Cost of Living Support Icon

Supporting People logoProses Cynllunio Cefnogi Pobl 

Caiff rhaglen Cefnogi Pobl ei chynllunio a’i rhoi ar waith ym Mro Morgannwg drwy’r cyrff canlynol: 

 

 

  •  Tîm Cefnogi Pobl

    Mae Tîm Cefnogi Pobl yn rhoi’r fframwaith asesu anghenion ar waith, mae’n paratoi’r map cyflenwi, mae’n datblygu contractau, mae’n adolygu ac yn monitro gwasanaethau presennol ac mae’n cydlynu’r gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl.

  •  Grŵp Cyswllt Cefnogi Pobl

    Grŵp Cyswllt Cefnogi Pobl yw’r prif fodd i gynnwys pob rhanddeiliad yn rhaglen Cefnogi Pobl yn lleol.

     

    Mae croeso i holl randdeiliaid rhaglen Cefnogi Pobl yn y Fro fynychu, gan gynnwys:

    • Defnyddwyr gwasanaeth
    • Darparwyr gwasanaethau
    • Gweithwyr cymorth
    • Sefydliadau gwirfoddol
    • Asiantau statudol
    • Caiff cyfarfodydd eu cynnal tua 4 gwaith y flwyddyn yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri.

     

     

    Cylch Gorchwyl | Cofnodion Cyfarfodydd Blaenorol

     

  • Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl 

    Mae Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl yn gyfrifol am bennu blaenoriaethau gwasanaeth yn y blynyddoedd nesaf ar sail asesiad manwl o gronfa ddata Monitro Asesiadau Anghenion Unigol, y map cyflenwi a data a ddarperir gan randdeiliaid.


    Dyma aelodau'r grŵp: -

    • Rheolwr Gweithredol Tai'r Sector Cyhoeddus (Cadeirydd)
    • Rheolwr Strategaeth a Chefnogi Pobl
    • Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Integredig, Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Rheolwr Ardal De Cymru y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
    • Rheolwr Cynllunio a Datblygu Strategol Bwrdd Iechyd Lleol y Fro
    • Cynrychiolydd y Sector Gwirfoddol (o Fforwm Tai a Digartrefedd y Fro)

     

    Mae’r grŵp yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn i ddrafftio’r Cynllun Gweithredol ac i bennu strategaeth Cefnogi Pobl yn y Fro ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

     

    Clych Gorchwyl | Cofnodion Cyfarfodydd Blaenorol

     

 

 

Cysylltu 

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael eich rhoi ar y rhestr anfon, cysylltwch â: