Cost of Living Support Icon

 

Cytuno ar gam nesaf y Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi bod cam nesaf y Cynllun Datblygu Lleol Newydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. 

 

  • Dydd Gwener, 27 Mis Mai 2022

    Bro Morgannwg



Roedd yr Adroddiad Adolygu a'r Cytundeb Cyflawni yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni i gael barn rhanddeiliaid.  


Cafodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r newidiadau arfaethedig i'r ddwy ddogfen eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Cabinet a'r Cyngor Llawn. 


Cyflwynwyd y dogfennau diwygiedig wedyn i Lywodraeth Cymru ac fe’u cymeradwywyd fis Mai.


Er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yn cael eu diweddaru'n gyson, mae'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol adolygu eu Cynllun o leiaf bob 4 blynedd o'r dyddiad mabwysiadu️. 


Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn dechrau'r 'alwad am safleoedd ymgeisiol'.  Mae hyn yn galluogi partïon i gynnig safleoedd ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau megis tai, cyflogaeth a hamdden.  Bydd y Cyngor yn asesu pob safle ac yn penderfynu a yw’n addas neu beidio i’w gynnwys yn y cynllun.  


Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw i gynorthwyo cymunedau a phartïon â diddordeb i ddeall proses y CDLl:


Canllaw cymunedol cynlluniau datblygu | LlYW.CYMRU