Cost of Living Support Icon

 

Casgliadau gwastraff Gŵyl Banc y Jiwbilî

Ni fydd unrhyw newidiadau i’r casgliadau bagiau du, ailgylchu na gwastraff bwyd sydd wedi’u trefnu ar gyfer yr wythnos hon.  Bydd casgliadau ar gyfer y mathau hyn o wastraff a gynlluniwyd ar gyfer dydd Iau 02 Mehefin a dydd Gwener 03 Mehefin yn mynd rhagddynt fel arfer. 

 

  • Dydd Mercher, 01 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



Mae'n debygol y bydd rhywfaint o darfu yn lleol oherwydd bod ffyrdd ar gau a bod digwyddiadau’n cael eu cynnal i nodi'r Jiwbilî. Os na chaiff eich bag du, ailgylchu neu wastraff bwyd ei gasglu, gadewch ef allan a bydd ein criwiau'n dychwelyd i'r ardaloedd yr effeithir arnynt ddydd Sadwrn 04 Mehefin a dydd Sul 05 Mehefin.

 

Oherwydd pwysau sylweddol o ran staffio, mae rhywfaint o oedi i'n gwasanaeth casglu Gwastraff Gwyrdd.  O ganlyniad, bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei atal o ddydd Iau 02 Mehefin i ddydd Sul 05 Mehefin.  Os yw eich gwastraff gwyrdd i fod i gael ei gasglu ar un o'r dyddiau hyn, peidiwch â'i roi allan wrth ymyl y ffordd.  Os yw eich gwastraff gwyrdd wrth ymyl y ffordd ar hyn o bryd ond nad yw wedi'i gasglu erbyn dydd Mercher 01 Mehefin, ewch ag ef yn ôl i mewn os oes modd i chi wneud hynny.  Bydd ein criwiau'n dychwelyd ar eich diwrnod casglu nesaf.

 

Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra a achosir.

 

Drwy gydol mis Mehefin bydd trigolion yn gallu ailgylchu gwastraff gwyrdd yn eu  Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol heb drefnu apwyntiad ymlaen llaw.

 

Gallwch ddilyn y newyddion diweddaraf am unrhyw newidiadau i'n gwasanaethau drwy ein ffrydiau Twitter a Facebook neu drwy gofrestru i gael eich atgoffa am ein casgliadau gwastraff.

 

Mae'r Cyngor yn awyddus i recriwtio gyrwyr cerbydau LGV ar frys. Mae sawl swydd ar gael sy’n cynnig hyd at 48 awr yr wythnos. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â 01446 700111.