Cost of Living Support Icon

 

Grŵp Ieuenctid y Cyngor yn Paentio Murlun yng Nghanolfan Gymunedol Buttrills

Yn ddiweddar, cydweithiodd Prosiect Ieuenctid Hive Guys, a ariannwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg, gydag artistiaid lleol, Hurts So Good, i greu murlun yn y ganolfan gymunedol.

  • Dydd Iau, 28 Mis Mawrth 2024

    Bro Morgannwg



Buttrills Community Centre 1Mae'r grŵp ieuenctid yn cynnal cyfarfodydd wythnosol i bobl ifanc yn y Fro yng Nghanolfan Gymunedol Buttrills yn y Barri, sydd wedi cael ei hagru gan dag graffiti yn y gorffennol.

 

Bu pobl ifanc sy'n ymwneud â Phrosiect Ieuenctid Hive Guys yn cydweithio â Hurts So Good a defnyddwyr y ganolfan gymunedol i greu murlun yn lle’r graffiti i gynrychioli'r gymuned leol yn well.

 

Pan oedd y dyluniad yn barod, cyflwynodd Prosiect Ieuenctid Hive Guys y syniad o’r murlun i bwyllgor y ganolfan i'w gymeradwyo.

 

Ar 10 Mawrth, cynhaliodd Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Hive Guys a Hurts So Good ddigwyddiad lle gallai aelodau'r cyhoedd ddod draw i weld y murlun yn cael ei baentio.

 

Buttrills Community Centre 2Roedd presenoldeb da o'r gymuned yn y digwyddiad, gan gynnwys Maer Bro Morgannwg, Julie Aviet, a Hyrwyddwr Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Ewan Goodjohn.

 

Yn ogystal â'r murlun, plannodd pobl ifanc oedd yn bresennol flodau haul o amgylch y ganolfan ar gyfer Sul y Mamau a chymryd rhan mewn gemau a chelf a chrefft. Cafwyd nifer o drafodaethau hefyd ynghylch sut y gall y grŵp ieuenctid a'r gymuned leol barhau i gydweithio yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau:  "Mae'r murlun newydd yng Nghanolfan Gymunedol Buttrills yn enghraifft wych o gydweithio cymunedol i helpu i drawsnewid mannau cyhoeddus yn y Fro.

 

Buttrills Community Centre 3"Mae'r prosiect yn crynhoi'r angerdd a'r ymroddiad sydd gan bobl ifanc sy'n ymwneud â Phrosiect Ieuenctid Hive Guys ar gyfer eu cymuned a rôl bwysig ein Gwasanaeth Ieuenctid yn helpu i wireddu eu syniadau."

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae ein canolfannau cymunedol yn chwarae rhan mor hanfodol yn darparu lle diogel a chroesawgar i breswylwyr o bob oed, ac mae'r murlun newydd yng Nghanolfan Gymunedol Buttrills yn crynhoi'n berffaith yr hyn y mae'r ganolfan yn ei gynrychioli.

 

"Rwy'n gobeithio bydd y murlun yn rhoi ymdeimlad o falchder yn eu cymuned i ddefnyddwyr y ganolfan gymunedol ac edrychaf ymlaen at weld mwy o'r gwaith gwych y mae Hive Guys, Canolfan Gymunedol Buttrills, a'r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei wneud." 

Buttrills Community Centre 4

Mae'r murlun newydd wedi'i leoli ar ochr yr adeilad sy'n edrych dros gae Buttrills, felly bydd cerddwyr, rhedwyr a thimau chwaraeon yn gallu gweld y murlun wrth ddefnyddio'r cae wrth ymyl y Ganolfan Gymunedol.

 

Dyma ail gam prosiect y mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro a Hurts So Good wedi cydweithio arno, yn dilyn dadorchuddio murlun yng Nghlwb Rygbi'r Barri yn ddiweddar. Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro.

 

Mae Clwb Ieuenctid Hive Guys ar agor i bob person ifanc 11 i 17 oed yn y Fro ac yn cyfarfod bob dydd Iau rhwng 7 ac 8pm yng Nghanolfan Gymunedol Buttrills.

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi nifer o grwpiau a phrosiectau ieuenctid ledled y Fro. Gallwch ddarganfod mwy ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol