Cost of Living Support Icon

 

Y Fro’n fuddugol yng Ngwobrau Diogelu Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro  

Cafodd Cyngor Bro Morgannwg ei gydnabod am ei 'Ymrwymiad Eithriadol i ddiogelu plant' yng Ngwobrau Cydnabod Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro yn ddiweddar.  

 

  • Dydd Gwener, 25 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg



EFSM CertificateWedi'i gynnal ar ddydd Gwener 18 Tachwedd, roedd y gwobrau eleni yn cynnwys pum categori a oedd yn dathlu amrywiaeth o gyfraniadau eithriadol i ddiogelu, ac yn cydnabod y rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.


Cipiodd Tîm Prydau Ysgol Am Ddim y Fro’r wobr am 'Ymrwymiad eithriadol i ddiogelu plant'. 


Yr enillwyr eraill oedd Adams Court Cyngor Caerdydd, a gydnabuwyd am 'Ymrwymiad eithriadol i ddiogelu oedolion mewn perygl'; enillodd Clare Davies o'r Gwasanaeth Prawf y categori 'Arloesi a gwella ymarfer ym maes diogelu'; cydnabuwyd Matthew Dunstan o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd am ei ‘gyfraniad ardderchog at ymarfer diogelu’ ac enillodd Kate Roberts a Wendy Simmonds, o dîm gofal sylfaenol a chanolradd cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro’r categori 'Diogelu cymunedol ehangach sylweddol'.


Roedd y gwobrau, a gyflwynwyd gan gyd-gadeiryddion y Bwrdd Diogelu, Lance Carver a Tracey Holdsworth, ynghyd â'r Uwch-arolygydd Tim Morgan o Heddlu De Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Plant Caerdydd, Deborah Driffield, yn derfyn addas i Wythnos Genedlaethol Diogelu.


Caiff yr wythnos ei chydlynu gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned a gweithwyr proffesiynol, ac atgyfnerthu'r negeseuon presennol ynghylch diogelu plant ac oedolion mewn perygl. Ochr yn ochr â rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau, trefnodd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro raglen o weithdai a chynadleddau ar gyfer preswylwyr a gweithwyr proffesiynol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Roeddwn wrth fy modd i gael fy ngwahodd draw i Wobrau Diogelu Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro.


"Mae'r enwebiadau eleni'n arddangos ymroddiad cynifer o wasanaethau a sefydliadau lleol i ddiogelu ein cymunedau ac roeddwn yn falch o'u gweld yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion.


"Mae diogelu yn llywio llawer o waith y Cyngor, ac yn hanfodol wrth ddiogelu ein trigolion, felly roeddwn wrth fy modd yn gweld y Fro yn ennill gwobr.


“Llongyfarchiadau i enillwyr eleni a’r rhai cafodd eu cydnabod!”