Cost of Living Support Icon

Supporting People Cefnogi PoblGwybodaeth i Ddarparwyr Cymorth

Gwybodaeth a dolenni defnyddiol ar gyfer darparwyr gwasanaethau cymorth tai ym Mro Morgannwg.

 

 

Gwybodaeth i Ddarparwyr Cymorth

Projectau Cyfeillio Friendly AdvantAGE

Bydd y project cyffrous newydd hwn yn cynnig ystod o wasanaethau cyfeillio er mwyn lleihau unigrwydd a gwella llesiant pobl dros 50 oed yng Nghaerdydd a'r Fro. Er mwyn atgyfeirio, holwch ynglŷn â gwirfoddoli neu os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am y project, cysylltwch â Sandra Roberts, Rheolwr Project Friendly Advantage neu Cath Haines, Cynorthwy-ydd Project yng Nghanolfan y Fro ar gyfer Gwasanaethau Gwirfoddol.

 

 

 

Rhaglen Rest

Mae Nest yn rhaglen Llywodraeth Cymru a ddyluniwyd i helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd i dalu eu biliau ynni. Mae’r cynllun yn cynnig gwelliannau cartref am ddim i aelwydydd er mwyn eu helpu i wresogi eu cartrefi’n fwy effeithlon ac aros yn gynnes heb dalu costau ynni enfawr.

 

Er mwyn derbyn y gwelliannau drwy Nest, mae'n rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, rhaid i’ch eiddo fod â sgôr effeithlonrwydd ynni o F neu G a dan amodau meddiannaeth breifat neu rentu preifat.

 

Nest yw Cynllun Tlodi Tanwydd Newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a British Gas yw’r partner cyflawni ar gyfer y cynllun. Gwybodaeth Bellach: