Cost of Living Support Icon

Get The Vale Online Logo Banner

Cael y Fro Ar-lein - Cymorth Digidol 

Mae mynd ar-lein yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd, sydd bellach yn fwy nag erioed ac mae nifer o ffyrdd o wneud hynny yma ym Mro Morgannwg.

 

Os nad ydych wedi cysylltu â'r Rhyngrwyd, mae llawer rydych chi'n ei fethu. Drwy gynyddu eich sgiliau cyfrifiadurol a mynd ar-lein gallech elwa o:

 

  • gallu cysylltu â ffrindiau a theulu yn rhithwir 
  • arbed cannoedd o bunnoedd ar filiau eich cartref, bwyd a hanfodion eraill
  • chwilio a gwneud cais am swyddi sy'n cael eu hysbysebu ar-lein yn unig

Mae Cael y Fro Ar-lein yn bartneriaeth sy’n gweithio ar draws Bro Morgannwg sy'n cydnabod pwysigrwydd mynediad a sgiliau digidol ac sy'n gweithio gyda'i gilydd i 'gael y Fro ar-lein'.

 

Dyna pam mae Cael y Fro Ar-lein yn cynnig amrywiaeth o sesiynau cymorth galw heibio, unigol a fydd yn eich helpu i ddechrau arni, cynyddu eich hyder, neu adeiladu ar eich sgiliau presennol. Mae Partneriaeth Cael y Fro Ar-lein yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol. Yn anffodus, mae llawer o'r gwasanaethau hyn wedi'u hoedi dros dro o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19. Nes y bydd modd ailddechrau'r gwasanaethau hyn mae llawer o adnoddau ar-lein defnyddiol a all helpu i ddatblygu eich sgiliau ar amrywiaeth enfawr o bynciau gan gynnwys:

 

  • cadw’n ddiogel ar-lein 
  • defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
  • chwilio am swyddi 
  • e-bostio
  • galwadau fideo 

 

 

Banc Data Cenedlaethol

Mae'r Banc Data Cenedlaethol yn darparu data symudol, negeseuon testun a galwadau am ddim i bobl mewn angen drwy rwydwaith partneriaid cymunedol lleol y Good Things Foundation. Meddyliwch amdano fel 'banc bwyd' ond ar gyfer data cysylltedd rhyngrwyd.  Gall sefydliadau cymunedol wneud cais i gael mynediad i'r banc data, gan eu galluogi i ddarparu data i bobl yn eu cymunedau sydd ei angen.

 

Banc Data Cenedlaethol

 

 

Mynediad at Ddyfeisiau - O ble gallwch chi fenthyg dyfais?   

Os nad oes gennych fynediad i'ch dyfais eich hun gartref, mae llawer o ffyrdd y gallwch fenthyg dyfais o bosibl. Gweler y rhestr isod am amlinelliad o rai o'r ffyrdd y gallech gael mynediad at ddyfais y gallwch ei defnyddio gartref, ynghyd ag unrhyw feini prawf y mae angen i chi eu bodloni.  

  • Drwy Lyfrgelloedd – Cynllun Benthyca Llechi’r  Fro

     Gellir benthyca llechi o bob cangen llyfrgell yn y Fro, gan gynnwys llyfrgelloedd cymunedol am ddim. Mae'r llechi i gyd yn cael eu llwytho ymlaen llaw gyda data 4G, sy'n golygu nad oes angen eu cysylltiad rhyngrwyd eu hunain ar ddefnyddwyr gartref er mwyn cael mynediad at wefannau a gwasanaethau ar-lein gyda'r dyfeisiau.  Er mwyn cael mynediad at y dyfeisiau hyn mae'n rhaid i chi:

    • Fod yn aelod o’ch llyfrgell leol

     

    Cynlyn Benthyca Llechi'r Fro

     

  •  Cymorth Digidol yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

    Gall y llywodraeth ddarparu gliniaduron a chymorth digidol fel rhan o'u strategaeth ddiweithdra a fydd yn hwyluso chwilio am swydd ac yn gwneud bod allan o waith yn brofiad mwy rhithwir. I gael gwybod mwy, siaradwch â'ch Hyfforddwr Gwaith.  Gallwch gysylltu â Chanolfan Waith y Barri a Phenarth ar 0800 1690 190.

