Cost of Living Support Icon

 

Gwaith gwella mawr yn Ardal Chwarae Windmill Lane 

Bellach, gall plant yn Llanilltud Fawr fwynhau ardal chwarae newydd a gwell yn Windmill Lane yn dilyn buddsoddiad o £67,000 gan Gyngor Bro Morgannwg.

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Awst 2022

    Bro Morgannwg



Mae'r parc wedi'i drawsnewid yn ofod hwyl, modern gydag offer newydd wedi'i gynllunio ar gyfer ystod o oedrannau, o blant bach i blant 12 oed.


Mae chwyrligwgan newydd, siglenni amrywiol, cylched cydbwyso, si-so, ardal glaswellt a meinciau ac ardal aml-chwarae i gyd wedi’u gosod ar arwyneb lliwgar.ce.

 

windmill01

Mae llawer o'r eitemau yn gynhwysol ac yn briodol ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol. 


Mae ffrâm ddringo bresennol hefyd wedi'i gwella, tra bydd coed newydd yn cael eu plannu yn yr hydref.


Mae’r ailddatblygiad hwn yn rhan o raglen eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Fro.  

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae'n wych gweld y trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn ardal chwarae Windmill Lane.  Bellach, mae gan blant lleol ofod modern i'w fwynhau.


"Mae amrywiaeth o offer newydd a gwell yno, gyda gwaith tirlunio i ddigwydd yn y dyfodol agos.

 

"Dyma'r ardal chwarae ddiweddaraf i gael ei gwella yn dilyn prosiectau tebyg a gwblhawyd mewn rhannau eraill o'r sir.


"Y gobaith yw y gall y gwaith hwn helpu i hyrwyddo ffordd o fyw egnïol a'r holl fuddion iechyd a ddaw drwy hynny."