Cost of Living Support Icon

Cartrefi Gwag

Mae Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn diffinio cartref gwag fel annedd sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy.

 

Gall fod nifer o resymau pam mae eiddo yn wag ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymrwymedig i weithio gyda pherchnogion i ddod o hyd i atebion i ailddefnyddio cartrefi gwag.

 

 Cartref Gwag banner

 

Mae eiddo gwag hirdymor fel arfer yn hawdd ei nodi gan ei fod o bosib wedi’i esgeuluso neu mewn cyflwr gwael iawn. Gall rhai arwyddion amlwg gynnwys:

 

  • Llawer iawn o lythyron heb eu casglu yn cronni y tu fewn i’r drws ffrynt 

  • Gardd yn tyfu’n wyllt neu wastraff yn cael ei adael neu’n cronni yn yr eiddo

  • Arwyddion o gyflwr gwaith a difrod allanol e.e. ffenestri wedi torri, to wedi torri

  • Eiddo wedi’i orchuddio gan bren

 

Gellir ailddefnyddio cartref gwag drwy werthu neu rentu’r eiddo. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig nifer o fentrau i gefnogi perchnogion i ailddefnyddio’r cartrefi gwag hyn a gall roi cyngor neu gymorth i chi wrth wneud hyn.

 

Dripping tap iconBenthyciadau Eiddo Gwag Di-Log a Grantiau Cartrefi Gwag

Mae Benthyciadau Eiddo gwag yn fenthyciadau di-log sydd ar gael er mwyn galluogi adfywio a gwella eiddo unigol neu drosi eiddo gwag yn nifer o unedau, fel eu bod yn addas i’w defnyddio fel llety preswyl.

 

Ceir dau fath o Fenthyciadau Eiddo Gwag: Benthyciadau Landlordiaid a Benthyciadau Perchen-feddianwyr Eiddo Gwag.

 

Mae Grantiau Cartrefi Gwag nawr hefyd ar gael i gynorthwyo perchnogion eiddo gyda'r gost o wneud eiddo gwag yn ddiogel ac yn ddiogel cyn symud i mewn.

 

Benthyciadau Eiddo Gwag Di-Log a Grantiau Cartrefi Gwag  

Pencil and spanner icon

Gostyngiadau TAW  i  gartrefi gwag 

Os ydych yn bwriadu ailddefnyddio eiddo gwag nad oes unrhyw un wedi byw ynddo yn ystod y 2 flynedd cyn i’ch gwaith gychwyn, ac sy’n eiddo yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio at ‘ddiben preswyl perthnasol’ yn unig, gallwch fod yn gymwys am gyfradd TAW ostyngedig.

 

Gostyngiadau TAW i gartrefi gwag

 

rentsmartwales-logoRhentu Doeth Cymru

Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ar landlordiaid sydd ag eiddo rhent yng Nghymru. Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru -www.rhentudoeth.llyw.cymru - yn esbonio’r rhwymedigaethau hyn a bydd yn eich helpu chi i ddeall y broses.

Cofrestru Landlordiaid: Mae hi’n ofynnol i unrhyw landlord sydd ag eiddo rhent yng Nghymru a rentir ar denantiaeth sicr, tenantiaeth byrddaliad sicr neu denantiaeth reoleiddiedig, gofrestru.

 

Trwyddedu Landlordiaid: Nid oes angen trwydded ar landlordiaid nad ydynt yn rhan o’r gwaith o sefydlu tenantiaethau a rheoli eu heiddo rhent; fodd bynnag mae’n rhaid iddynt ddefnyddio asiant trwyddedig a chofrestru fel landlord gan ddatgan eu hasiant wrth gofrestru.

 

Rhentu Doeth Cymru 

House iconDewisiadau Rhentu

Mae yna amrywiaeth o ddewisiadau rhentu ar gael

  • Prydlesu neu osod eich eiddo drwy Landlord Cymdeithasol Cofrestredig 

  • Dewisiadau tai a rhentu drwy Gyngor Bro Morgannwg

  • Rhentu eich eiddo drwy asiantaeth gosod tai preifat

 

Dewisiadau Rhentu 

Dewisiadau Gwerthuwelsh for sale sign

Os ydych yn berchen ar eiddo sy’n wag ar hyn o bryd a’ch bod chi eisiau ei werthu, gallwch roi gwybod i’r Swyddog Cartrefi Gwag a Benthyciadau a bydd manylion am yr eiddo yn cael eu hanfon at Gyngor Bro Morgannwg (tîm Tai) a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig partner a allai fod â diddordeb mewn prynu eiddo gwag a/neu dir.

Hefyd, mae gan y Cyngor restr o fuddsoddwyr a landlordiaid preifat a all fod â diddordeb mewn prynu eiddo gwag a gallwn sicrhau bod manylion eich eiddo yn cael eu cylchredeg i bartïon â diddordeb. 

 

Dewisiadau Gwerthu 

worker iconCamau Gorfodi

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn rhagweithiol i ailddefnyddio eiddo gwag. Dymunwn weithio gyda pherchnogion eiddo gwag er budd y gymuned. Pan gydnabyddir bod eiddo gwag yn anniogel, yn achosi niwsans neu wedi’i adael yn adfail, bydd swyddog yn ymweld â’r eiddo i bennu’r camau angenrheidiol. 

 

Lle y bo’n bosibl, bydd y swyddog yn ceisio gweithio gyda pherchnogion i ganfod yr ateb gorau er mwyn ailddefnyddio eiddo gwag eto. 

 

Camau Gorfodi   Polisi Gwerthu Gorfodol

 

Pryderon/Cwynion?

Oes gennych chi bryder neu gŵyn sy’n ymwneud â chartref gwag?


Os oes gennych chi, cliciwch ar y blwch isod i gyrraedd gwefan y Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir (GRhaR) i gael rhagor o wybodaeth.

 

Gwefan GRhRh

 

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cartref gwag, cysylltwch â:

 

Swyddog Cartrefi Gwag a Benthyciadau

Adfywio a Chynllunio

Cyngor Bro Morgannwg

Llawr 1af Swyddfa’r Doc

Heol yr Isffordd

Y Barri

CF63 4RT

 

Polisi Preifatrwydd Cartrefi Gwag