Trader jailed for theft and fraud offences
Mae twyll Fasnachwr wedi cael ei anfon i'r carchar yn dilyn erlyniad llwyddiannus ar ran Cyngor Bro Morgannwg.
Daeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR), sy'n cynnal safonau masnach ar gyfer ardaloedd Awdurdodau Lleol y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, ag achos yn erbyn Ian Cottle i Lys y Goron Caerdydd.
Roedd Cottle eisoes wedi cael ei ddedfrydu i ddedfryd o 22 mis dan glo ym mis Hydref 2017 yn dilyn ymchwiliad arall gan y GRhR.
Ar yr adeg hynny, plediodd yn euog i 14 achos o gymryd rhan mewn ymarfer masnachol annheg, gyda phum cyhuddiad arall o dwyll wedi'i osod ar ffeil.
Roedd y preswylydd o’r Barri wedi cyflawni cyfres o droseddau safonau masnach drwy gamarwain cwsmeriaid i roi arian iddo ar gyfer deunyddiau nad oedd yn eu prynu. Methodd hefyd â rhoi hawliau canslo a dechreuodd gweithio heb ganiatâd.
Yn ogystal â'i ddedfryd o garchar, cafodd Cottle ei wahardd rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni am bum mlynedd.
Yn yr achos diweddaraf hwn, cyfaddefodd Cottle un drosedd o dan Ddeddf Dwyn 1968 ac un arall o dan Ddeddf Twyll 2006.
Roedden nhw'n ymwneud â digwyddiad ym mis Gorffennaf y llynedd pan aeth i gartref yn Y Rhws a dyfynnu ffigwr o £1100 am rendro wal ardd gefn.
Cynghorodd Cottle y trigolion, pe bydden nhw'n talu hanner y swm hwnnw'n syth i dalu am ddeunyddiau, y byddai'n cwblhau'r gwaith y penwythnos canlynol. Yr unig waith papur a ddarparwyd oedd derbynneb wedi'i ysgrifennu â llaw.
Fodd bynnag, ni wnaeth Cottle gyflawni'r gwaith, methodd â dychwelyd y blaendal a methodd â chyflenwi unrhyw ddeunyddiau. Ar un adeg honnodd hefyd ar gam ei fod wedi ad-dalu'r arian.
Fe wnaeth y Cofnodydd Andrew Hammond ei ddedfrydu i 12 mis o garchar am y drosedd o ddwyn a chwe mis am dwyll, gyda'r ddau dymor i gydredeg.
Er y gallai Cottle gael ei ddisgrifio fel twyll fasnachwr, dywedodd ei fod mewn gwirionedd yn droseddwr a lleidr a fanteisiodd ar ymddiriedaeth pobl resymol, ac roedd ei droseddau wedi achosi straen a phryder.
Derbyniodd Hammond gymeriadu'r erlyniaeth o ble syrthiodd y troseddau yn y canllawiau dedfrydu, gan nodi bod ei euogfarnau blaenorol yn 2017 yn ffactor gwaethygol.
Ychwanegwyd at y rhain ymhellach gan y ffaith bod Cottle wedi cael cyngor dro ar ôl tro yr oedd wedi'i anwybyddu, ac wedi dweud celwydd am ad-dalu'r arian.
Dywedwyd wrth Cottle hefyd am dalu'r gordal statudol angenrheidiol, tra bod Gorchymyn Iawndal o £550 wedi'i wneud i'r dioddefwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg ar faterion Ymgysylltu Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae gan Ian Cottle hanes o fethu â chwblhau'r gwaith adeiladu'n foddhaol. Diolch i waith diwyd gan swyddogion y GRhR, mae bellach yn y carchar, ac nid yw'n gallu peri i bobl eraill ddioddef yr un trallod a brofwyd gan ei ddioddefwyr. Gallaf ond gobeithio y tro hwn y mae'n dysgu o'i gamgymeriadau ac nad yw'n ymddangos gerbron y llys eto.
"Dylai'r achos hwn hefyd anfon neges i eraill sy'n methu â chydymffurfio â safonau masnach, na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef.
"Byddwn yn cynghori trigolion i gael dyfynbris ysgrifenedig clir wrth gael gwaith adeiladu wedi ei wneud. Dylai pobl hefyd fod yn ymwybodol bod y gyfraith yn caniatáu i berson ganslo contractau a wnaed yn eu cartref.
"Mae'n ddoeth cymryd amser a gofal wrth ddewis masnachwyr a gofyn am samplau o'u gwaith. Yn ddelfrydol, dylai'r person sy'n cael ei ddewis fod yn rhan o gymdeithas broffesiynol berthnasol hefyd."
Am ragor o wybodaeth ar y pwnc yma, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth.