Cost of Living Support Icon

Mae bod yn gorfforol actif yn bwysig i'ch iechyd! Gallwn eich helpu ar eich taith i iechyd a ffitrwydd gwell!
 
Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

 

Mae'r 'Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff' cenedlaethol yn rhaglen ymarfer corff dan arweiniad.


Mae'n helpu pobl sy'n dioddef gyda phroblemau iechyd ym Mro Morgannwg, yn fwy egnïol! Mae ymarfer corff yn helpu llawer o gyflyrau iechyd.


Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n ariannu'r cynllun ar draws Cymru.  Ei nod yw helpu pobl â chyflyrau meddygol i gyfeirio at wella lefelau gweithgarwch.

 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn atgyfeiriad?

Siaradwch â'ch meddyg teulu, nyrs practis, ffisiotherapydd neu ddeietegydd. Gallant gwblhau'r gwaith papur angenrheidiol a'i anfon atom i'ch cyflwyno i'r cynllun. Mae'r cynllun yn agored i unrhyw un dros 16 oed.

 

Mae achosion a allai arwain at atgyfeiriad yn cynnwys:

  • Anweithgarwch corfforol

  • Risg o glefyd y galon/wedi gwella o broblemau'r galon

  • Osteoporosis

  • Diabetes

  • Iechyd meddwl

  • Rheoli pwysau

  • Canser

 

Mae'r rhaglen yn boblogaidd iawn ac mae cyfnod byr o aros am fynediad.  Os ydych chi'n aros i fynd ymlaen i'r cynllun atgyfeirio, dyma rai pethau syml y gallwch chi eu gwneud i helpu i wella'ch iechyd.  Ewch am dro byr.  Dechreuwch gyda thaith gerdded fer ar ôl prydau bwyd?  Dechreuwch gyda 5 munud o gerdded ac ychwanegu 1 neu 2 funud yr wythnos.  Bydd hyn yn eich helpu i gyflawni eich camau a symud syml yw'r allwedd i gadw'n heini!

 

Mae gweithwyr proffesiynol atgyfeirio ymarfer corff y Fro yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i helpu cyfranogwyr i fod yn egnïol.  Gall defnyddwyr y cynllun ddefnyddio canolfannau hamdden y Fro am bris gostyngedig. Y pris presennol ar gyfer sesiynau yng nghanolfannau hamdden Bro Morgannwg yw £3.   


Cynhelir sesiynau â chyfarwyddyd o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond os ydych chi eisiau mwy o hyblygrwydd siaradwch â'r hyfforddwyr am gael rhaglen campfa wedi'i hysgrifennu fel y gallwch wella eich ffitrwydd pan fydd gennych argaeledd.

 

Y nifer lleiaf o sesiynau y disgwylir i chi eu gwneud tra byddwch ar y cynllun yw 2 yr wythnos.  Gallwch wneud mwy, ond os gwnewch lai byddwch yn cael trafferth cyrraedd eich nodau ac efallai na fyddwch yn gwneud digon o weithgarwch corfforol er budd eich iechyd.


Gosodir targedau, monitro cynnydd, ac ar ddiwedd y rhaglen, mae'r gweithwyr proffesiynol atgyfeirio ymarfer corff yn trafod sut y gallwch barhau i gyflawni eich nodau trwy wneud gweithgaredd yn rhan allweddol o fywyd o ddydd i ddydd.