Cost of Living Support Icon

Ymglymu Defnyddwyr Gwasanaeth

Yn 2009 comisiynodd y tîm Cefnogi Pobl Rowan Associates i ddatblygu Fframwaith Ymglymu Defnyddwyr Gwasanaeth. Llywiwyd y Fframwaith gan farn a dymuniadau defnyddwyr gwasanaeth fel y canfuwyd nhw mewn ymchwil a wnaed ddiwedd 2009/dechrau 2010.

 

Fframwaith Ymglymu Defnyddwyr Gwasanaeth

 

Y prif negeseuon a ddaeth i law drwy’r ymchwil oedd:

  • Yn gyffredinol, mae’n well gan ddefnyddwyr gwasanaeth gael trafodaethau anffurfiol gyda phobl maen nhw'n ymddiried ynddynt
  • mae darparwyr gwasanaeth yn creu ystod eang o gyfleoedd ar gyfer ymglymu gyda defnyddwyr gwasanaeth ac yn buddsoddi llawer o amser yn gwneud hyn  
  • Ni fyddai haenen arall o ymglymiad ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ar lefel y rhaglen Cefnogi Pobl yn briodol.  

 

Y rheswm dros hyn yw bod ymglymu rhwng defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr cymorth eisoes ar waith ar lefel project a lefel sefydliadau, ac mae gan ddefnyddwyr gwasanaeth hefyd gyfle i ymwneud â'u landlord pan fo'r landlord yn sefydliad gwahanol i'r un sy'n darparu cymorth. Awgrymir felly na fyddai’n ddefnyddiol creu lefel arall o ymglymiad gyda Chefnogi Pobl, ac y byddai'n peri dryswch.

 

Mae Cefnogi Pobl eisoes yn chwarae rôl yn y gwaith o sicrhau bod pobl sy'n cael cymorth tai drwy wasanaeth a ariennir gan Genfogi Pobl yn cael cyfle o roi llais i’w barn a sicrhau bod eu cynllun cefnogi yn cael ei lywio gan y defnyddiwr gwasanaeth. 

 

Mewn ymateb i’r Fframwaith Ymglymiad Defnyddwyr Gwasanaeth, mae Cefnogi Pobl wedi datblygu cynllun gweithredu i sicrhau gwelliant parhaus ym maes ymglymiad defnyddwyr gwasanaeth ac adeiladu ar y cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli.

 

  • Beth yw Cytundeb Fframwaith?

    Mae Cytundeb Fframwaith yn gytundeb rhwng y prynwr (y Cyngor) a’r darparwr/wyr (darparwyr gwasanaethau yn ymwneud â chymorth tai), lle mae’r ddau barti yn cytuno termau darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol, heb ymrwymo ar yr adeg honno i werth penodol i’r gwasanaeth neu gontract.

     

    O ran Cefnogi Pobl, bydd y Cytundeb Fframwaith yn gweithredu fel rhestr 'darparwyr cymeradwy'.

  •  A gafwyd cymeradwyaeth i alluogi Cefnogi Pobl i sefydlu Cytundeb Fframwaith?

    Cafwyd caniatâd yn Ebrill 2010 gan Bwyllgor Cabinet Tai a Diogelwch yn y Gymuned. Rhoddwyd caniatâd i dendro am Gytundeb Fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth yn ymwneud â thai, wedi eu cyllido gan Grant Refeniw Cefnogi Pobl (GRCP). Dilynwyd y broses gaffael gorfforaethol.

  • Pam bod Cefnogi Pobl wedi cyflwyno Cytundeb Fframwaith?

    Sefydlwyd Cytundeb Fframwaith i sicrhau bod tendro am wasanaethau cymorth tai ac ail-dendro gwasanaethau cefnogi tai sydd eisoes ar waith ac a gyllidir gan Grant Refeniw Cefnogi Pobl yn cydymffurfio â Gorchmynion Sefydlog Contractau'r Cyngor, yn dilyn egwyddorion Cyfamod y GE a phan yn berthnasol, yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Gyfunol y Comisiwn Ewropeaidd ar gaffael cyhoeddus, fel y'i gweithredwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2006.

