Cost of Living Support Icon

 

Rhaglen Haf o Hwyl 2022 yn llwyddiant ysgubol

Bu Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda sefydliadau lleol i greu amserlen hwyl - yn llawn gweithgareddau am ddim - i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed dros fisoedd yr haf.

 

  • Dydd Mercher, 15 Mis Mawrth 2023

    Bro Morgannwg



Summer of Fun 2022 - SkateboardingCafodd y cynllun Haf o Hwyl ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i nod oedd cefnogi lles cymdeithasol, meddyliol, a chorfforol plant a phobl ifanc a chefnogi teuluoedd gyda chostau gweithgareddau yn ystod gwyliau'r haf.


Mae'r prosiect yn cael ei ystyried yn llwyddiant ysgubol yn dilyn adroddiad canmoliaethus, gyda'r cyfraddau cyfranogi a nifer y sesiynau yn torri record.


Mewn partneriaeth â 130 o dimau a sefydliadau, cyflwynodd y cynllun 147 o weithgareddau ar draws 946 o sesiynau dros 23 ardal yn y Fro, gan gynnwys hel ffosilau, saethyddiaeth, sesiynau chwarae, dosbarthiadau dawns a gweithdai radio.


Nod y gweithgareddau oedd annog pobl i ailymgysylltu â gweithgareddau cymunedol yn dilyn effaith cyfyngiadau Covid, annog gweithgarwch corfforol, cofleidio'r awyr agored a gwella hyder a sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd hwyl, cyfeillgar.


Summer of fun 2022 - Bro RadioYn ystod y rhaglen gwnaeth 19,571 o bobl gymryd rhan, a chyda chynwysoldeb wrth galon y cynllun, roedd 24% o'r rhain yn bobl ifanc ag anghenion ychwanegol, anabledd neu nam a 29% yn deuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.


Yn dilyn y prosiect Haf o Hwyl, gofynnodd tîm Byw'n Iach y Cyngor am adborth gan gyfranogwyr, ac roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol iawn.

Dywedodd un cyfranogwr: "Roedd e mor wych.


"Roedd cymaint o gyfleoedd gwych.


"Diolch am werthfawrogi ein pobl ifanc."


Dywedodd un arall:
"Fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl i fi dalu am yr holl weithgareddau hyn.


"Roedd fy mhlentyn naw oed mor gyffrous o wybod ei bod hi’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn hytrach na bod yn sownd yn y tŷ."


Summer of Fun 2022 - Beach academyDywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles:
"Yn dilyn yr heriau y mae plant a phobl ifanc wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd y pandemig Covid-19, mae cefnogi lles ein pobl ifanc yn bwysicach nag erioed. 


"Roeddwn wrth fy modd o weld bod cynifer o sefydliadau lleol a'n gwasanaethau ein hunain yn awyddus i chwarae eu rhan drwy gynnig gweithgareddau.


"Roedd y rhaglen yn llwyddiant mawr ac fe wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i gannoedd o deuluoedd yn y Fro. 


"Da iawn i bawb a fu’n rhan o greu haf bythgofiadwy."

 

Darllenwch yr adroddiad llawn ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.


Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi cyn hir eu Rhaglen Gwyliau’r Pasg flynyddol. Gall trigolion danysgrifio i'w rhestr bostio ar wefan Cyngor Bro Morgannwg i dderbyn manylion y rhaglen cyn Gwyliau'r Pasg.