     

     

    Cymorth Digidol yr Adran Gwaith a Phensiynau

     

  •  Cymunedau am Waith

     Gellir benthyca chromebooks o Cymunedau am Waith.  I fenthyg dyfais mae'n rhaid i chi:

     

    • Fod wedi cofrestru gyda Chymunedau am Waith

    • Cael eich atgyfeirio gan eich Mentor Cymunedau am Waith

     

    Cymunedau am Waith

     

  •  Addysg Oedolion – Yn ôl ar y Trywydd Iawn

     Gall gliniaduron gael eu benthyca gan ddysgwyr o'r rhaglen Dysgu Oedolion yn y Gymuned Yn Ôl ar y Trywydd Iawn. Mae cyrsiau Yn Ôl ar y Trywydd Iawn am ddim i unrhyw un nad yw naill ai mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd, sy'n cael budd-daliadau'r wladwriaeth (ac eithrio pensiwn ymddeol), sy'n chwilio am waith neu'n chwilio am well cyfleoedd cyflogaeth, neu sydd â chymhwyster lefel 2 neu is. I fenthyg dyfais mae'n rhaid i chi:

     

    • Gael eich cofrestru ar gyrsiau Yn Ôl ar y Trywydd Iawn

    Yn Ôl ar y Trywydd Iawn

     

  •  Cartrefi’r Fro

     Mae Cartrefi'r Fro yn gweithredu cynlluniau benthyciadau llechi/gliniaduron ar gyfer preswylwyr sy'n cymryd rhan yn eu gweithgareddau cyfranogiad tenantiaid (CT). Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y cynllun hwn hefyd yn cael ei gynnig i breswylwyr yn ein cynlluniau gwarchod.  Bydd unrhyw un sy'n byw mewn cartrefi yn y Fro ac nad yw'n cymryd rhan mewn gweithgareddau CT neu nad ydynt yn byw yn y cynlluniau gwarchod, yn cael cymorth gan y tîm i gael mynediad at Gynllun Benthyca Llechi’r Fro. I fenthyg dyfais o Gartrefi'r Fro mae'n rhaid i chi: 

     

    • Fod yn denant Cartrefi'r Fro a:

    • Bod yn rhan o weithgareddau cyfranogiad tenantiaid neu fyw mewn cynllun tai gwarchod

    Cartrefi'r Fro

     

Mynediad at Gymorth - O ble gallwch chi gael cymorth?

Mae nifer o adnoddau ar-lein am ddim ar gael i’ch helpu i feithrin eich hyder a'ch sgiliau ar-lein a chyda'ch dyfais drwy fideos hawdd eu dilyn a chanllawiau cyflym.

  • Learn My Way

    Dysgwch sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd gyda Learn My Way.  Mae gan Learn My Way gyrsiau am ddim i chi ddysgu sgiliau digidol i gadw'n ddiogel ac wedi’ch cysylltu.

     

    Learn My Way

  •  Make It Click

    Mae Make It Click yn cynnwys cyrsiau, offer a thempledi am ddim.  Gallwch ddysgu apiau newydd, gwella'r sgiliau sydd gennych eisoes a chymryd cam cadarnhaol ymlaen yn eich gwaith.

     

    Make It Click

  •  Digital Unite

     Mae'r ystod arobryn o 400+ o ganllawiau sut-i’w-wneud yn cwmpasu llu o bynciau digidol. Wedi'i ysgrifennu gan arbenigwyr pwnc a'i ddiweddaru'n ddyddiol, mae'r canllawiau'n berffaith ar gyfer cefnogi eraill sydd â sgiliau digidol neu wella eich gwybodaeth eich hun.

     

    Digital Unite 

     

  •  Cymunedau Digidol Cymru 

     Cymunedau Digidol Cymru: Mae Hyder, Iechyd a Lles Digidol (DCW) yn bodoli i leihau allgáu digidol yng Nghymru.  Rydym am gael Cymru lle mae gan bawb y sgiliau, y mynediad a'r cymhelliant i fod yn ddefnyddiwr hyderus o dechnoleg ddigidol. Mae DCW yn rhoi cymorth am ddim i sefydliadau i sicrhau bod gan staff a gwirfoddolwyr yr hyder a'r sgiliau i gefnogi eraill i fynd ar-lein.   I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Conor yn conor.chipp@cwmpas.coop 

     

    Mae DCW wedi creu Hyb Adnoddau Hyfforddiant am ddim ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau ac anghenion. Dysgwch ble i ddechrau, sut i weithredu'n ddiogel ar-lein a hyd yn oed ble i ysbrydoli eraill.

     

    Cymunedau Digidol Cymru 

  •  Via Newydd – Cynhwysiant Digidol Google Classroom

     Mae Google Classroom Cynhwysiant Digidol yn darparu cymorth ar-lein ac fe'i defnyddir i ddatblygu hyder a gallu o amgylch pynciau gan gynnwys 'Deall eich dyfais android', 'Deall eich iPhone a'ch iPad', 'Rhwydweithio cymdeithasol a chyfathrebu ar-lein', 'Sgiliau digidol yn y gweithle modern', 'Iechyd Digidol', 'Gwasanaethau'r Llywodraeth', 'Seinyddion clyfar a chynorthwywyr llais', a 'Hobïau a diddordebau'. I ymuno, mewngofnodwch i Google Classroom gan ddefnyddio manylion adnabod eich cyfrif Google, cliciwch yr eicon '+' ar ochr dde uchaf eich sgrin a dewiswch 'Join Class' a rhowch god dosbarth: qp4dgmc

     

    Cynhwysiant Digidol Google Classroom

  •  Tai Clarion 

     Gall Tai Clarion eich helpu i sefydlu ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur newydd. Mae help yn cynnwys cymorth technegol ar gyfer pethau fel sefydlu cyfrif e-bost, cysylltu â wi-fi ac aros yn ddiogel ar-lein.  Mae gan Tai Clarion hefyd hyrwyddwyr digidol gwirfoddol a all eich helpu i fagu eich hyder gyda thechnoleg a'r rhyngrwyd.

     

    Tai Clarion 

  •  Addysg i Oedolion Bro Morgannwg

    Mae’r Rhaglen Nôl ar y Trywydd Cywir yn cynnig ystod eang o weithdai a chyrsiau cyfrifiadurol achrededig i ddysgwyr o bob lefel, o ddechreuwyr llwyr i rai uwch. I gofrestru cysylltwch â Chanolfan Dysgu Cymunedol Palmerston ar 01446 733762 neu e-bostiwch: palmerstoncentre@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Addysg i Oedolion Bro Morgannwg

  •  AbilityNet  

     Mae AbilityNet yn gweithio i newid bywydau pobl hŷn a phobl anabl drwy eu helpu i ddefnyddio technoleg ddigidol.  Yn ogystal â diagnosio a datrys y rhan fwyaf o broblemau sy'n gysylltiedig â chyfrifiaduron, gall gwirfoddolwyr helpu i anfon a derbyn negeseuon e-bost, defnyddio'r rhyngrwyd, gosod caledwedd a meddalwedd newydd, rhoi cyngor diduedd ar offer a meddalwedd TG ac addasu'r dechnoleg i weddu i'r unigolyn.   Mae'r llinell gymorth am ddim 0800 048 7642 ar gael i gael cyngor a gwybodaeth.

     

    AbilityNet

  •  Hyrwyddwyr Digidol       

     Hyrwyddwr Digidol yw rhywun sy'n helpu pobl eraill gyda'u cyfrifiadur, llechen, ffôn neu unrhyw ddyfais arall maen nhw'n ei defnyddio i gysylltu â'r rhyngrwyd. I gael cefnogaeth gan Hyrwyddwr Digidol lleol e-bostiwch jenny.phillips@wales.coop  Os hoffech ddod yn Hyrwyddwr Digidol eich hun, gweler yr adran Hyrwyddwyr Digidol ymhellach i lawr y dudalen.

     

    Hyrwyddwyr Digidol

  •  Cartrefi’r Fro

     Os ydych yn breswylydd Cartrefi’r Fro ac angen cymorth i fynd ar-lein, cysylltwch â'r tîm Cyfoethogi Cymunedau ar 07826020707 neu 07813068324.

     

    Ydych chi'n denant y cyngor sy'n awyddus i wella’ch sgiliau o ran defnyddio'ch gliniadur neu ffôn clyfar?  Ydych chi eisiau gallu cynhyrchu dogfennau fel CVs?  Hoffech chi wella eich sgiliau cyfrifiadurol i wella'ch siawns o ddod o hyd i waith? Gall ein hyrwyddwyr digidol helpu.   Cynhelir sesiwn reolaidd ar ddydd Llun yn Hyb Aberaeron yn Gibbonsdown, yn ogystal â sesiynau misol yn ein cynlluniau gwarchod i bobl dros 55 oed.  I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â valecomminfo@gmail.com

     

    Cartrefi'r Fro

Helpu I Aros Ar-lein Y Gaeaf Hwn 

Mae O2 yn rhoi cardiau sim data am ddim y gaeaf hwn drwy eu cynnig 'Cerdyn Sim Nadolig O2' i helpu pobl i gadw cysylltiad. Gallwch ofyn am daleb i gael 7GB o ddata talu wrth fynd O2 am ddim ar eu gwefan yma.

 

Os nad ydych gydag o2 mae gennych dal gyfle i fanteisio ar y cynnig ar eu gwefan drwy archebu cerdyn sim talu wrth fynd am ddim, ar ôl i chi gael y cerdyn sim gallwch ofyn am daleb 7GB am ddim.  Mae rhagor o wybodaeth ar wefan O2.