  • A roddwyd gwybod i ddarparwyr gwasanaeth presennol?

    Hysbyswyd pob darparwr gwasanaeth presennol yn y Fro drwy e-bost. Trafodwyd cyflwyno Cytundeb Fframwaith hefyd gan y Grŵp Cydgysylltu Cefnogi Pobl. Hysbyswyd Cymorth Cymru, y sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr cymorth tai yng Nghymru hefyd.

  • Sut cafodd y Cytundeb Fframwaith ei hysbysebu?

    Hysbysebwyd y Cytundeb Fframwaith ar wefan PrynwchiGymru ac yn Inside Housing a’r Western Mail.

  • Sut cafodd y Cytundeb Fframwaith ei sefydlu?

    Sefydlwyd y Cytundeb Fframwaith drwy system dendro ffurfiol, hyd at a chan gynnwys y cam Holiadur Cyn-Gymhwyso (HCG). Rhoddwyd lle ar y Cytundeb Fframwaith darparwyr gwasanaeth cymeradwy i ddarparwyr a gafodd eu cymeradwyo ar y cam HCG gan iddyn ennill sgôr o 70%.

     

    Bydd pob darparwr gwasanaeth wedi ei gymeradwyo i ddarparu gwasanaethau cymorth i hyd at, neu ar gyfer pob un o'r grwpiau cleient. Er mwyn sicrhau contractau yn y dyfodol, bydd darparwyr gwasanaeth sydd ar y Cytundeb Fframwaith yn cael eu gwahodd i dendro ar gyfer contractau newydd neu ar gyfer rhai sy’n cael eu hail-dendro.

  • Darparwyr Cymeradwy

    Gwnaeth y canlynol gais llwyddiannus i fod ar Gytundeb Fframwaith Cefnogi Pobl Cyngor Bro Morgannwg i ddarparu gwasanaethau cymorth tai:

     

    • Gweithredu dros Blant
    • Atal Y Fro
    • Elusen Catch 22 Cyf
    • Gofal Cymunedol Compass Cyf
    • Dimensions Uk Cyf
    • Tai Sylfaen Cyf
    • Gofal a Chymorth Gwalia
    • Gofal Cymru
    • Hafal
    • Hafan Cymru
    • Cymdeithas Dai Hafod Cyf
    • Innovative Trust
    • Kaleidoscope
    • Llamau
    • NCE (Nacro Community Enterprises) Ltd
    • Pen Yr Enfys
    • Reach
    • Byddin yr Iachawdwriaeth
    • Solas Cymru Cyf
    • Stonham
    • STTEPS
    • Cymdeithas Dai Taf
    • Cymuned Wallich Clifford
    • TLC
    • Cymdeithas Dai United Welsh
    • Voyage

     

  • Gwybodaeth Bellach
    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jenny Price, Swyddog Strategaeth Tai ar 01446 709326 neu housingstrategy@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Rhowch wybod am eich barn 

Mae gan Cefnogi Pobl wastad ddiddordeb ym marn eu defnyddwyr gwasanaeth. Ydych chi’n derbyn gwasanaeth cymorth tai ar hyn o bryd, neu wedi yn y gorffennol?

 

Lawrlwythwch a chwblhewch Holiadur Defnyddwyr Gwasanaeth a rhoi eich barn ar y gwasanaeth:

 

 

Gellir postio'r holiadur neu’i e-bostio atom drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

 

Manylion Cyswllt Cefnogi Pobl 

Post:

Cefnogi Pobl,

Cyngor Bro Morgannwg, 

Depo’r Alpau,

Quarry Road,

Gwenfô.

CF5 6AA

 

Nodwch: Mae’r farn a rannwch gyda ni yn gyfrinachol, ac ni fydd y wybodaeth yn cael ei rhoi i'ch darparwr gwasanaeth neu weithiwr cymorth.

 

Does dim angen i chi ddweud wrthym pwy ydych chi, ond byddai’n ddefnyddiol pe baech yn dweud wrthym pa wasanaeth a dderbynioch ac a ydych yn ddefnyddiwr cyfredol neu’n un a ddefnyddiodd wasanaethau yn y gorffennol.