Cost of Living Support Icon

Ardrethi Busnes

Caiff yr ardrethi annomestig / ardrethi busnes sy'n cael eu casglu gan awdurdodau bilio eu talu i mewn i gronfa ganolog a'u hailddosbarthu i gynghorau sir ac awdurdodau heddlu.

 

Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026-27

Rhaid i bob busnes cymwys wneud cais os ydynt yn dymuno derbyn Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026-27

 

Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026-27

Talu Ardrethi Busnes 

Ydych chi am sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu'ch Ardrethi Busnes neu archwilio ein dulliau talu amrywiol?

 

Talu eich Ardrethi Busnes

 

Busnes Cymru 

Ydych chi'n ystyried dechrau busnes neu ehangu busnes sy'n bodoli eisoes? Am help a gwybodaeth cysylltwch â Busnes Cymru ar 0300 060 3000 neu ewch i.

 

Cyn cymryd safle busnes gwnewch eich ymchwil. Darllenwch y dudalen ganlynol yn ofalus i gael gwybodaeth am sut mae Ardrethi Busnes yn cael eu cyfrifo / sut i ddarganfod gwerth ardrethol safle busnes.

Cymorth Busnes

Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ar gyfer eich busnes neu sefydliad, a’r holl gyfleoedd cyllid a phartneriaeth diweddaraf ym Mro Morgannwg a thu hwnt.

 

Mae eich tîm datblygu economaidd yma i’ch cyfeirio at gyllid priodol a chyfleoedd i fuddsoddi, adleoli neu dyfu eich busnes ym Mro Morgannwg.

 

Cymorth Busnes

Newid Cyfeiriad ar gyfer Ardrethi Annomestig

Cyn i chi ddechrau - Gwiriwch a yw eich eiddo yn ardal Cyngor Bro Morgannwg:

 

Chwilio am eiddo

 

Os mai dim ond eisiau hysbysu'r Cyngor bod eiddo rydych yn parhau i fod yn atebol amdano wedi dod yn wag ydych chi (e.e. wedi tynnu nwyddau / stoc o'r safle), cysylltwch â'r adran yn uniongyrchol (mae’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon).

 

Pwy sy'n gorfod talu Ardrethi Busnes?

  • Pan fo eiddo'n cael ei feddiannu, mae'r Ardrethi Busnes fel arfer yn daladwy gan y person, y bartneriaeth neu'r cwmni sy'n ei feddiannu

  • Os yw'r eiddo'n wag, mae'r ardrethu’n daladwy gan y person sydd â hawl i feddiannu

Os oes gan y meddiannydd a'r landlord drefniant lle mae'r landlord yn cael rhent gan gynnwys Ardrethi Busnes, mae'r meddiannydd fel arfer yn gyfrifol o hyd am dalu Ardrethi Busnes. Os mai chi yw'r meddiannydd ac rydych yn trosglwyddo'r bil ardrethi i'r landlord ei dalu, byddwch yn parhau i fod yn atebol am daliad os nad yw'r landlord yn gwneud taliad ar eich rhan.

 

Hyd yn oed pan fo safle busnes yn wag neu heb feddiannwr, bydd yn rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r safle hwnnw dalu Ardrethi Busnes (gelwir y rhain yn ardrethi eiddo gwag).  

Sut caiff fy ardrethi busnes eu cyfrifo?

Mae ardrethi annomestig, a elwir hefyd yn ardrethi busnes, yn cael eu cyfrifo ar sail dau ffactor:

  1. Gwerth ardrethol – a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB).
  2. Lluosydd – pennir bob blwyddyn, fel arfer yn codi gyda chwyddiant oni bai bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu fel arall.

Ar gyfer 2025-26, y lluosydd ar gyfer pob eiddo yng Nghymru yw 0.568.

 

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd tri lluosydd posibl yng Nghymru:

  • Lluosydd manwerthu: 0.350 – ar gyfer siopau manwerthu bach a chanolig sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000.
  • Lluosydd safonol: 0.502 – ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo eraill.
  • Lluosydd uwch: 0.515 – ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol dros £100,000.

Cyfrifir y bil ardrethi drwy luosogi'r gwerth ardrethol gyda’r lluosydd perthnasol. Yna efallai y gall gael ei leihau os ydych chi'n gymwys i ar gyfer hynny. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r ddolen isod:

 

Lluosydd Cyfraddau Annomestig

 

A allaf apelio yn erbyn fy ngwerth ardrethol?