 

WiFi’r Fro am ddim

Yn ddiweddar fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg uwchraddio i rwydwaith gwestai di-wifr newydd ar draws ei holl adeiladau gan gynnwys llyfrgelloedd a chartrefi preswyl. Mae cael mynediad at y rhwydwaith yn hynod o rhwydd, dewiswch yr opsiwn SSID di-wifr ‘Vale free Wifi’ agor eich porwr rhyngrwyd a chewch eich ailgyfeirio i ragdudalen.

 

WiFi'r Fro am ddim

Banc Dyfeisiau Cenedlaethol

Mae’r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol yn ddatrysiad amgen i waredu asedau TG sy'n mynd i'r afael ag e-wastraff tra'n cefnogi pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Mae'r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol yn derbyn offer a dyfeisiau TG wedi'u defnyddio gan sefydliadau o unrhyw faint a sector - mae'n ddatrysiad diogel, cynaliadwy a chymdeithasol-gyfrifol ar gyfer gwastraff electronig corfforaethol.

 

Banc Dyfeisiau Cenedlaethol

 

 

Digital Champion Volunteer Banner Welsh

 

Hyrwyddwyr  Digidol

Hyrwyddwr Digidol yw rhywun sy'n helpu pobl eraill gyda'u cyfrifiadur, llechen, ffôn neu unrhyw ddyfais arall maen nhw'n ei defnyddio i gysylltu â'r rhyngrwyd. Efallai mai chi eisoes yw Hyrwyddwr Digidol eich teulu neu grŵp o ffrindiau ac efallai y bydd gennych ychydig o amser i helpu pobl eraill yn eich cymuned.  Gyda 12% o bobl nad ydynt ar-lein yn y Fro rydym yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ei hôl hi mewn byd sy'n gynyddol ddigidol. 

 

  • Rhaid i’ch sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol fod yn dda
  • Byddwch chi’n hyderus ar y rhyngrwyd.
  • Rydych chi’n frwdfrydig dros y pethau y mae'r ryngrwyd yn gallu eu gwneud i wneud bywyd yn haws, yn haws ei fwynhau, ac yn rhatach.
  • Rydych chi’n amyneddgar ac awyddus i helpu pobl sy’n anghyfarwydd â’r rhyngrwyd (dangos i bobl nad oes angen bod ofn cyfrifiaduron!).
  • Dylech chi fod yn fodlon teithio o fewn Bro Morgannwg i hyfforddi (ond byddwn ni'n cadw hyn yn achlysurol).

 

  • Pwy sy’n gallu bod yn Hyrwyddwr

    Mae unrhyw un sy’n hyderus ar y rhyngrwyd, ac sy’n gallu ymrwymo mewn ffordd fawr neu ffordd fach i helpu bod i gysylltu â’r rhyngrwyd, yn gallu dod yn Hyrwyddwr. 

  • Beth gewch chi o ddod yn Hyrwyddwr Digidol?

    Mae hon yn rôl wirfoddol, felly mae rhwydd hynt i chi fod yn hyblyg, pan fyddwch chi ar gael. Gan weithio mewn un o’n llyfrgelloedd neu hybiau cymunedol, byddwch chi’n cwrdd â phobl newydd ac yn rhoi cymorth gwerthfawr.

     

    Yn ogystal â chael boddhad o helpu eraill i ddysgu rhai o’r sgiliau pwysicaf ar y blaned, gallwch chi hefyd ychwanegu rhywbeth amhrisiadwy ar eich CV. Neu efallai eich bod yn dwlu ar weithio gyda thechnoleg, ac yn cael ysbrydoliaeth o ddangos i eraill y pethau gorau am y rhyngrwyd.

     

    Bydd hefyd gennych y cyfle i ddysgu sgiliau newydd eich hun. Os ydych yn chwilio am waith, mae hon yn ffordd orau o gael profiad. 

  • Pwy fyddwch chi’n eu helpu?

    Efallai na fydd y rhan fwyaf o bobl byddwch chi'n eu helpu wedi defnyddio cyfrifiadur o'r blaen, neu os ydyn nhw, mae'n debyg y bydd ganddyn nhw gwestiynau. Efallai y bydd rhai am wybod yr hanfodion, bydd eraill am ofyn cwestiynau am y rhyngrwyd, a bydd eraill yn chwilio am gymorth i gwblhau ffurflenni ar-lein.

     

    Byddwch chi hefyd yn cael cynnig y cyfle i roi cymorth i nifer o ddigwyddiadau cymunedol. 

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fod yn Hyrwyddwr Digidol, ewch i Cymunedau Digidol Cymru. 

 

Dod yn Bencampwr Digidol

 

 

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt y Cyngor (C1V) ar 01446 700111 getthevaleonline@valeofglamorgan.gov.uk