Cost of Living Support Icon

 

 

 Cefnogi Pobl a Chymorth sy'n Gysylltiedig â Thai

Mae Cefnogi Pobl yn fframwaith cenedlaethol ar gyfer cynllunio, darparu a monitro gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai. 

 

Mae cymorth sy’n gysylltiedig â thai yn ceisio galluogi pobl sy'n agored i niwed i sicrhau a chynyddu eu hannibyniaeth a gallu i aros yn eu cartrefi eu hunain.

 

Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai sydd:

  • O ansawdd uchel 

  • Yn berthnasol yn strategol 

  • Cost-effeithiol 

  • Yn cyd-fynd â gwasanaethau gofal presennol

  • Cefnogi Pobl yng Nghymru 

     Yng Nghymru caiff y rhaglen Cefnogi Pobl ei darparu gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol drwy ffrwd cyllid unigol o’r enw Grant Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai.

  •  Ethos y Rhaglen CP 

     

     

    “Mae Cefnogi Pobl yn defnyddio dull holistig, sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion i helpu pobl i fod yn annibynnol a chamu oddi wrth anfantais. Mae gan lawer o’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau anghenion niferus a gaiff eu diwallu drwy wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Fodd bynnag, mae gan lawer o unigolion anghenion ychwanegol na ellir eu diwallu gan y gwasanaethau hyn.  Dylai’r gwasanaethau a ddarperir fod wedi’u cynllunio i helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau a hyder sydd eu hangen i fyw’n annibynnol heb gymorth, neu fyw’n annibynnol â chymorth parhaus.

     

     

     

    Mae Cefnogi Pobl yn ymwneud â gofal i'r unigolyn a dargedir at wella bywyd y person hwnnw wrth ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac ariannol hanfodol i’w alluogi i barhau i fyw yn ei gartref.  Gall ymweliadau rheolaidd gan nyrsys ardal a gweithwyr cymdeithasol helpu mewn sawl ffordd ond mae Cefnogi Pobl yn helpu gyda thalu biliau, rheoli arian ac ymgysylltu â gwasanaethau eraill. Mae hyn yn arwain at feithrin hyder a gwydnwch ymhlith grwpiau cleientiaid.

     

     

     

    (Y Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru: Adroddiad Terfynol, 2010)

     

  • Llywodraeth Cymru a Chefnogi Pobl 
    Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y Rhaglen Cefnogi Pobl ar lefel genedlaethol; maent yn cyhoeddi canllawiau ar sut y dylid rhedeg y rhaglen yn lleol, goruchwylio penderfyniadau comisiynu ac wedi adolygu’r rhaglen yn ddiweddar
  • Ein cenhadaeth 
     Gwneud y Fro yn lle diogel ac iach lle gall unigolion, plant a theuluoedd fyw eu bywydau i’r eithaf

  • Ein gweledigaeth 
     Diwallu anghenion unigolion a chymunedau drwy ddarparu gwasanaethau o safon, mewn partneriaeth ag eraill, sy'n parchu amrywiaeth a hyrwyddo annibyniaeth

 

Y Tîm Cefnogi Pobl

Mae Cefnogi Pobl yn rhoi arian grant i ddarparwyr gwasanaethau i ddarparu ystod o wasanaethau cymorth yn gysylltiedig â thai a all gynnwys:

 

    • Mapio’r gwasanaethau cymorth presennol sy’n gysylltiedig â thai
    • Cynllunio a siapio gwasanaethau'r dyfodol 
    • Monitro ac adolygu gwasanaethau presennol 
    • Casglu tystiolaeth o’r angen a’r galw am wasanaethau cymorth yn gysylltiedig â thai 
    • Gwerthuso’r ‘canlyniadau’  
    • Gwrando ar farn defnyddwyr gwasanaeth 
    • Sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn cydymffurfio ac amodau grantiau a chontractau 

 

Mae Cefnogi Pobl yn rhoi arian grant i ddarparwyr gwasanaethau i ddarparu ystod o wasanaethau cymorth yn gysylltiedig â thai a all gynnwys:

 

  • Llety a thai dros dro a rennir  

  • Tai cymorth 

  • Tai gwarchod

  • Ymyrryd mewn argyfwng

  • Cymorth ar lefel isel a pharhaus

  • Cymorth yn ôl yr angen

  • Y Gwasanaeth Larwm Cymunedol

  • Gwaith ataliol yn y maes digartrefedd

  • Llety mynediad uniongyrchol, gan gynnwys hostelau a llochesi cam-drin domestig

 

'Canlyniadau’ Cefnogi Pobl

 

‘Canlyniadau’ yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r casgliad o wybodaeth am ‘siwrnai’ defnyddiwr gwasanaeth; ei gyflawniadau a'r sgiliau a ddatblygwyd ganddo o ganlyniad i’r cymorth sy’n gysylltiedig â thai a gafodd.

 

  • Datblygu canlyniadau cefnogi pobl 

    Gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Rhwydwaith Gwybodaeth Cefnogi Pobl cenedlaethol (SPIN) yn 2008 i ystyried datblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Cefnogi Pobl yng Nghymru.

     

    Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau Cefnogi Pobl eisoes yn casglu canlyniadau ar gyfer eu gwasanaethau a’r bwriad y tu ôl i ddatblygu cyfres o ganlyniadau craidd cenedlaethol oedd casglu gwybodaeth sydd eisoes wedi'i chofnodi yng nghynlluniau cymorth defnyddwyr gwasanaeth a'i chyflwyno mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r buddion i’r gwasanaeth.

     

    Nod Cefnogi Pobl yng Nghymru oedd datblygu fframwaith canlyniadau cenedlaethol sy’n cyd-fynd ag arferion presennol darparwyr gwasanaethau heb wneud pethau'n anoddach.

    Datblygwyd fframwaith canlyniadau Cefnogi Pobl ar y cyd â thimau Cefnogi Pobl, darparwyr gwasanaethau, Cymorth Cymru a rhanddeiliaid.

  • Egwyddorion Allweddol 

     

    Mae gan bobl yr hawl i anelu at fyw bywydau diogel, annibynnol yn eu cymuned a chael diogelwch ariannol ac iechyd i fwynhau'r gymuned honno.

    Mae pobl yn wynebu gwahanol rwystrau o ran cyflawni’r uchelgeisiau hyn. Mae cymorth yn gysylltiedig â thai yn ceisio sicrhau canlyniadau i bobl sy’n gamau tuag at gyflawni'r uchelgeisiau hyn.

     

    Dylai canlyniadau ganolbwyntio ar y person, dylent fod yn fwriadol, a chael eu negodi a'u cytuno gyda'r unigolyn ac, os yw hynny’n briodol, gyda’u heiriolwyr, cefnogwyr neu ofalwyr drwy’r broses cynllunio cymorth.

     

     

    Caiff canlyniadau eu cyflawni drwy ymyriadau cymorth sy’n datrys anghenion a nodwyd a dylent alluogi'r unigolyn i reoli, deall a chyfrannu at yr holl ganlyniadau hyd eithaf eu gallu.

  • Beth yw canlyniadau cefnogi pobl 

     

    Caiff canlyniadau Cefnogi Pobl eu casglu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth unigol, cyn eu coladu i greu ‘canlyniadau prosiect’:

     

     

    Mae’r prosiect yn: Hyrwyddo Diogelwch Personol a Chymunedol

     

    Oherwydd bod pobl yn:

     

      - Teimlo’n ddiogel

     

      - Cyfrannu at eu diogelwch a lles eu hunain a phobl eraill

     

    Mae’r prosiect yn: Hyrwyddo Annibyniaeth a Rheolaeth

     

    Oherwydd bod pobl yn:

     

      - Rheoli llety

     

      - Rheoli eu perthnasau

     

      - Teimlo’n rhan o’r gymuned

     

     

     

     

    Mae’r prosiect yn: Hyrwyddo Cynnydd Economaidd a Rheolaeth o Arian

     

    Oherwydd bod pobl yn:

     

      - Rheoli arian

     

      - Cymryd rhan mewn addysg/dysgu

     

      - Ymgysylltu â chyflogaeth/gwaith gwirfoddol

     

    Mae’r prosiect yn: Hyrwyddo Iechyd a Lles

     

    Oherwydd bod pobl yn:

     

      - Iach yn Gorfforol

     

      - Iach yn Feddyliol

     

      - Byw bywyd iach a phrysur

     

    Mae'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol wrthi’n cael ei dreialu mewn nifer o Awdurdodau Lleol yng Nghymru gan gynnwys tîm Cefnogi Pobl Bro Morgannwg. Caiff y treial ei adolygu’n rheolaidd â’r nod o'i gyflwyno yn yr holl wasanaethau a ariennir gan CP ledled Cymru

Nod y rhaglen Cefnogi Pobl ac felly gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, drwy ddarparu cymorth, yw:

 

  • galluogi pobl sy'n agored i niwed i gynyddu neu gynnal eu hannibyniaeth

  • atal pobl rhag dod yn ddigartref

  • diwallu anghenion pobl sydd wedi profi digartrefedd

  • diwallu anghenion pobl a allai fod dan fygythiad o fod yn ddigartref yn absenoldeb cymorth sy'n gysylltiedig â thai

  • cynnal tenantiaeth a llety unigolion

 

Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai 

 

Gellir cael gafael ar gymorth sy'n gysylltiedig â thai fel rhan o wasanaethau llety neu drwy gymorth yn ôl yr angen. 

Mae gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn ategu amrywiaeth o wasanaethau gofal, cymorth, cyfryngu a chyngor sy'n bodoli eisoes; dylent weithio ochr yn ochr â'r gwasanaethau hyn a chydweithio â hwy ond hefyd gydnabod eu bod yn unigryw o ran y cymorth y maent yn ei ddarparu. Cliciwch yma i gael rhestr o Wasanaethau Cymorth Tenantiaeth y Fro.

 

Mae Cefnogi Pobl wedi llunio Cyfeirlyfr o Wasanaethau sy’n cynnwys manylion am yr holl wasanaethau cymorth tai sydd ar gael ym Mro Morgannwg. Mae’r cyfeirlyfr yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen cyngor neu wybodaeth.

 

Mae gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn cael eu harwain gan anghenion a nodwyd y defnyddwyr gwasanaeth ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau.

Gellir darparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai i'r grwpiau cleientiaid canlynol:


    • Pobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig (defnyddwyr gwasanaeth benywaidd a gwrywaidd)
    • Pobl ag anabledd dysgu
    • Pobl â phroblemau iechyd meddwl
    • Pobl â dibyniaeth ar alcohol
    • Pobl â dibyniaeth ar gyffuriau
    • Ffoaduriaid ag anghenion cymorth
    • Pobl ag anableddau corfforol

 

 

    • Pobl ifanc
    • Cyn-droseddwyr neu’r rhai y mae perygl iddynt droseddu
    • Pobl sy'n ddigartref neu a allai fod yn ddigartref
    • Pobl â salwch cronig 
    • Rhieni sy’n agored i niwed
    • Pobl hŷn 
    • Teithwyr sipsi

Cymorth yn ôl yr Angen

 

Mae cymorth yn ôl yr angen yn gymorth a roddir i’r defnyddiwr gwasanaeth yn ei gartref ei hun gan weithiwr cymorth. Mae gwasanaethau ar gael i denantiaid a pherchnogion tai.

 

Sut mae gwneud cais am y gwasanaeth hwn?

 

Gallwch eich atgyfeirio eich hun neu ofyn i rywun arall eich atgyfeirio am gymorth yn ôl yr angen.

Os penderfynwch eich bod am gael eich atgyfeirio at wasanaeth cymorth yn ôl yr angen, gofynnir i chi gwblhau ffurflen, ar eich pen eich hun neu gyda’n cymorth ni. Bydd hyn yn galluogi’r tîm i benderfynu a oes angen cymorth arnoch a pha Ddarparwr Cymorth fyddai orau i ddelio â’ch anghenion.

 

Os ydych eisiau eich atgyfeirio eich hun, cysylltwch â Cefnogi Pobl i wneud cais am gopi caled o’r ffurflen atgyfeirio Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai. Neu gallwch ei lawrlwytho yma:

 

Ffurflen Atgyfeirio a Risg Cymorth Cysylltiedig â Thai

 

 

Cwblhewch y ffurflen uchod a’i dychwelyd i Cefnogi Pobl.

 

Os ydych yn gysylltiedig â’r gwasanaeth digartrefedd bydd eich Swyddog Digartrefedd dynodedig yn cwblhau atgyfeiriad ar eich rhan.

 

Gwasanaeth Larwm

Mae'r cyngor yn gweithredu cynllun larwm argyfwng. Mae’n rhoi cymorth i bobl gartref gyda help technoleg a gwasanaethau ymateb cymunedol. Gall tenantiaid y Cyngor gael mynediad at wasanaethau ychwanegol am gost – i gael gwybod mwy ewch i Gwasanaethau Larwm Telecare (valeofglamorgan.gov.uk)

 

Cysylltwch â:

Tîm Cefnogi Pobl

Tai Sector Cyhoeddus

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

01446 709793

supportingpeople@valeofglamorgan.gov.uk