn ymwneud â chwarae.

 

  • Dydd Gwener, 05 Mis Awst 2022

    Bro Morgannwg



National Play day at Romilly Park

Dathlwyd Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 3 Awst ledled y DU. Nod y diwrnod yw tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan chwarae ar iechyd corfforol, iechyd meddwl, a pherthnasoedd plant a phobl ifanc. 


Yn unol â thema eleni, 'Popeth i chwarae amdano - adeiladu cyfleoedd chwarae i bob plentyn', bu tîm Chwaraeon a Chwarae'r Fro yn cydweithio â Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Y Tîm Dechrau'n Deg, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Gwasanaeth Rhianta'r Fro, Llyfrgelloedd y Fro a'r Tîm Dysgu Oedolion i ddarparu diwrnod llawn gweithgareddau cynhwysol, hwyliog i bawb eu mwynhau.


Roedd amrywiaeth o gyfleoedd chwarae ar gael gan gynnwys gweithgareddau celf, crefftau, chwaraeon a synhwyraidd.


Mae'r diwrnod yn un o nifer o weithgareddau am ddim sydd ar gael i bobl ifanc yr haf hwn.  Ar ôl profi'n boblogaidd mewn blynyddoedd blaenorol, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ffurfio partneriaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau cymunedol i greu rhaglen Haf o Hwyl. 


Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a'i nod yw cefnogi lles plant a phobl ifanc i barhau i adfer yn sgil y cyfyngiadau Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda'r fantais ychwanegol o gefnogi teuluoedd gyda chostau gweithgareddau dros wyliau'r haf. 
Bydd Haf o Hwyl yn para tan 30 Medi ac mae'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim, sy'n addas i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed.

 
Gweld amserlen Haf o Hwyl ar wefan Bro Morgannwg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles:
"Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, ac roedd yn wych gweld cynifer o blant a phobl ifanc yn ymgysylltu gyda'r gweithgareddau ac yn mwynhau eu hunain. 


"Yn dilyn yr heriau y mae plant a phobl ifanc wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd pandemig Covid-19, mae chwarae yn bwysicach nag erioed.

 
"Da iawn i bawb wnaeth cymryd rhan!"