Cost of Living Support Icon

 

Aelod Cabinet a Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld ag ysgol arbenigol newydd

Ymunodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, â Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg Llywodraeth Cymru, mewn digwyddiad torri rhuban ar gyfer Derw Newydd, ysgol arbenigol newydd y Sir.

 

  • Dydd Gwener, 15 Mis Medi 2023

    Bro Morgannwg



Yna aethant i agoriad swyddogol Ysgol Gymraeg Sant Baruc, sydd hefyd wedi'i chwblhau'n ddiweddar.


Mae'r ddwy ysgol hyn wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.  


Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £10 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r prosiectau sy'n cynnig darpariaeth addysgu arbenigol newydd ac yn mynd i'r afael â'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion yn yr ardal.


Bydd Derw Newydd yn cynnig darpariaeth bwrpasol i ddisgyblion sydd angen cymorth ar gyfer anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol cymhleth.

 

derw3

Dan reolaeth Ysgol y Deri, ysgol arbennig flaenllaw'r Awdurdod, mae'n disodli Y Daith yn y Bont-faen a Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, gan gynyddu’r capasiti cyffredinol ar gyfer disgyblion.
Mae gan yr adeilad, a arferai fod yn depo'r Cyngor cyn hynny, nifer o nodweddion arloesol i helpu disgyblion i fanteisio i'r eithaf ar eu cyfnod yno.


Mae’r rhain yn cynnwys: 
• Cegin arlwyo lawn.

• Neuadd fwyta gyda gwydr o'r llawr i'r nenfwd a wal y gellir ei phlygu yn ôl i greu ardal fwy o faint.

• Ystafell technoleg bwyd lle gall disgyblion ddysgu paratoi prydau bwyd a byw’n annibynnol.

• Ystafell ffitrwydd

• Ystafell gymunedol fawr i ddisgyblion gael eu man dynodedig eu hunain.

• Ystafelloedd un i un 

 

Ar y safle, mae tair uned benodol hefyd sy'n darparu addysg arbenigol mewn Dylunio a Thechnoleg, Adeiladu a Mecaneg.


Mae gan yr ysgol Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (AChA) ac ardaloedd cynefin sy'n caniatáu i ddisgyblion ddysgu am fioamrywiaeth.

 

derw1Derw Newydd yw datblygiad diweddaraf y Cyngor i fod yn garbon sero-net drwy ddyluniad yr adeilad, gan ei wneud yn hynod o ecogyfeillgar.


Mae'n defnyddio paneli solar gyda batris storio; pympiau gwres ffynhonnell aer, sy'n tynnu gwres o'r atmosffer; gwell insiwleiddio; a mannau gwefru cerbydau trydan.

Dywedodd y Cynghorydd Birch: "Mae hwn yn adeilad ysgol hynod fodern a fydd yn rhoi cymorth effeithiol a chyfleoedd addysgol rhagorol i rai o'n disgyblion mwyaf agored i niwed mewn lleoliad gwych.


"Mae'n rhoi’r ddarpariaeth a rannwyd yn flaenorol ar draws dau leoliad mewn un lle, gyda'r cyfleusterau o’r radd flaenaf i wneud y mwyaf o'r profiad dysgu.


"Dyma'r prosiect diweddaraf yn ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy’n trawsnewid safleoedd addysgol ar draws y Sir.


"Mae'r disgyblion bellach yn dysgu yn yr amgylchedd gorau, gan roi'r cyfle gorau iddynt lwyddo, tra bod trigolion lleol hefyd yn elwa gan eu bod yn gallu manteisio ar lawer o'r cyfleusterau.


"Mae gan y prosiect hwn hefyd y fantais ychwanegol o ddod ag adeilad Cyngor a oedd gynt yn wag yn ôl i mewn i ddefnydd buddiol."

derw2Dywedodd Jeremy Miles AoS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Mae wedi bod yn wych cael ymweld â dau ddatblygiad ysgol newydd heddiw. 


"Mae ysgolion yn llawer mwy na brics a morter. Gall adeiladau sydd wedi'u cynllunio'n dda chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, cefnogi staff a dysgwyr gydag addysg, yn ogystal â darparu safonau uchel a gwireddu dyheadau. 


"Mae Derw Newydd ac Ysgol Sant Baruc wedi cael cefnogaeth ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac maent eisoes yn darparu amgylcheddau dysgu gwych i'w disgyblion." 

Ar ôl gadael Derw Newydd, ymwelodd y Cynghorydd Birch a Mr Miles ag adeilad ysgol newydd Ysgol Sant Baruc ar Lannau’r Barri, y mae disgyblion wedi bod yn ei ddefnyddio ers mis Ebrill.


Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o fuddsoddiad y Cyngor mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dilyn ehangu Ysgol Bro Morgannwg yn 2021. Cyn hynny, agorwyd Ysgol Dewi Sant yn Llanilltud Fawr, ac ychwanegwyd cylch meithrin newydd y llynedd ar gyfer plant dwy oed a hanner a hŷn.   Agorodd Ysgol Gwaun y Nant yn y Barri uned drochi hefyd yn cynnig cyrsiau Cymraeg dwys i'r rheiny sydd ddim o gartrefi Cymraeg eu hiaith.

 

Stbaruc

Mae'n gyfleuster o’r radd flaenaf â 420 lle, ac mae ganddo ddwywaith capasiti adeilad Fictoraidd blaenorol Sant Baruc a chyfres o nodweddion carbon isel, gan gynnwys paneli solar a batris storio ar y safle, pympiau gwres ffynhonnell aer, system wresogi o dan y llawr a mannau gwefru cerbydau trydan. 

 

Mae mannau awyr agored helaeth, rhai ychydig oddi wrth yr ystafelloedd dosbarth, y gellir eu defnyddio ar gyfer addysgu, ynghyd â thirlunio caled a meddal ar gyfer dysgu a chwarae.  Maent yn cynnwys ardal chwaraeon aml-ddefnydd, dau gae glaswellt, cae hyfforddi bach a chynefinoedd i ddatblygu bywyd gwyllt ac annog bioamrywiaeth. 


Mae'r buddsoddiad mewn cyfleusterau Addysg ar draws Bro Morgannwg yn un sylweddol, a'r ddau safle hyn yw'r enghreifftiau diweddaraf o foderneiddio a thrawsnewid yr ystâd ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.