Dan rai amgylchiadau penodol, gall y talwr ardrethi (a phobl benodol eraill sydd â budd yn yr eiddo) gynnig newid mewn gwerth.  Bydd angen i chi gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn uniongyrchol. 

 

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Ailbrisio 2026

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn diweddaru gwerthoedd trethiannol yr holl eiddo busnes ac eiddo annomestig eraill (eiddo nad ydynt yn gartrefi preifat yn unig) yng Nghymru a Lloegr yn rheolaidd. Gelwir hyn yn ailbrisiad.   

 

Gwerthoedd ardrethol yw am faint o rent y gallai eiddo fod wedi cael ei osod ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer prisiad 2026, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2024. 

 

Rydym yn defnyddio'r gwerthoedd ardrethol hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes. 

 

Mae ailbrisiadau yn cael eu cynnal i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo, sy'n golygu bod biliau ardrethi busnes yn seiliedig ar wybodaeth fwy diweddar. 

 

Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. 

 

Rydym yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch bil ardrethi busnes. Mae'r ASB yn gyfrifol am brisio eich eiddo. Bydd angen i chi felly gysylltu â'r ASB ar gyfer pob ymholiad am eich gwerth ardrethol.

Rhyddhad Trosiannol

Mae Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi trosiannol i fusnesau bach yr effeithir yn andwyol arnynt gan ailbrisiad hereditamentau annomestig sy’n dod i rym o 1 Ebrill 2026. Bydd Talwyr Ardrethi cymwys yn talu 33% o'u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2026-27) a 66% yn yr ail flwyddyn (2027-28), cyn cyrraedd eu atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2028-29).

 

Mae rhagor o wybodaeth am ryddhad trosiannol ar gael drwy ymweld â'r ddolen isod:

 

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2026

Eiddo Hunan-arlwyo

 

Rhaid i fwthyn/llety/eiddo hunanarlwyo gwyliau fodloni'r meini prawf penodol er mwyn cael ei gyflwyno ar y rhestr ardrethi busnes o restr y dreth gyngor.

 

Hyd at 31 Mawrth 2023 rhaid i eiddo hunan-arlwyo fod ar gael i'w osod am gyfnodau byr am o leiaf 140 diwrnod y flwyddyn a chael ei osod i o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn i gael ei roi ar y rhestr ardrethi busnes.

 

Ar 1 Ebrill 2023 bydd y meini prawf yn newid. Rhaid i eiddo hunanarlwyo fod ar gael i'w osod am gyfnodau byr am gyfanswm o leiaf 252 diwrnod i gyd dros y flwyddyn dreth bresennol a’r rhai blaenorol a chael ei osod am o leiaf 182 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf cyn y bydd yn cael ei gyflwyno ar y rhestr ardrethi busnes.

 

O 1 Ebrill 2026, os nad yw eiddo wedi'i osod yn fasnachol am 182 diwrnod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gellir defnyddio cyfartaledd o'r diwrnodau y cafodd ei osod dros ddwy o'r tair blynedd blaenorol yn lle hynny. Mae hyn yn helpu busnesau sydd fel arfer yn cyrraedd y targed 182 diwrnod ond a allai fod yn brin o hynny o bryd i'w gilydd, er enghraifft oherwydd galw isel neu ganslo munud olaf.

 

 

 

Os yw eich eiddo'n bodloni'r meini prawf, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Brisio er mwyn ei roi ar y rhestr ardrethi busnes

 

Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Problemau wrth dalu eich Ardrethi Busnes?

Mae ardrethi busnes yn fil y mae'n rhaid ei dalu. Fodd bynnag, os ydych yn cael anawsterau, cysylltwch â'r adran ardrethi busnes (manylion ar waelod y dudalen hon) i'w trafod. Efallai y gallwn ddod i drefniant talu y gallwch ei fforddio. 

Cysylltwch â'r adran Ardrethi Busnes 

E-bost yw'r dull cysylltu cyflymaf

 

  • 01446 709299
Nodwch, efallai y byddwch yn mynd drwodd i beiriant ateb, gadewch neges gyda'ch enw, rhif a natur eich ymholiad a bydd rhywun yn eich ffonio yn ôl.

 

Post:

Ardrethi Annomestig
Gwasanaethau'r Trysorlys
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU