Ymgyrch Elstree yn Dychwelyd ar Gyfer 2024
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gydag asiantaethau lleol i gadw'r Fro yn ddiogel yr haf hwn.
Yn dilyn llwyddiant ymgyrch 2023, bydd timau Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Gorfodi, Twristiaeth a Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor yn gweithio'n agos o dan ymbarél y Bartneriaeth Bro Diogelach gyda Heddlu De Cymru, yr RNLI, Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ystafell Reoli Teledu Cylch Cyfyng ARC, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Caerdydd i gadw preswylwyr, Busnesau ac ymwelwyr yn ddiogel yr haf hwn.
Nod Ymgyrch Elstree y Bartneriaeth Bro Ddiogelach yw mynd i’r afael â phryderon am ddiogelwch, trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghyrchfannau haf poblogaidd y Sir, yn cynnwys Ynys y Barri, Aberogwr, Llynnoedd Cosmeston, a Marina Penarth.
Yn ystod ymgyrch 2023, rhoddwyd 95 o gamau gweithredu ymatebol ar waith gan y bartneriaeth. Gan adeiladu ar lwyddiant gwaith y llynedd, bydd asiantaethau'n cwrdd yn rheolaidd eto i rannu gwybodaeth, cynllunio ar gyfer digwyddiadau sydd i ddod, ac adolygu a chydlynu ymatebion i ddigwyddiadau yn 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Perkes, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol: "Mae gwaith cydweithredol o dan y Bartneriaeth Bro Diogelach yn allweddol wrth gadw'r Fro yn ddiogel drwy gydol y flwyddyn.
"Bob haf, mae arfordir a mannau agored y Fro yn denu nifer fawr o ymwelwyr, sy’n cynyddu gwaith yr asiantaethau diogelwch cymunedol yn ystod y misoedd hyn.
"Roeddwn wrth fy modd yn clywed am ganlyniadau llwyddiannus ymgyrch y llynedd, ac felly rwy'n falch o weld yr ymgyrch yn ôl ar gyfer 2024."
Mae’r Bartneriaeth Bro Ddiogelach yn croesawu cael gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gwybodaeth ynghylch sut i roi gwybod ar wefan Cyngor Bro Morgannwg: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/Safer-Vale/Safer-Vale-Partnership.aspx#Reporting