Cost of Living Support Icon

Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Morglawdd Caerdydd/Penarth

Mae'r Cyngor wedi comisiynu'r ymgynghorwyr Capita i wneud astudiaeth Cam Un WelTAG (Canllaw Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru) i ddatblygu ac arfarnu opsiynau posibl ar gyfer gwella trafnidiaeth gynaliadwy o fewn a rhwng morglawdd Caerdydd a Phenarth.

Cardiff Bay Barrage

Bydd yr astudiaeth yn ceisio archwilio ystod o gyfleoedd o fewn ardal yr astudiaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar y potensial i wneud y canlynol:

  • Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus
  • Annog newid mewn dulliau teithio yn hytrach na defnyddio ceir preifat  
  • Lleihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd a chefnogi mwy o weithgarwch economaidd
  • Cynyddu hygyrchedd a chysylltedd
  • Cynyddu lefelau teithio llesol i gefnogi manteision iechyd cysylltiedig
  • Creu seilwaith sy'n cefnogi buddsoddiad twristiaeth

 

Mae Cam 2 Gwerthusiad WelTAG bellach wedi ei gwblhau; gweler y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

Yn dilyn cwblhau gwerthusiad o Gam Dau WelTAG, mae’r dewisiadau canlynol wedi eu cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor i gael mynd ymlaen i werthusiad Cam Tri WelTAG:

  • DEWIS 1A:  Gwelliannau Rhwydwaith Teithio Llesol Penarth
  • DEWIS 1B: Cyswllt Pentir Penarth
  • DEWIS 3: Cyfnewidfa Drafnidiaeth Gynaliadwy Aml-fodd Cogan

Diweddaru:   
Nid yw'r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu mwyach gan nad oedd yn denu cyllid gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i WelTAG Cam 2 a mwy.