Cost of Living Support Icon

Astudiaethau Trafnidiaeth

Gwybodaeth am astudiaethau a chynlluniau’r rhwydwaith trafnidiaeth ym Mro Morgannwg.

Ffurflenni Cais Am Gyllid Wedi'u Cyflwyno

Gwahoddir pob Awdurdod Lleol yng Nghymru i wneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru am gyllid Trafnidiaeth Leol.

Astudiaethau Cyfredol

 

Astudiaethau Blaenorol

 

Astudiaeth Gorsaf Drenau Sain Tathan

Ym mis Ebrill 2022 comisiynodd Cyngor Bro Morgannwg Arcadis Consultants i gynnal astudieath ddichonoldeb ragarweiniol i ddeall y potensial ar gorsaf reilffordd newydd ar reilffordd Bro Morgannwg yn Sain Tathan.

 

Astudiaeth Dichonoldeb Gorfsaf Drenau Sain Tathan (Mai 2022)

 

Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Morglawdd Caerdydd/Penarth

Mae'r Cyngor wedi comisiynu Capita ymgynghorydd i gynnal astudiaeth Cam Un a Dau WelTAG (Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) i ddatblygu ac arfarnu opsiynau posibl ar gyfer gwella trafnidiaeth gynaliadwy o fewn a rhwng morglawdd Penarth a Chaerdydd. (heb symud ymlaen ymhellach na WelTAG Cam 2 – Mawrth 2020).

 

Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Morglawdd Caerdydd Penarth

 

Cynllun Rhwydwaith Cludiant Aiport Cyffordd 34 i Gaerdydd

Comisiynodd y Cyngor ymgynghorwyr Arcadis i ymgymryd ag astudiaeth Cam Un, Dau a Dau a Mwy WelTAG (Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) i ddatblygu ac arfarnu opsiynau posibl ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cyffordd 34 yr M4 a'r A48 a oedd yn cynnwys gorsaf reilffordd parcffordd newydd wrth Gyffordd 34 (heb symud ymlaen ymhellach na WelTAG Cam 2 Plus – Mawrth 2021).

 

Gwelliannau Trafnidiaeth M4 (Cyffordd 34)

 

Astudiaeth Rhwydwaith Trafnidiaeth Dinas Powys

Comisiynodd y Cyngor ymgynghorwyr Arcadis i ymgymryd ag astudiaeth Cam Un, Dau a Dau a Mwy WelTAG (Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) i ddatblygu ac arfarnu opsiynau posibl ar gyfer gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth drwy Ddinas Powys (heb symud ymlaen ymhellach na WelTAG Cam 2 Plus – Mawrth 2021).

 

Astudiaeth Rhwydwaith Trafnidiaeth Dinas Powys

 

Cyllid teithio llesol

Dyfarnwyd swm o arian i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru i gyflawni nifer o welliannau Teithio Llesol, gan gynnwys projectau dichonoldeb, dylunio ac adeiladu bach ledled Bro Morgannwg.

 

Mae mwy o wybodaeth am gynlluniau Teithio Llesol ar gael yma: Cynlluniau Teithio Llesol